Skip to main content

Datganiad oddi wrth Plantlife Cymru – Cynllun Ffermio Cynaliadwy

15 Gorffennaf 2025 

Ffermwyr yn derbyn eglurder ond does gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddim ddigon o uchelgais nac arian i sbarduno newid er budd natur.

Datganiad oddi wrth Plantlife Cymru: ffermwyr Cymru yn derbyn eglurder ynglŷn â Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ond does ganddo ddim digon o uchelgais nac arian i sbarduno newid er budd natur  

Dywedodd Lesley Fletcher, Pennaeth Plantlife Cymru: “Rydym yn falch bod ffermwyr Cymru ar ôl deng mlynedd o gynllunio, ymgynghori a negodi, wedi cael eglurder ynglŷn â’r hyn mae angen iddyn nhw wneud i gael mynediad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) pan mae’n agor mis Ionawr 2026. 

Rydym yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod amod bod rhaid i 10% o dir ffermwr gael ei reoli’n weithredol ar gyfer bioamrywiaeth ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd; mae hyn yn arwyddo bod uchelgais yma ac mae Plantlife Cymru’n cymeradwyo hyn. 

Er gwaethaf hyn, rydym yn poeni na fydd y CFfC fel y mae’n gwella cyflwr truenus byd natur yng Nghymru. Ni fydd yr Haen Gyffredinol a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn sbarduno’r newid sydd ei hangen ar fyrder os ydym am gwrdd â’r ymrwymiadau rhyngwladol ar fyd natur yn y Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang megis rheoli 30% o dir er budd natur erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi sôn y bydd newid go iawn ar y ddaear er budd natur yn digwydd o ganlyniad i Haenau Dewisol a Chydweithredol y cynllun – dim manylion hyd yn hyn.  Mae perygl y bydd y cymhelliad ariannol i ffermwyr gwneud mwy er budd natur yn un gwan oherwydd mae 70% o’r cyllid eisoes wedi cael ei ddyrannu i’r Haen Gyffredinol. Mae hwn yn fargen ddrwg ar gyfer bioamrywiaeth ac mae’n peryglu’r targedau mae Llywodraeth Cymru ei hun yn y broses o’u gosod yn ei Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywiodraethant a Thargedau Bioamrywiaeth). 

Mae Plantlife Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i greu cymhellion priodol er mwyn galluogi ffermwyr i wyrdroi’r llif o golledion byd natur a lliniaru effeithiau newid hinsawdd. O ystyried y pwysau ariannol presennol bydd rhaid i hyn yn cynnwys fframweithiau cryf a pholisïau i ddenu arian preifat i weithio ochr yn ochr â’r CFfC. Dim ond arian go iawn all alluogi i newid go iawn ddigwydd. 

Rydym hefyd yn annog y Llywodraeth i sicrhau na fydd unrhyw goed sydd yn cael eu plannu o dan y Cynllun yn cael eu rhoi mewn cynefinoedd o ansawdd da sydd eisoes yn darparu buddion er lles byd natur, megis glaswelltiroedd yn gyforiog o rywogaethau.