Skip to main content

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Byddwch yn cyfrannu at ganlyniadau Plantlife o fewn prosiect partneriaeth Natur am Byth. 

Byddwch yn cyflawni prosiect Gororau Cymru Natur am Byth ym Mhowys, gan weithio ochr yn ochr â Swyddog Prosiect y Gororau Cyfoeth Naturiol Cymru – gan gynnwys gweithgareddau cadwraeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. 

Byddwch hefyd yn cefnogi prosiectau ardal Natur am Byth gyda’u gwaith adfer rhywogaethau fel sy’n briodol. 

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydym yn chwilio am rywun sydd wrth ei fodd yn ymgysylltu â phobl yn y byd naturiol, yn gweithio mewn amgylchedd partneriaeth, ac yn hyrwyddo cadwraeth rhywogaethau. Byddwch yn unigolyn brwdfrydig a threfnus, yn gallu ein helpu i gyflawni cadwraeth ac allgymorth ar gyfer rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru. Bydd gennych angerdd dros blanhigion, a brwdfrydedd i ddysgu mwy am gennau, bryoffytau a charoffytau. 

Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?

Mae Natur am Byth yn gweithio gyda rhai o’r rhywogaethau sydd mewn perygl mwyaf o ddiflannu yng Nghymru. Yn y rôl hon byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r canlyniadau ar gyfer rhai o’n rhywogaethau prinnaf, ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd i gymryd rhan yn eu cadwraeth.