Skip to main content

Gwarchodfeydd Natur Ymylon Ffyrdd Swydd Lincoln a Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol

Ers 1960, mae Cyngor Swydd Lincoln wedi ffurfio partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Lincoln i warchod 80km o ymylon ffyrdd gorau’r sir fel Gwarchodfeydd Natur Ymylon Ffordd. Rhwng 2009 a 2015, arweiniodd arolygon gwyddoniaeth y dinesydd at ddynodi Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol ar hyd 300km pellach o ymylon ffordd, gan gyfrif am bron i 100ha o gynefin llawn blodau gwyllt. Nododd yr arolwg hefyd fod 90% o’r rhwydwaith â llai o flodau gwyllt oherwydd bod ymylon ffyrdd yn cael eu torri’n rhy aml neu ddim yn ddigon aml ac nad oedd y glaswellt wedi’i dorri’n cael ei gasglu. 

 

Yn 2018, darparodd treialon cynaeafu biomas llwyddiannus ar ymylon ffyrdd a chynhyrchu ynni gwyrdd o’r glaswellt wedi’i dorri wybodaeth am ffyrdd newydd y gallai rheoli llystyfiant ymylon ffyrdd wella bioamrywiaeth glaswelltiroedd ar ymylon ffyrdd, lleihau ôl troed carbon a hyd yn oed talu amdano’i hun gyda’r refeniw a gynhyrchir. Mae’r gwersi a ddysgwyd o’r treialon hyn wedi bod yn hollbwysig i gais llwyddiannus i’r Adran Drafnidiaeth am brosiect LiveLabs2 gwerth £4M sydd bellach ar y gweill i barhau â’r ymchwil yma ar raddfa fwy gyda De Swydd Gaerloyw a Gorllewin Sussex mewn partneriaeth â Plantlife. 

A lorry passing a road verge full of wildflower

Cyngor Dorset – Torri a Chasglu

Mae Cyngor Dorset wedi gweithredu dull torri a chasglu ar gyfer torri gwair trefol ar draws gogledd y sir. Mae cael gwared ar y glaswellt wedi’i dorrin lleihau ffrwythlondeb y pridd ac yn atal glaswelltau a pherlysiau cryfach rhag atal tyfiant blodau gwyllt. Wrth i dyfiant y llystyfiant leihau bob blwyddyn gyda llai o ffrwythlondeb, roedd yn bosibl lleihau’n sylweddol amledd y torri o 7 i 2 waith y flwyddyn, gan arwain at arbediad o 45% mewn costau torri gwair o fewn 5 mlynedd. Galluogodd hyn i’r buddsoddiad mewn peiriannau torri gwair newydd gael ei ad-dalu o fewn amserlen ymarferol. 

Sir Fynwy – Grid Gwyrdd Gwent

Mae ‘Nature Isn’t Neat’ yn brosiect a gafodd ei dreialu i ddechrau gan Gyngor Sir Fynwy a’i ariannu drwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru o dan fesur LEADER y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 ac mae wedi bod yn ehangu’n araf i ardaloedd eraill o’r sir. Un elfen allweddol o’r prosiect oedd newid y ffordd mae’r Cyngor Sir yn rheoli ei laswelltir ar ymylon ffyrdd, ac mewn gofod agored a pharciau i greu gofod ar gyfer byd natur. Roedd cefnogaeth gref ymhlith y cyhoedd i’r newidiadau i dorri gwair, ac ymddangosiad llawer mwy o flodau gwyllt yn ystod gwanwyn a haf 2020. 

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cynnig grantiau cyfalaf i brynu offer fel peiriannau torri a chasglu i wella’r gwaith o adfer glaswelltiroedd. Arweiniodd y gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot ‘Nature Isn’t Neat’ at gais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a  Llywodraeth Cymru am grant a alluogodd brynu peiriannau ‘torri a chasglu’ sy’n gallu torri glaswellt talach a chael gwared ar y glaswellt wedi’i dorri.   

Wildflower on a road verge

Mae ‘Nature Isn’t Neat’ wedi mynd ymlaen i ffurfio rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (GGGP), prosiect tair blynedd yn rhedeg o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2023. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pum Awdurdod Lleol Gwent (Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen), yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru, Forest Research a Severn Wye Energy Agency. Bydd y bartneriaeth yn dod ag ymrwymiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn fyw drwy gydweithio’n well â phartneriaid, cynnwys dinasyddion lleol a chyflawni pob un o’r saith nod llesiant. Bydd hefyd yn helpu i weithredu fel mecanwaith cyflawni ar gyfer Datganiad Ardal De Ddwyrain Cymru gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Nod y GGGP yw gwella bioamrywiaeth y seilwaith gwyrdd yn ardal Gwent, gan ddarparu buddion gwirioneddol i gymunedau lleol. Mae cymunedau lleol yn cymryd rhan mewn mentrau i hyrwyddo dull o reoli glaswelltiroedd sy’n gyfeillgar i bryfed peillio. 

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac mae’n cael ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. 

Oxeye daisies blossoming on a road verge

Mae Prosiect Blodau Gwyllt Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus hefyd wrth gaffael peiriannau torri gwair newydd gan Fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a gallwch gael gwybod mwy am eu gwaith yma – Prosiect Blodau Gwyllt Sir Ddinbych. 

Grwpiau cymunedol yn gweithio gydag awdurdodau lleol.

Mae cymorth cymunedol wedi bod yn ddull llwyddiannus o weithredu yn y gorffennol, ac mae enghraifft wych i’w gweld yn Edgton, Swydd Amwythig lle bu cymuned leol yn cydweithio i arolygu’r holl ymylon ffyrdd yn eu pentref ac yn adnabod rhywogaethau o ddiddordeb o flodau gwyllt. Roedd yr arolwg wedyn yn eu galluogi i gynhyrchu map codau lliw i’w ddarparu fel tystiolaeth i awdurdodau lleol. Roeddent wedyn yn gallu cytuno ar drefniadau torri newydd yn llwyddiannus gydag Adran Briffyrdd De Swydd Amwythig.

Cysylltwch â ni os ydych chi’n dod o awdurdod lleol i ddarganfod sut gallwn ni yn Plantlife eich helpu chi

Yn Plantlife ein nod ni yw cefnogi a galluogi awdurdodau lleol i oresgyn y rhwystrau i wneud hyn yn realiti ar draws ymylon ffyrdd a rhwydwaith gofod gwyrdd y DU.

Discover our road verge guidance

Managing Road Verges

A downloadable guide on creating and managing species-rich grassland of road verges

The Good Verge Guide

Downloadable guide to good verge maintenance

Road Verges

Read about the work Plantlife are doing year round to encourage appropriate verge management