Skip to main content

Drwy beidio â thorri gwair ym mis Mai rydych wedi ailgynnau eich blodau gwyllt ac wedi rhoi achubiaeth y mae mawr ei hangen i’ch peillwyr. Gobeithio y gallwch chi eisoes weld y gwahaniaeth rydych chi wedi’i wneud a’ch bod yn falch gyda’r canlyniadau (rydym ninnau yn sicr felly!).

Nawr bod y tymor twf yn symud i fis Mehefin, does dim rhaid i bethau fynd yn flêr neu ordyfu a gallwch barhau i gadw man ar gyfer eich bywyd gwyllt lleol. Os ydych chi’n meddwl tybed beth i’w wneud neu’n poeni nad yw’ch peiriant torri gwair yn gallu ymdopi – mae gennym ni rai syniadau am sut y gallwch chi adeiladu ar eich llwyddiant tra’n cadw pethau dan reolaeth! Ond yn bwysig, mae eich lawnt neu fan agored yn gynfas i chi a chi sy’n dal y brwsh paent.

Gwahanol hydoedd glaswellt

Mae gennych chi gyfle nawr i ddylunio eich tirwedd blodau gwyllt.  Mae bywyd gwyllt glaswelltir yn dod mewn gwahanol flasau a gallech chi ymgorffori’r gwahanol elfennau hyn yn eich cynllun.

Efallai y bydd angen i chi gadw eich llwybrau a’ch ardaloedd hamdden wedi’u torri’n fyr ond efallai y gallech chi fframio’r ardaloedd swyddogaethol yma gyda lawnt sy’n blodeuo a’i thorri unwaith bob 4 i 8 wythnos. Mae hyn yn caniatáu i flodau gwyllt cyffredin, sy’n tyfu’n isel, aildyfu ac ailflodeuo drwy gydol yr haf tra byddwch chi’n cadw uchder byrrach, taclusach. Dychmygwch garped o feillion coch a gwyn, meillion euraidd, pyllau o’r feddyges las ac ewyn gwyn y milddail. Fe welwch chi, hyd yn oed yn ystod y sychder mwyaf ffyrnig, y bydd y blodau gwyllt yn aros yn wyrdd ac yn dal ati i flodeuo a’r glaswelltau’n troi’n frown ac yn mynd i gysgu.

Buff tailed bumblebee on Knapweed

Gadael i bethau dyfu…

Os ydych chi’n teimlo’n fwy beiddgar, efallai y byddwch chi eisiau treialu gadael rhywfaint o’ch gofod agored heb ei dorri am gyfnod hirach. Drwy dorri gwair ddwywaith y flwyddyn y tu allan i fis Ebrill i fis Gorffennaf, fe allech chi geisio ail-greu effaith dôl wair draddodiadol. Mae hyn yn caniatáu i flodau sy’n tyfu’n dalach fel y gludlys coch, y bengaled borffor a’r clafrllys rhuddgoch addurno’ch gofod gyda throellennau mwy deinamig o liwiau wedi’u hanimeiddio gan awel yr haf. Fe allwch chi ddarlunio’r darn yma o laswelltir fel border bythol, llysieuol, nad oes angen ei chwynnu, ei fwydo na’i ddyfrio byth. Mae’n rhoi mwy o werth i fywyd gwyllt oherwydd pan gaiff ei adael heb i neb darfu arno am gyfnod hirach, fe all y blodau gwyllt a’r glaswelltir gynnal cylch bywyd yr infertebrata hynny sy’n dibynnu arnyn nhw.

Efallai y bydd y rhai mwyaf anturus yn eich plith chi eisiau mynd â hyn i’r cam nesaf o amgylch ffin eich plot. Ni fydd glaswelltir sy’n cael ei adael heb ei dorri’n cynnal cymaint o flodau gwyllt ond bydd yn darparu noddfa hanfodol i fywyd gwyllt yn ystod hafau poeth a gaeafau oer. Bydd twmpathau o laswellt a pherlysiau tal yn datblygu, ac mae’r strwythur yma’n ffordd wych o ddarparu hafan arall i fywyd gwyllt sy’n ategu’r ardaloedd mwy cyfoethog o flodau. Dim ond ychydig droedfeddi o led sydd angen i’r lleiniau lloches yma fod ym môn eich gwrych chi, a dim ond ychydig o waith rheoli sydd ei angen arnyn nhw os byddwch chi’n torri’r egin coediog neu pan fydd y mieri’n mynd yn ormod. Byddwch yn darparu amddiffyniad hanfodol i lyffantod a llygod pengrwn a bydd pennau’r hadau’n gweithredu fel bwyd adar naturiol ar gyfer pincod sy’n ymweld.

A mown lawn with tools used for cutting grass, surrounded by a flowering tall grass border

Sut i dorri gwair (os ydych chi eisiau)

Os ydi eich tyfiant glaswelltog wedi mynd yn ormod i chi, peidiwch â chynhyrfu. Dydi pob peiriant torri gwair ddim yn gallu ymdopi â llystyfiant tal ond fe all y rhan fwyaf ohonyn nhw os byddwch chi’n torri mewn dau gam.

