Skip to main content

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Caru’r awyr agored? Yn ystyried gyrfa mewn cadwraeth ac angen profiad? Wedi breuddwydio erioed am swydd lle gallech chi fod ym myd natur a dysgu sgiliau newydd? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Rydyn ni’n cynnig cyfle gwych i ddau hyfforddai newydd ymuno â’n prosiect Glaswelltiroedd Gwydn yng Nghymru. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a phrofiad ochr yn ochr â sgiliau ymarferol sy’n addas ar gyfer cyflogaeth yn y sector cadwraeth modern. Rydym yn disgwyl y byddwch yn hyfforddi ac yn gweithio gyda’ch gilydd fel hyfforddeion gyda chefnogaeth lawn staff prosiect Plantlife a’r tîm ehangach o staff.

Byddwch yn cael cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd fel gwaith rheoli cynefinoedd ymarferol, sut i gynnal arolygon safle ar gyfer planhigion a chynefinoedd prin, sgiliau digidol a chyfathrebu a helpu i gynnal digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd.

Mae Glaswelltiroedd Gwydn yn brosiect partneriaeth newydd, tair blynedd, ar gyfer Cymru gyfan, sy’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar wella cyflwr y cynefinoedd a’r rhywogaethau sydd i’w cael mewn glaswelltiroedd gwarchodedig ledled Cymru.

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig o unrhyw gefndir a hoffai gyfle i ddatblygu a dilyn gyrfa yn y sector cadwraeth. Rhaid i chi fwynhau gweithio gydag eraill a dysgu oddi wrth eraill a bod â sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Yn fwy na dim rhaid bod gennych ddyhead i ddysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored a bod yn barod i deithio ledled Cymru.

Nid oes angen unrhyw brofiad cadwraeth blaenorol na chymwysterau cysylltiedig â chadwraeth i wneud cais am y rôl yma. Mae’r hyfforddeiaeth yma wedi’i chynllunio i greu cyfle datblygiad proffesiynol i bobl sy’n dymuno ymuno â’r sector. Felly, dylai’r ymgeiswyr fod â llai na dwy flynedd o brofiad â thâl neu’n ddi-dâl yn y sector cadwraeth (heb gynnwys gwaith academaidd).

Our Employee Benefits

Working at Plantlife will give you a friendly and flexible working environment, excellent benefits and an opportunity to really make a difference. More reasons why Plantlife is a great place to work:

Renumeration

  • A fair and competitive pay structure
  • 6% contributory pension scheme
  • 36 days annual leave per year including bank holidays increasing with length of service
  • Staff assistance emergency loan
  • Death in service scheme

Health and Wellbeing

  • Generous Occupational sick pay
  • Employee Assistance Programme
  • Free Flu Jabs
  • Free eye test (up to £25) and £55 contribution towards spectacles for work based VDU use
  • Paid bereavement and compassionate leave

Flexibility

  • Formalised flexible working (dependent on role)
  • Hybrid working inclusive of working from home allowance
  • 5 days per year (pro rata) time off for dependents
  • Up to 2 days paid leave for unforeseen domestic emergencies