Skip to main content

Niferoedd Mwy Nag Erioed o Ffyngau Prin a Nodedig Wedi’u Darganfod yng Nghymru a ledled y DU

3 Hydref 2025

 

Pink waxcap fungi growing in short green lawn

Cannoedd o safleoedd newydd ar gyfer y Cap Cwyr Pinc a’r Cwrel Fioled wedi’u darganfod fel rhan o Cyfrif Capiau Cwyr Plantlife Cymru 

Mae Gogledd Cymru wedi dod i’r amlwg fel llecyn allweddol ar gyfer rhai o ffyngau glaswelltir prinnaf a mwyaf trawiadol y DU, diolch i arolwg gwyddoniaeth y dinesydd Plantlife o ffyngau, Cyfrif Capiau Cwyr. 

Mae cofnodion newydd a ddarganfuwyd gan Cyfrif Capiau Cwyr Plantlife Cymru yn cynnwys safleoedd newydd ar gyfer y Cap Cwyr Pinc mewn mynwentydd, gerddi a thir fferm ar draws Cymru gan gynnwys Bangor, Aberystwyth a Gelli Gandryll ochr yn ochr â safleoedd eraill ledled y DU. 

Mewn data a ddadansoddwyd rhwng 2020 a 2024, datgelwyd tri chant o leoliadau newydd ar gyfer y Cap Cwyr Pinc Porpolomopsis calyptriformis sydd wedi cael ei ddynodi’n rhywogaeth “Bregus ” ar Restr Goch fyd-eang yr IUCN o Rywogaethau dan Fygythiad ac sy’n cael ei adnabod oddi wrth ei gap pinc, a 18 o leoliadau newydd ar gyfer y Cwrel Fioled Clavaria zollingeri, rhywogaeth brin sy’n cael ei hadnabod oddi wrth ei strwythur canghennog fioled llachar.  

Mae’r darganfyddiadau hyn yn cynrychioli cam mawr ymlaen mewn gwybodaeth. Cyn Cyfrif Capiau Cwyr, ychydig dros 1,000 o safleoedd ar gyfer y Cap Cwyr Pinc a 183 o safleoedd ar gyfer y Cwrel Fioled oedd wedi’u cofnodi yng nghronfa ddata Cymdeithas Fycolegol Prydain. 

Violet Coral Fungus

Dywedodd Dr Aileen Baird, Uwch Swyddog Cadwraeth Plantlife ar gyfer Ffyngau: “Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu’r brwdfrydedd anhygoel dros ffyngau a phŵer gwyddoniaeth y dinesydd. Gyda mwy o bobl nag erioed yn cymryd rhan yn Cyfrif Capiau Cwyr, rydyn ni’n casglu’r data hanfodol sydd eu hangen i warchod y rhywogaethau rhyfeddol yma. 

“Mae gennym ni lawer i’w ddysgu o hyd – mae mwy na 90% o rywogaethau o ffyngau’n parhau i fod yn anhysbys i wyddoniaeth – ac mae’r hinsawdd hefyd yn dylanwadu ar batrymau ffrwytho. Ond yr hyn sy’n amlwg yw y gall unrhyw un, yn unrhyw le, chwarae rhan yn y broses o ddarganfod a gwarchod ffyngau.” 

Mae’r DU yn gadarnle i ffyngau glaswelltir, ond mae’r canlyniadau hyn wedi synnu mycolegwyr, sydd wedi bod yn cofnodi ffyngau yng nghronfa ddata Cymdeithas Fycolegol Prydain ers degawdau. 

Dywedodd Clare Blencowe, aelod o Bwyllgor Mycoleg Maes a Chadwraeth Cymdeithas Fycolegol Prydain: “Mae darganfod cymaint o safleoedd newydd ar gyfer y Cap Cwyr Pinc a’r Cwrel Fioled yn wirioneddol drawiadol. Mae’r ffyngau yma’n ddangosyddion hanfodol o gyflwr ein glaswelltiroedd ni ac yn tynnu sylw at y fioamrywiaeth sy’n bodoli o’n cwmpas ni yn ein trefi, yn ogystal ag yng nghefn gwlad. Diolch i ymroddiad ein harolygwyr gwirfoddol, mae gennym ni ddarlun llawer cliriach bellach o ble mae’r rhywogaethau dan fygythiad yma’n goroesi.” 

Daeth cyfran sylweddol o arolygon yn 2024 o lawntiau, mynwentydd, ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd dymunol eraill – llecynnau sydd ddim fel rheol yn cael eu cynrychioli mewn arolygon cadwraeth ond sy’n profi i fod yn hafan newydd a phwysig i ffyngau. 

Arolwg blynyddol Plantlife yw Cyfrif Capiau Cwyr, sy’n cael ei gynnal bob hydref. Ei nod yw dod o hyd i safleoedd newydd sy’n cynnwys ffyngau glaswelltir, drwy gofnodi’r ffyngau sy’n cael eu darganfod mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y wlad. Mae arolwg eleni’n cael ei gynnal rhwng 15 Medi a 31 Rhagfyr 2025. 

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i Cymryd rhan yn Cyfrif Capiau Cwyr 2025  

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Prosiect gwyddoniaeth y dinesydd cenedlaethol Plantlife yw Cyfrif Capiau Cwyr sy’n ymroddedig i gofnodi ffyngau glaswelltir. Cafodd ei lansio yn 2020. 
  • Diffiniad o gapiau cwyr = Mae capiau cwyr yn grŵp o ffyngau glaswelltir. Mae ganddynt gyrff ffrwytho lliwgar, gyda gwead cwyraidd, a thagellau gyda gofod clir rhyngddyn nhw.    
  • Diffiniad o ffyngau = Mae ffyngau’n deyrnas fyw sy’n cynnwys madarch, llwydni a burum. Er eu bod yn perthyn yn agos, nid yw ffyngau’n blanhigion nac yn anifeiliaid. 
  • Cyflwynwyd bron i 600 o arolygon yn 2024, y nifer uchaf hyd yma yn ystod y 5 mlynedd y mae Waxcap Watch wedi bod yn weithredol. 
  • Mae’r Cap Cwyr Pinc Porpolomopsis calyptriformis wedi’i ddynodi fel rhywogaeth “Bregus ” ar Restr Goch fyd-eang yr IUCN o Rywogaethau dan Fygythiad. 
  • Mae’r Cwrel Fioled Clavaria zollingeri yn rhywogaeth brin sy’n cael ei hadnabod oddi wrth ei strwythur canghennog fioled llachar. Mae hefyd ar Restr Goch yr IUCN fel ‘ rhywogaeth ‘Bregus’ ‘. 
  • Wrth ddadansoddi’r cynefinoedd, mae lefel uchel o gyfranogiad o laswelltiroedd trefol , gan dynnu sylw at rôl mynwentydd, lawntiau ac ymylon ffyrdd sy’n cefnogi amrywiaeth o ffyngau. 

Lluniau a fideo ar gael i’w defnyddio gyda chydnabyddiaeth: 

https://www.dropbox.com/scl/fo/sepqknrwz10e5r0sz2pux/ABg54Z5CzzLTBehIClQdXbI?rlkey=egwx58ydx4ao8vkdar8dh3ofq&st=mmpphslg&dl=0