Skip to main content

Taith Gerdded Dywys RhosneigrDiwrnod Twyni Tywod y Byd – Darganfod y Twyni

Dyddiad: 24ain Mehefin

Amser: 13:00 – 15:00

Lleoliad: The Oyster Catcher, Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict

Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni mae cyfle i chi ddarganfod y twyni gyda Swyddog Ymgysylltu â Phobl Twyni Deinamig, Dr Hannah Lee.

Free

Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni mae cyfle i chi ddarganfod y twyni gyda Swyddog Ymgysylltu â Phobl Twyni Deinamig, Dr Hannah Lee. Mae’r daith gerdded yma’n addas i bawb, ac yn ystod y sesiwn byddwn yn archwilio twyni Tywyn Llyn, o flodau bychain y twyni i suo’r gwenyn, planhigion y draethlin a chân yr adar sy’n nythu ar y ddaear. Dewch â chi’ch hun, ffrindiau neu deulu i brofi a dathlu’r llecynnau arfordirol arbennig yma.

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 13:00 a 15:00 ar 24ain Mehefin, gan gyfarfod am 12:50 ar yr ardal o laswellt gwastad yn y twyni yn union y tu ôl i The Oyster Catcher (Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict)

Mae’r sesiwn am ddim, dewch â’ch lluniaeth eich hun (diodydd a byrbrydau) a gwisgwch ar gyfer y tywydd. Rydym yn argymell esgidiau cryf. Bydd lensys llaw a chanllawiau bywyd gwyllt bach yn cael eu darparu ond rydym yn eich annog i ddod â’ch sbienddrych eich hun. Mae toiledau, byrbrydau, diodydd a pharcio ar gael yn The Oyster Catcher, ond pan fydd y tywydd yn gynnes gall y maes parcio fod yn brysur felly rhowch ddigon o amser i gyrraedd.

Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Yn anffodus ni allwn groesawu cŵn i’r digwyddiad yma ar hyn o bryd. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk.

Hanna

Cyfarfod Hannah

Helo! Fi yw’r swyddog ymgysylltu â phobl ar gyfer y prosiect Twyni Deinamig yng Nghymru ac efallai bod rhai ohonoch chi wedi fy nghyfarfod i neu ein myfyriwr ar leoliad ni allan ar y twyni neu mewn digwyddiad lleol yng Ngogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn 2023 mae’r prosiect yn dod i ben ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni ddathlu cynefinoedd rhyfeddol y twyni tywod drwy ein gweithgareddau ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd.

Rydw i’n gobeithio rhannu dirgelion y twyni tywod a’r traeth gyda chi ar sail fy mhrofiad i gydag Elusen Plantlife yn ogystal â fy nghefndir fy hun mewn Bioleg Forol.