Skip to main content

Am y rôl

Gwelwyd dirywiad o 90% mewn glaswelltiroedd lled-naturiol yn ystod y ganrif ddiwethaf a dim ond 9% o Gymru maen nhw’n ei orchuddio bellach. Mae gweddill y glaswelltiroedd yn wynebu bygythiadau oherwydd datblygiad, llygredd ac arferion rheoli tir anghynaliadwy.

Rydyn ni’n creu newid cadarnhaol drwy brosiect Glaswelltiroedd Gwydn – mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i warchod, gwella ac adfer cynefinoedd glaswelltir lled-naturiol ledled Cymru.

Rydyn ni’n ehangu ein tîm ar gyfer blwyddyn brysur o gyflawni yn 2025 ac yn ceisio recriwtio i 2 swydd hyfforddai cadwraeth i’n helpu ni.

Bydd y rôl hyfforddai yma’n cyfrannu’n weithredol at redeg y prosiect o ddydd i ddydd, drwy sesiynau hyfforddi sy’n cael eu darparu mewn technegau rheoli glaswelltir, arolygon planhigion a chynefinoedd, digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, a chynnwys blogiau a chyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach drwy ein gwaith.

Byddwch yn cael cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd fel gweithio mewn partneriaeth, rheoli prosiectau, gwaith rheoli cynefinoedd ymarferol, sut i gynnal arolygon safle ar gyfer planhigion a chynefinoedd prin, sgiliau digidol a chyfathrebu a helpu i gynnal digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd.

Amdanoch chi

Pa sgiliau / profiad / rhinweddau personol ydych chi’n chwilio amdanynt?

Rydyn ni’n chwilio am bobl frwdfrydig o unrhyw gefndir a hoffai gyfle i ddatblygu a dilyn gyrfa yn y sector amgylcheddol yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno prosiect cadwraeth amlweddog sy’n canolbwyntio ar laswelltir, gan weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir, colegau a gwirfoddolwyr.

Rhaid i chi fwynhau gweithio gyda phobl a’u cynnwys mewn cadwraeth. Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Yn fwy na dim rhaid bod gennych ddyhead i ddysgu sgiliau newydd a bod yn barod i deithio ledled Cymru yn aml.

Mae’r rôl hon yn rôl yn y cartref yn bennaf, fel rhan o dîm sy’n ynysig yn ddaearyddol.

 

 

Our Employee Benefits

Working at Plantlife will give you a friendly and flexible working environment, excellent benefits and an opportunity to really make a difference. More reasons why Plantlife is a great place to work:

Renumeration

  • A fair and competitive pay structure
  • 6% contributory pension scheme
  • 36 days annual leave per year including bank holidays increasing with length of service
  • Staff assistance emergency loan
  • Death in service scheme

Health and Wellbeing

  • Generous Occupational sick pay
  • Employee Assistance Programme
  • Free Flu Jabs
  • Free eye test (up to £25) and £55 contribution towards spectacles for work based VDU use
  • Paid bereavement and compassionate leave

Flexibility

  • Formalised flexible working (dependent on role)
  • Hybrid working inclusive of working from home allowance
  • 5 days per year (pro rata) time off for dependents
  • Up to 2 days paid leave for unforeseen domestic emergencies