Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Discover the magical world of the UK’s wonderful wild plants and fungi and connect with nature near you.
There are many different ways you can go the extra mile for Plantlife – from organising a bake sale, running the London Marathon or planning your own plant-themed event.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Yr hydref yma, helpwch Plantlife i ddod o hyd i ffyngau mwyaf lliwgar a phwysicaf Prydain – capiau cwyr.
Mae Prydain yn gartref i rai o laswelltiroedd capiau cwyr pwysicaf y byd. Fodd bynnag, mae llawer o rywogaethau’n prinhau ac yn dirywio; mae angen eu hadnabod a’u gwarchod.
#WaxcapWatch
Mae capiau cwyr yn arwydd o laswelltir prin, llawn rhywogaethau. Mae gwybod ble mae capiau cwyr a ffyngau eraill y glaswelltir yn ffynnu yn ein helpu ni i ddeall lle mae darnau o ddolydd hynafol yn goroesi, er mwyn i ni allu eu gwarchod ar gyfer y dyfodol.
Nid yn unig yn bwysig ar gyfer y cannoedd o flodau gwyllt y gallant fod yn gartref iddynt, mae’r glaswelltiroedd hynafol yma hefyd yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gall glaswelltiroedd llawn rhywogaethau storio hyd at draean yn fwy o garbon nag ardaloedd sydd â dim ond ychydig o rywogaethau.
Mae’n hawdd i unrhyw un yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gymryd rhan yn y Waxcap Watch – y cyfan sydd arnoch ei angen yw ffôn clyfar neu fynediad at gyfrifiadur!
Cliciwch drwy’r cyfarwyddiadau isod i’ch arwain chi o’r dechrau i’r diwedd.
Fel arall, ar ôl i chi glicio ar y ddolen uchod a dewis ‘Open in browser’, gallwch lansio’r arolwg yn eich porwr gwe heb orfod lawrlwytho ap Survey123.
Ar ôl i chi gyflwyno eich arolwg cyntaf, y tro nesaf y byddwch yn agor ap Survey123 cliciwch ar yr eicon WaxcApp (cap cwyr coch gyda logo Plantlife) ac wedyn ‘Collect’ i lenwi arolwg arall.
Ewch i ymweld â chae, parc, ymyl ffordd, porfa, rhostir, twyn neu fynwent; mewn gwirionedd, gallwch ymweld ag unrhyw ardal laswelltog sydd ar agor i’r cyhoedd, neu y mae gennych ganiatâd penodol y perchennog tir ar ei gyfer, rhwng mis Medi a diwedd mis Tachwedd pan fydd y capiau cwyr yn edrych ar eu gorau.
Mae posib dod o hyd iddyn nhw yn tyfu yn:
• Porfeydd parhaol a dolydd gwair
• Glaswelltir ar glogwyni, llethrau arfordirol a thwyni tywod
• Glaswelltir a rhos yr ucheldir
• Glaswelltiroedd trefol gan gynnwys lawntiau, parciau, mynwentydd eglwysi a chapeli
• Ymylon ffyrdd
Y ffordd hawsaf i chwilio ardal am gapiau cwyr yw drwy gerdded mewn patrwm igam-ogam ar gyflymder araf, gan mai dim ond ychydig gentimetrau o daldra ydi rhai o’r madarch!
Defnyddiwch yr ap i ateb ychydig o gwestiynau am y lle rydych chi’n ymweld ag ef ac i gofnodi pa liwiau capiau cwyr a ffyngau glaswelltir y gallwch eu gweld.
Nid oes unrhyw gyfyngiad ar nifer yr arolygon rydych chi’n eu llenwi – gorau po fwyaf oherwydd bydd hyn yn helpu i greu darlun o’r hyn sydd i’w gael ar eich safle chi drwy gydol y tymor ffyngau. Bydd gwahanol ffyngau yn mynd a dod wrth i’r misoedd newid. Dim ond am ychydig ddyddiau neu wythnosau y mae posib gweld rhai ffyngau.
Dysgu mwy am gapiau cwyr gydag arbenigwyr o'n safle Twyni Deinamig yng Nghynffig, Cymru.
Ewch â'ch gwybodaeth am gapiau cwyr i'r lefel nesaf gyda'n cwrs hyfforddi, sy'n addas ar gyfer darganfyddwyr ffyngau brwd a pherchnogion tir.
Gwyliwch wrth i arbenigwr ffyngau Plantlife, Sarah Shuttleworth, gofnodi ei chap cwyr cyntaf ar yr ap Waxcap Watch.
Grŵp penodol i'r rhai sy'n cymryd rhan yn Waxcap Watch Plantlife, i rannu gwybodaeth a lluniau o gapiau cwyr a rhywogaethau cysylltiedig.
Cyfle i ddarganfod sut mae Plantlife yn gweithio i greu newid cadarnhaol ar gyfer glaswelltiroedd yng Nghymru, a sut gallwch chi gymryd rhan yn y prosiect.
Ymunwch â Plantlife a mycolegydd arbenigol i archwilio’r ffyngau Capiau Cwyr lliwgar sydd yn Balmoral.
Drwy gymryd rhan yn ein harolwg byddwch yn ein helpu ni i wneud y canlynol:
Chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun; nid yw Plantlife yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am les arolygwyr. Yn yr un modd, nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am ddifrod i, neu golli, eiddo personol.
Rydym bob amser yn argymell ymweld â safleoedd a chynnal arolygon gyda rhywun arall a chymryd y rhagofalon canlynol:
– Gwiriwch ragolygon y tywydd a gwnewch drefniadau priodol. Os bydd y tywydd yn newid efallai y bydd angen i chi ailfeddwl am eich cynlluniau.
– Byddwch yn ofalus ar dir anwastad neu lithrig a chadwch at y llwybrau troed lle bo angen.
– Ewch â ffôn symudol gyda chi a rhowch wybod i rywun ble rydych chi’n mynd a phryd rydych chi’n disgwyl dychwelyd.
– Nid yw’r rhan fwyaf o ffyngau yn wenwynig; mae hyd yn oed y rhai gwenwynig yn ddiogel i’w dal. Fodd bynnag, golchwch eich dwylo bob amser ar ôl trin ffyngau.
Cymru a Lloegr
Gellir dod o hyd i ffyngau’r glaswelltir ar draws amrywiaeth o wahanol safleoedd, ac mae llawer ohonynt yn hygyrch i’r cyhoedd, fel meysydd chwarae, parciau neu fynwentydd. Lle nad oes mynediad agored, cadwch at hawliau tramwy cyhoeddus (llwybrau troed a llwybrau marchogaeth). Os ydych chi’n bwriadu cynnal arolwg ar dir preifat, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd perchennog y tir i gael mynediad i’r safle.
Yr Alban
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Cod Mynediad Awyr Agored yr Alban wrth wneud y gweithgaredd yma
Rhannwch eich darganfyddiadau capiau cwyr gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WaxcapWatch
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.