Skip to main content

Beth sy’n newydd yng ngwaith amaethyddol Plantlife 

Mae llawer o’n tirweddau ucheldirol ac iseldirol ni yng Nghymru yn cael eu rheoli gan gaeau gwyrdd. A dweud y gwir, mae 83% o’n tirwedd amaethyddol ni’n cael ei reoli fel glaswelltir parhaol neu ar gyfer pori garw. Bydd ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol yn rhan hanfodol o baratoi’r ffordd ar gyfer adfer y tirweddau hyn. O ganlyniad, mae Plantlife wedi bod yn gweithio’n galed ar ein hymateb i Fil Amaethyddol Cymru a Chynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer 2025. 

Yr heriau a wynebir gan Laswelltiroedd Parhaol yng Nghymru

Mae glaswelltiroedd parhaol (y rhai nad ydynt yn cael eu haredig na’u hailhadu’n rheolaidd) yn cael eu hanwybyddu yn aml wrth liniaru newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, maent yn ateb allweddol sy’n seiliedig ar natur i’r heriau sy’n ein hwynebu ni. Un rheswm pam eu bod yn cael eu hanwybyddu cymaint yw diffyg gwybodaeth gyfunol am garbon pridd glaswelltir. Maen nhw hefyd yn cael eu gwthio i’r ochr gan bwyslais ar blannu coed ac adfer mawndiroedd mewn polisi. Mae rheoli glaswelltir parhaol yn effeithiol wrth wraidd cynhyrchiant da byw yng Nghymru a’r economi ffermio ehangach. Mae angen iddo fod wrth galon mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth hefyd. 

Manteision glaswelltiroedd parhaol

Mae glaswelltiroedd yn gynefinoedd anhygoel, sy’n gallu dal a storio carbon, a gwella bioamrywiaeth. Maen nhw’n darparu amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, yn gwella ein hiechyd a’n lles, ac yn cloi llygryddion. Yn bwysig iawn hefyd, maen nhw’n cynnal rhan unigryw o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. 

Gwaith Plantlife mewn glaswelltiroedd parhaol yng Nghymru

Yn Plantlife, byddem yn hoffi gweld mwy o gydnabyddiaeth i’r manteision niferus y gall y glaswelltiroedd hyn eu darparu. Rydyn ni’n gofyn i’r Llywodraeth gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i addasu eu harferion ffermio. Hefyd, i’r llywodraeth gynorthwyo ffermydd i adfer a chynnal glaswelltiroedd llawn rhywogaethau. Yn anffodus, yn y gorffennol, mae adfer glaswelltiroedd wedi arwain at gyfraddau talu is o gymharu, er enghraifft, â chymorth i ffermydd âr. Mae angen i’r cynllun newydd fod yn economaidd hyfyw er mwyn i bob ffermwr ymuno ag ef. Bydd yn bwysig bod cyngor da ar gael i ffermwyr a rheolwyr tir i gael mynediad at y cynlluniau hyn, eu defnyddio a’u rheoli. 

Gweithio gyda ffermwyr lleol o amgylch gwarchodfa natur Cae Blaen-dyffryn 

Yn ogystal â rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud y gorau y gall dros ein hamgylchedd ffermio, rydyn ni hefyd yn gweithio tuag at adfer glaswelltiroedd amaethyddol ein hunain. 

 

Mae Hywel Morgan wedi ymuno â thîm Plantlife Cymru yn ddiweddar fel ein Cynghorydd Amaethyddol. Bydd yn gweithio yn y dirwedd o amgylch ein gwarchodfa natur yng Nghae Blaen-dyffryn, ger Llanbedr Pont Steffan. Mae’n siarad â ffermwyr lleol ac yn ceisio deall beth yw’r camau gweithredu mwyaf buddiol a chynaliadwy ar gyfer cadwraeth glaswelltir. 

 

Rydyn ni’n gobeithio, dros amser, y gallwn ni weithio llawer mwy gyda’r gymuned ffermio yma. Bydd Plantlife yn chwilio am arian ar gyfer adfer glaswelltiroedd yn seiliedig ar y cyfleoedd rydyn ni’n dod ar eu traws. Mae Hywel yn cyfrannu gwybodaeth bersonol am ffermio a bydd yn cael gwybodaeth leol drwy siarad â’r gymuned ffermio. Bydd hyn yn ein helpu ni i eiriol dros atebion adfer glaswelltiroedd sydd â’r siawns orau o lwyddo.

Dilynwch ein blog ni a chofrestru ar gyfer ein cylchlythyr; efallai y bydd Hywel yn rhannu gwybodaeth am yr hyn mae wedi’i ddysgu o siarad â’r gymuned ffermio leol.