Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Help wildlife, connect with nature and take part in No Mow May – straight from your garden by letting the wildflowers grow (in May and beyond!)
There are many different ways you can go the extra mile for Plantlife – from organising a bake sale, running the London Marathon or planning your own plant-themed event.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Mae’n amser Mai Di Dor gan Plantlife – beth am i ni roi nerth i’r blodau hynod!
#MaiDiDor yw un o’r ffyrdd hawsaf o helpu a chysylltu â bywyd gwyllt, a’r ffordd berffaith o ddechrau cefnogi byd natur yn eich gardd (ym mis Mai a thu hwnt!).
Ymunwch drwy adael i’r blodau gwyllt dyfu a bod yn rhan o’r Mudiad Di Dor.
Mai Di Dor yw ymgyrch flynyddol Plantlife sy’n annog pawb i roi’r peiriant torri lawnt i gadw, gadael i flodau gwyllt dyfu’n rhydd a helpu byd natur. Os ydych chi mewn dinas neu dref, neu yng nghefn gwlad, mae’n hawdd iawn cymryd rhan.
Does dim un lawnt yn rhy fach! Gall y darn gwyllt lleiaf un hyd yn oed ddarparu’r bwyd hanfodol sydd ei angen ar wenyn a glöynnod byw, gan ein cysylltu ni â byd natur a rhoi’r dechrau gorau i fyd natur yr haf yma.
Mae tua 97% o ddolydd llawn blodau wedi’u colli ers y 1930au, a gyda nhw mae bwyd a chynefin hanfodol sydd eu hangen ar fywyd gwyllt wedi mynd hefyd.
Ond fe all eich gardd chi helpu! Mae lawnt iach gyda rhywfaint o laswellt talach a blodau gwyllt yn helpu i fynd i’r afael â llygredd. Hefyd mae o fudd i fywyd gwyllt a gall gloi carbon o dan y ddaear hyd yn oed. Mae mwy nag 20 miliwn o erddi yn y DU, felly gall y darnau lleiaf hyd yn oed gyfrannu at sicrhau budd i fyd natur, pobl a’r hinsawdd.
Mai Di Dor yw’r man cychwyn perffaith ar gyfer yr haf ac mae gadael cymysgedd o laswellt o wahanol hyd ar eich lawnt fel rhan o #MaiDiDor a thu hwnt yn golygu eich bod yn rhoi’r hwb y mae byd natur yn ei haeddu. Yn arwain wedyn at Let it Bloom June a thu hwnt, dyma’r amser perffaith i ymuno â’r Mudiad Di Dor a rheoli eich gardd ar gyfer byd natur drwy gydol y flwyddyn.
Dyma pam rydyn ni’n galw ar bawb i roi nerth i’r blodau hynod yn 2025 a chymryd rhan yn y Mudiad Di Dor!
Mae’n syml. Ymunwch a byddwch yn rhan o’r Mudiad Di Dor. Wedyn ymlaciwch a gwylio’r bywyd gwyllt yn blodeuo yn eich gardd neu lecyn gwyrdd.
Ac os hoffech chi helpu ychydig bach mwy:
Mae gadael i’r blodau yn eich gardd dyfu’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fyd natur ac yn rhoi’r dechrau gorau i’r haf iddyn nhw.
Fe fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad i rannu rhai o hoff ddigwyddiadau Mai Di Dor, cyngor unigryw ac i ddathlu eich cyflawniadau!
Bydd, plîs ymunwch! Gyda’n gilydd fel perchnogion gerddi a rheolwyr gofod gwyrdd fe allwn ni gael effaith enfawr ar fioamrywiaeth drwy adael i bob darn o laswellt ffynnu drwy gydol yr haf. Os oes gennych chi iard gefn maint stamp postio neu stad eang, fe allwn ni i gyd wneud gwahaniaeth yn ein ffordd ein hunain.
Ydych. Os nad oes gennych chi lawnt, fe allech chi addo gadael gofod gwyrdd arall heb ei dorri, fel cae neu lecyn yn eich gweithle. Neu fe allech chi ymuno ag eraill a chymryd rhan fel cymuned. Darllenwch fwy yn yr erthygl yma am sut gallwch chi gymryd rhan.
Mae tua 270 o wahanol rywogaethau o wenyn gwyllt ym Mhrydain a gallant fod yn eithaf anodd eu hadnabod. Ar gyfer cacwn, mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn wedi cynhyrchu canllaw adnabod gwych yma. Ar gyfer glöynnod byw, edrychwch ar y canllaw adnabod hyfryd gan Butterfly Conservation yma.
