Skip to main content

Clod Rhyngwladol i Ffilm Gampus am Fwsogl, Wedi’i Chreu Gan Bobl Ifanc Niwroamrywiol

16 Mawrth 2026

Mae ffilm am fwsogl — a honno wedi’i chreu gan bobl ifanc niwroamrywiol o’r canolbarth —
wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol yn y byd ffilm a’r celfyddydau, gan fwrw goleuni ar ran
o fyd natur sy’n aml yn cael ei hanwybyddu. Mae’r ffilm hefyd wedi amlygu lleisiau’r bobl
ifanc a fu wrthi’n astudio’r cyfan.

Mae Gentle as Moss on Stone, gan yr artistiaid boredomresearch, wedi ennill saith o wobrau mawr
ac wedi’i henwebu am bedair gwobr arall mewn gwyliau ffilm yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Comisiynwyd y ffilm fel rhan o brosiect ymgysylltu celfyddydol i gyd-fynd â rhaglen adfer
rhywogaethau Natur am Byth!, gyda chymorth arbenigol gan Plantlife Cymru a Cyfoeth Naturiol
Cymru.

Meddai Vicky Isley a Paul Smith o boredomresearch: “Roedden ni eisiau creu prosiect ymgysylltu
cyhoeddus a fyddai’n hoelio’r synhwyrau ac yn gwahodd pobl ifanc i gael perthynas ddyfnach, fwy
personol â’r byd naturiol – ac â mwsogl yn benodol. Aethon ni ati i ddatblygu cyfres o weithdai a oedd yn edrych ar gymhlethdod, bregusrwydd a gwydnwch annisgwyl mwsogl, a hynny gyda dau grŵp o bobl niwroamrywiol yng Ngholeg y Drenewydd, Powys.”

Dylanwadodd canlyniadau’r gweithdai hyn ar wedd weledol ac emosiynol y ffilm derfynol, Gentle as
Moss on Stone, a aeth yn ei blaen i gipio sawl gwobr. Cafodd rhannau o’r ffilm eu hysbrydoli gan
ddelweddau microsgopaidd a grëwyd gan y myfyrwyr, tra bo’u syniadau am obaith, pryderon a
hunaniaeth wedi arwain at ddatblygu deg o rywogaethau mwsogl dychmygus sy’n ymddangos drwy’r
holl waith.

Yng ngeiriau un o’r cyfranogwyr, Dante:“Diolch am roi agoriad llygad i ni i ryfeddodau byd natur, ac am ein dysgu ni am wahanol rywogaethau mwsogl sy’n dibynnu ar yr hinsawdd, ar gynefinoedd, ar eu lleoliad, ac ar ble maen nhw’n mwynhau ffynnu. Fe ges i fy syfrdanu bod ’na 12,000 rhywogaeth o fwsogl!”

Meddai Thomas, un arall o’r bobl ifanc: “Gan amlaf, fyddwn i ddim yn malio am bethau fel hyn, ond roedd yn ddiddorol dros ben…”

Cafodd y cyfranogwyr gyfle ymarferol i ddefnyddio microsgopau, gan dynnu ffotograffau o ddau o’r
mwsoglau prinnaf yng Nghymru – Afal-fwsogl Bartramia aprica a Mwsogl troellog Tortula canescens.
Buon nhw hefyd yn dylunio setiau ffilm ar raddfa fechan, ar thema mwsogl, gan ddefnyddio
gwrthrychau a oedd yn bwysig iddyn nhw’n bersonol.

Mae Gentle as Moss on Stone yn portreadu mwsogl fel planhigyn sy’n rhoi arweiniad tyner ond
grymus i ni. Mae’n symbol o lonyddwch, gwydnwch a phrydferthwch, ond prin y bydd pobl yn sylwi
arno, a hynny’n ddrych o brofiadau bywyd y bobl ifanc a helpodd i ddod â’r prosiect hwn yn fyw.

Meddai Ellie Baggett, Swyddog Prosiect Plantlife Cymru: “Roedden ni wrth ein boddau’n cefnogi’r holl brosiect, drwy roi gwybodaeth arbenigol am ddau o ’r mwsoglau prinnaf yng Nghymru – Afal-fwsogl Bartramia aprica a Mwsogl troellog Tortula canescens. Buon ni hefyd yn hwyluso ymweliadau â safleoedd, gan gynnwys cysylltu artistiaid â Gardd Fotaneg. Genedlaethol Cymru, lle mae’r rhywogaethau’n cael eu tyfu oddi ar y safle. Mae’n wych bod ffilm am gadwraeth yn cael y fath sylw – ac mae pawb yn croesi’u bysedd y bydd y ffilm yn parhau i gael clod gan y beirniaid!”

Y gwobrau mae’r ffilm wedi’u hennill:
• Wythnos Ffilmiau Southampton — Gwobr Michael Fuller am y Ffilm Orau, Gwobr y
Gynulleidfa, Ffilm Artistig Orau
• Gŵyl Ffilmiau Llundain Rob Knox — Gwobr am y Golygu Gorau
• Gŵyl Ffilmiau Gwyddoniaeth RAW — Gwobr am y Ffilm Fer Animeiddiedig Broffesiynol Orau
• Gŵyl Ffilmiau Folkestone — Gwobr am Ffilm Arbrofol a Chelfyddydol Orau’r Deyrnas Unedig
• Gŵyl Ffilmiau a Chelfyddydau Bracciano — Gwobr am y Ffilm Fer Artistig Orau

Enwebiadau am wobrau:
• Gŵyl Ffilmiau Byrion Aesthetica — Y Ffilm Fer Artistig Orau
• Gŵyl Ffilmiau Gwyddoniaeth Braga — Gwobr am y Ffilm Fer Arbrofol Orau
• Gŵyl Fynydd Kendal — Gwobr Animeiddio
• Biophilia Festival Internacional de Cine — Gwobr Animeiddio