Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
This autumn, help us find the Britain’s most colourful and important fungi – waxcaps.
Plantlife’s Big Give Christmas Challenge 28 Nov- 5 Dec, make a positive impact in protecting remarkable lichens.
Go the extra mile and run wild for Plantlife
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Dyddiad:24 Mehefin
Amser: 11:00 – 12:00
Lleoliad: The Oyster Catcher, Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict
Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni, ymunwch â ni ac Imogens Yoga Moves ar y twyni am sesiwn ioga awyr agored.
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 11:00 a 12:00 ar 24ain Mehefin, gan gyfarfod am 10:50 ar yr ardal o laswellt gwastad yn y twyni** yn union y tu ôl i The Oyster Catcher.
Mae’r sesiwn am ddim a bydd yr holl offer ar gyfer yr ioga’n cael ei ddarparu, ond mae croeso i chi ddod â’ch offer eich hun. Dewch â’ch dŵr eich hun a blanced / siwmper ar gyfer diwedd y sesiwn oeri.
Mae toiledau, byrbrydau, diodydd a pharcio ar gael yn The Oyster Catcher, ond pan fydd y tywydd yn gynnes gall y maes parcio fod yn brysur felly rhowch ddigon o amser i gyrraedd y lleoliad.
Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Yn anffodus, ni allwn groesawu cŵn yn y digwyddiad yma ar hyn o bryd.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r archeb, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud yn benodol â fformat y sesiwn ioga, cysylltwch ag imogensyomoves@gmail.com
**os byddwn yn ddigon anffodus i gael tywydd garw iawn (glaw trwm a / neu wynt cryf iawn), bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn hwb cymunedol Llanfaelog, Tŷ Croes, LL63 5SS. Gofynnir i chi am eich rhif ffôn wrth archebu, rhowch hwn fel ein bod yn gallu anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch chi pe bai’r tywydd yn troi.
Mae gen i angerdd dros ddylunio llifau ioga creadigol, gan helpu i adeiladu cryfder ac eglurder yn y meddwl a’r corff. O ble daeth yr angerdd yma? Rydw i’n caru popeth sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a natur a sut gall yr awyr agored.
Fy nod i gydag addysgu yw dod o hyd i ffordd lawen o ddod o hyd i gydbwysedd rhwng cyflym ac araf, cryf a hyblyg.
Mae gwaith Plantlife drwy’r prosiect Twyni Deinamig yn cefnogi camau cadwraeth yng Nghymru a Lloegr i wella cyflwr twyni tywod.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.