Skip to main content

Cae Blaen-dyffryn 

Mae Cae Blaen-dyffryn yn laswelltir hardd llawn blodau sy’n gorwedd ar gefnen uwchben Llanbedr Pont Steffan, yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. Roedd glaswelltiroedd llawn rhywogaethau o’r math sydd i’w ddarganfod yma yn gyffredin ledled Cymru ar un adeg, ond maen nhw bellach yn brin iawn. Rydyn ni’n gwybod nad yw’r warchodfa natur erioed wedi’i ffermio’n ddwys na’i gwella’n amaethyddol. Yn ffodus, mae hyn yn golygu bod ei nodweddion arbennig wedi’u cadw. Yn wir, maen nhw’n enghreifftiau mor dda o’u math fel bod y warchodfa natur wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). 

Un cae mawr yw’r warchodfa natur. Mae ynddo lethr sy’n serth mewn mannau, cyn lefelu’n wastad ar 340m uwch ben lefel y môr. 

Y rhywogaethau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yma

Mae’r llethrau uchaf yn laswelltir sych. Yma gallwch ddod o hyd i’r canlynol: 

  • Meillion Coch Trifolium pratense,  
  • Y Bengaled Centaurea nigra,  
  • Pys-y-ceirw Lotus corniculatus,  
  • darnau o’r Melynydd Hypochaeris radicata.  

Mae trysorau eraill y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn y glaswelltir sych, gan gynnwys tegeirianau llydanwyrdd. Mae’r Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf Platanthera chlorantha a’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf Platanthera bifolia yn tyfu’n helaeth yma. Ym mis Mehefin gallwch weld miloedd o bigau gwyn a phinc yn blodeuo o degeirianau wedi’u gwasgaru ar draws y bryn.

Yng ngwaelod y bryn, mae’r draenio yn wael, felly mae cynefin corsiog wedi ffurfio. Mae hwn yn gartref i dwmpathau mawr o laswellt y gweunydd a brwyn. Ymhlith y blodau welwch chi yma mae: 

  • Carpiog y Gors Silene flos-cuculi,  
  • Tamaid y Cythraul Succisa pratensis,  
  • Ysgallen y Gors Cirsium palustre,  
  • a’r Triaglog Valeriana officinalis. 

Os ydych chi’n lwcus ar ddiwedd yr haf, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn cael cipolwg ar löyn byw Britheg y Gors Euphydras aurinia. sydd dan fygythiad. Yn yr hydref, mae lliwiau llachar y ffyngau capiau cwyr yn dechrau ymddangos. 

Rydyn ni’n rheoli Cae Blaen-dyffryn yn bennaf drwy bori dwysedd isel gan wartheg, a chyfyngu ar ymlediad prysgwydd dros y glaswelltir. 

Caeau Tan y Bwlch 

Mae Caeau Tan y Bwlch i’w gweld ar ochr y bryn uwch ben Clynnog Fawr, ym mhen dwyreiniol penrhyn Llŷn, Cymru. Mae’r warchodfa natur yma’n eiddo i Plantlife, ond yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac rydyn ni’n gweithio’n agos â nhw. 

Fel Cae Blaen-dyffryn, nid oes llawer o darfu wedi bod ar y tir yn y warchodfa natur yma. Mae ei hanes o ffermio ysgafn ac, yn fwy diweddar, rheolaeth ofalus fel gwarchodfa natur, wedi ei hamddiffyn. Y canlyniad yw gwarchodfa natur ddigon pwysig fel ei bod hefyd wedi’i dynodi’n SoDdGA.

Y rhywogaethau y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yma

Mae’r warchodfa natur yn cynnwys nifer o gaeau bach, hanesyddol. Mae’r caeau uchaf yn ddolydd gwair llawn rhywogaethau, ac yn cynnwys poblogaeth gynyddol o’r Tegeirianau Llydanwyrdd Mwyaf. Yn y caeau uchaf yma fe welwch chi hefyd: 

  • Y Bengaled, 
  • Cribell Felen Rhinanthus minor,   
  • Mantell Fair Alchemilla sp.,   
  • Ac Effros Euphrasia spp   

Mae’r caeau isaf yn lleithach ac yn llawn planhigion talach fel Glaswellt y Gweunydd Molinia caerulea a brwyn. Byddwch hefyd yn dod o hyd i hesg, ystrewlys Achillea ptarmica, Fioled y Gors Viola palustris a llawer mwy. 

Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli’r cynefinoedd pwysig yma drwy bori sensitif gan dda byw, cynaeafu cnwd o wair yn yr haf, a rheoli’r rhedyn a’r prysgwydd. 

Yn ogystal â chynefinoedd gwych, fe welwch chi fod y warchodfa hefyd yn darparu golygfeydd godidog tuag at Ynys Môn ac Eryri. Mae’r nodweddion o ddiddordeb diwylliannol yn cynnwys y terfynau wyneb carreg sy’n amgáu’r caeau, o’r enw “cloddiau”. 

Eisiau ymweld? 

Cae Blaen-dyffryn

Gallwch gael mynediad i’r warchodfa natur yma o’r A482 i’r de o Lanbedr Pont Steffan yn SN605443 (SA48 8EZ). Dim cŵn os gwelwch yn dda.

Caeau Tan y Bwlch:

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y warchodfa natur, sut i ymweld, a sut i gymryd rhan, ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yma.