Mae trogod yn bryfed bach iawn sy’n lledaenu haint bacterol difrifol o’r enw clefyd Lyme. Mae’r trogod yn byw ar famaliaid fel draenogod, moch daear a llwynogod ac wedyn yn symud i laswellt tal a llystyfiant, lle gallwn ni eu codi a chael ein heintio. Os cewch eich brathu gan drogen, cadwch lygad am symptomau tebyg i’r ffliw fel teimlo’n boeth ac yn crynu, cur pen, cyhyrau poenus neu deimlo’n sâl, a brech goch gron o amgylch brathiad y drogen.
Mae nifer yr achosion o drogod mewn gerddi yn cynyddu, felly dylech wisgo trowsus hir ac archwilio eich hun yn ofalus am drogod pan fyddwch wedi bod mewn glaswellt tal neu lystyfiant tal arall.
Mewn ardaloedd lle mae trogod yn gyffredin, ystyriwch gynnal gwair byrrach sy’n cael ei dorri unwaith bob pedair wythnos. I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar www.nhs.uk/conditions/lyme-disease a www.lymediseaseaction.org.uk
Rydyn ni’n annog pawb sy’n garddio er budd natur i dorri llai am gyfnod hirach. Mae canlyniadau ein harolygon Mai Di Dor blaenorol yn dangos y bydd cadw dau neu dri hyd gwahanol i’r glaswellt drwy gydol yr haf yn cynyddu amrywiaeth a maint y blodau a’r neithdar maent yn ei gynhyrchu:
Gadewch rai ardaloedd o laswellt tal heb eu torri’n gyfan gwbl drwy gydol y flwyddyn, i adael i flodau talach fel y Llygad-llo Mawr a Chlafrllys y Maes flodeuo. Mae’r glaswelltau tal yma’n darparu deunydd bwydo gwerthfawr, cysgod, a safleoedd nythu i rywogaethau fel draenogod a brogaod – gan eu cysylltu nhw ar draws ein tirwedd ni.
Mae ardaloedd ‘dolydd’ hyd canolig yn cael eu torri gyda’r toriadau’n cael eu casglu dim ond 2 i 3 gwaith y flwyddyn y tu allan i fisoedd Ebrill i Awst. Maen nhw’n caniatáu i flodau talach yr haf flodeuo fel Pig-yr-aran y Weirglodd, Hocys Mwsg, y bengaled a chlafrllys.
Ar gyfer gweddill y lawnt, gallwch gadw’r glaswellt yn fyrrach trwy dorri unwaith y mis i uchder o 1 neu 2 fodfedd (2.5 i 5 cm). Mae hyn yn caniatáu i blanhigion llai fel llygad y dydd a phys-y-ceirw flodeuo’n helaeth, gan ddarparu ffynhonnell fwyd wych.
Cofrestrwch ar gyfer Mai Di Dor i dderbyn ein canllaw lawnt cynhwysfawr sydd wedi’i ysgrifennu gan arbenigwyr blodau gwyllt Plantlife.
Rydym yn deall y gallai hyn ymddangos yn rhwystredig, fodd bynnag, efallai bod rhesymau pam mae awdurdodau lleol yn torri gwair ym mis Mai, er iddynt ymrwymo i Fai Di Dor. Sef:
Diogelwch yn gyntaf
Mae llawer o ymylon ffyrdd yn cael eu torri’n rheolaidd i gynnal llinellau gweld clir a pharthau tynnu i mewn diogel, mae hyn yn arbennig o hanfodol ar gyffyrdd ac ar droadau tynn lle mae’n anodd gweld.
Rheolaeth Adfer
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen torri a symud y glaswellt wedi’i dorri yn amlach ar ymylon sy’n cael eu hadfer ar gyfer blodau gwyllt. Mae hyn yn arwain yn raddol at lefelau naturiol is o ffrwythlondeb pridd a all gynnal mwy o fioamrywiaeth. Gall y torri gwair fod yn llai aml ac yn hwyrach ar ôl y cyfnod rheoli yma i adfer.
Ymrwymiad Cytundebol
Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio contractwyr yn aml i reoli ymylon ffyrdd ac efallai y byddant wedi ymrwymo i gontractau hirdymor sy’n pennu manylebau penodol. Mae’n bosibl y bydd y contractau cynnal a chadw sydd ar waith yn rhagddyddio ymrwymiadau awdurdod lleol i Fai Di Dor.
Edrychwch ar wefan eich cyngor am ragor o fanylion. Os oes diffyg gwybodaeth, gallech anfon e-bost at eich cyngor yn uniongyrchol i herio eu harferion rheoli a’u cysylltu â’n Canllaw Arfer Gorau ar gyfer Rheoli Ymylon Ffyrdd Glaswelltir. Edrychwch yma am ragor o fanylion ac am astudiaethau achos llwyddiannus.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.