I ddechrau, gosodwch y llafnau mor uchel â phosibl ac wedyn torri stribedi dim ond hanner mor llydan â’r peiriant torri gwair. Bydd hyn yn lleihau’r baich ar injan y peiriant torri gwair ac yn gwneud y gwaith yn haws. Wedyn fe allwch chi dorri eto, yn normal, gyda’r llafnau wedi’u gosod yn is i orffen y gwaith.

Fel arall, os oes gennych chi un, gall peiriant strimio fod yn ffordd well o fynd i’r afael â gwyndwn talach.

Pan fyddwch chi’n torri …

Cofiwch, mae’n bwysig iawn casglu neu gribinio’r gwair rydych chi wedi’i dorri ar ôl torri. Bydd hyn yn atal y gwair sydd wedi’i dorri rhag cronni, sy’n gallu rhwystro aildyfiant blodau gwyllt. Heb unrhyw wair wedi’i dorri i bydru’n ôl i’r pridd, bydd hefyd yn helpu i leihau ffrwythlondeb y pridd. Mae mwy o ffrwythlondeb yn rhoi mantais i’ch glaswellt dros eich blodau. Mae hyn yn cynhyrchu lawnt werdd ir, ond bydd yn llawer llai lliwgar ac yn llawer llai gwerthfawr i fywyd gwyllt.

Long cut grass in a wheelbarrow on a garden lawn

Os yw casglu neu gribinio’r gwair wedi’i dorri yn ymddangos fel mwy o waith, cofiwch eich bod mewn gwirionedd yn arbed ymdrech drwy reoli rhai parthau yn llai aml. Mae hyn yn golygu nad oes raid i chi dorri pob man ar unwaith bob tro. Mewn gwirionedd, drwy gael gwared ar y gwair wedi’i dorri bob tro y byddwch chi’n torri, bydd y ffrwythlondeb yn lleihau bob blwyddyn, gan olygu y bydd yr aildyfiant yn llai a llai bob blwyddyn. Mae hynny’n golygu na fydd angen i chi dorri mor aml yn y dyfodol, felly fe allwch chi arbed yr ymdrech i chi’ch hun, lleihau eich ôl troed carbon a mwynhau’r bywyd gwyllt! Hefyd mae lawntiau gwylltach yn dal ac yn cloi mwy o garbon yn y pridd, felly byddwch chi’n gwneud eich rhan dros yr hinsawdd hefyd.

Fe allwch chi ddefnyddio’r gwair wedi’i dorri fel tomwellt ar gyfer eich gwelyau llysiau i atal chwyn, cadw lleithder yn y pridd ac i ychwanegu ffrwythlondeb lle rydych chi ei eisiau. Mae compostio hefyd yn ffordd wych o ailgylchu eich gwair wedi’i dorri gydag elfennau organig eraill i bridd y gallwch ei ddefnyddio y tymor nesaf.

Eich dewis chi…

Felly, eich lawnt neu eich man agored chi yw eich canfas, a chi sy’n dal y brwsh paent. Fe allwch chi aildanio blodau gwyllt o’r rhai sydd eisoes yn bresennol a’r hadau sydd wedi aros yn naturiol yn y pridd, yn cysgu. Efallai y byddwch chi hefyd yn ystyried cyflwyno rhai hadau blodau gwyllt bythol brodorol, neu blanhigion blodau gwyllt bythol brodorol, yr hydref yma. Bydd gennym fwy o gyngor ar hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Sut bynnag y byddwch chi’n dewis mwynhau eich ardal newydd o fywyd gwyllt, dymunwn bob llwyddiant i chi. Nawr eich bod chi wedi ychwanegu ychydig mwy o liw at y byd, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael eich gwobrwyo gyda hisian ceiliogod rhedyn, hyfrydwch cân yr adar a gofod sy’n dawnsio gyda glöynnod byw yn gwibio ac yn fwrlwm o suo pryfed peillio.

Wildlife to Spot in Your No Mow May Lawn
A Cinnabar Moth rests on a long blade of lawn grass

Wildlife to Spot in Your No Mow May Lawn

It’s not just wildflowers which benefit from not mowing our lawns this May. Pollinators and other wildlife bring our gardens to life!

Go Wild in the Garden with these Gardening Jobs
A blossoming garden lawn full of wildflower

Go Wild in the Garden with these Gardening Jobs

If you want to create a home for wildlife in your garden, here’s a couple of nature-friendly gardening jobs to inspire you. If you create the right space, nature will come.

No Lawn? No Problem: 5 Ways to Join in with No Mow May

No Lawn? No Problem: 5 Ways to Join in with No Mow May

As well as bringing back the bloom to our lawns, there are many ways you can get involved with No Mow May, even if you don’t have a garden.