Skip to main content

Tlysau Mynydd Eryri

Fel rhan o’r prosiect yma rydyn ni’n gweithio yn un o’r ardaloedd cyfoethocaf ar gyfer planhigion mynydd ym Mhrydain i’r de o Ucheldiroedd yr Alban. Mae Swyddog y Prosiect, Robbie Blackhall-Miles, yn gweithio i achub 14 o rywogaethau prin rhag difodiant yng Nghymru. Mae’r rhywogaethau mynyddig arbenigol yma’n cynnwys planhigion blodeuol a rhedyn, coeden a chwilen.

Y rhywogaethau prin rydyn ni’n gweithio i’w hachub

  • Persicaria vivipara

    · Clust-y-llygoden Alpaidd – Cerastium alpinum

    · Lliflys y mynydd – Saussurea alpina

    · Rhedynen-woodsia Alpaidd – Woodsia alpina

    · Pisidium coventus

    · Rhedynen Gelyn – Polystichum lonchitis

    · Tormaen Iwerddon – Saxifraga rosacea

    · Derig – Dryas octopetala

    · Rhedynen-woodsia Hirgul – Woodsia silvensis

    · Heboglys yr Wyddfa – Hieracium snowdoniense

    · Chrysolina cerealis

    · Tormaen Siobynnog – Saxifraga cespitosa

    · Merywen – Juniperus communis

    · Chwilen yr Wyddfa – Chrysolina cerealis

Snowdon Hawkweed

Gweithio fel Tîm

Fel rhan o brosiect Tlysau Mynydd Eryri mae Robbie yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, tywyswyr mynydd, meithrinfeydd planhigion lleol, rheolwyr tir ac arbenigwyr botanegol. Gyda’n gilydd rydyn ni’n mynd ati i wyrdroi ffawd y rhywogaethau mynyddig prin yma’n ofalus ac yn eu rhoi nhw ar lwybr at adferiad. Ar hyd y llwybr, rydyn ni’n dathlu’r tlysau mynyddig hardd yma a’r tirweddau maen nhw’n byw ynddyn nhw.

Beth Yw’r Heriau?

Mae’r rhywogaethau sydd wedi cael eu dewis yn brin oherwydd eu bod nhw wedi wynebu llawer o heriau, ac yn parhau i wynebu heriau. Roedd twristiaid yn Oes Fictoria yn mwynhau casglu rhedyn a phlanhigion mynyddig ac fe wnaeth hynny leihau eu niferoedd yn sylweddol. Yn fwy diweddar, mae arferion ffermio a’r ffordd y mae’r tir yn cael ei ddefnyddio wedi newid yn llwyr. Heddiw mae llygredd yn yr aer, yn enwedig nitrogen, yn ogystal â newid yn yr hinsawdd, yn gwneud bywyd yn anodd iawn i’r planhigion yma sy’n hoffi aer glân a thywydd oer.

Prosiect Gororau Cymru

Mae’r prosiect yma’n achub cennau a bryoffytau prin iawn sy’n byw ar goed hynafol, brigiadau creigiog sych a chopaon bryniau mewn ardal sy’n ymestyn o ger Lanandras i Regynog ger y Drenewydd. Mae Swyddog y Prosiect, Ellie Baggett, yn gweithio i adfywio poblogaethau o 15 o rywogaethau sy’n cynnwys rhai o’n rhywogaethau prinnaf ni o gennau, mwsoglau a 3 rhywogaeth o bryfed.

Oak polypore bracket fungus

Gweithio gyda ffermwyr

Ar y Gororau yng Nghymru mae Ellie yn gweithio gyda ffermwyr a chymunedau lleol i ddatblygu technegau ymarferol amrywiol a’u rhoi nhw ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys clirio prysgwydd – llwyni, rhedyn a mieri – er mwyn i’r cennau sy’n hoff o olau allu ffynnu. Mae hi hefyd yn annog ffermwyr i ofalu am eu coed hynafol – coed sy’n cynnwys llawer o dyllau a chraciau – fel bod y cen a’r mwsogl sy’n dibynnu arnyn nhw’n gallu goroesi. Drwy blannu coed yn y llefydd cywir, mae Ellie yn gobeithio y byddan nhw’n dod yn goed hynafol ymhen blynyddoedd ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer y cennau yma.

Eagle's claw lichen

Beth Yw’r Heriau?

Mae’r rhywogaethau prin o gennau, mwsoglau a phryfed sydd wedi’u dewis mewn perygl o ddifodiant oherwydd sawl ffactor. Mewn rhai llefydd mae gormod o dyfiant o lystyfiant cyfagos, sy’n stopio golau’r haul rhag cyrraedd y cen neu’r mwsogl penodol. Mewn llefydd eraill mae’r coed hynafol, y mae’r rhywogaeth o gen neu fwsogl yn byw arnyn nhw, mewn perygl o syrthio. Mae’r aer yn fygythiad arall, gan fod llawer o’r rhywogaethau o gennau’n sensitif i lygredd nitrogen.

Prosiect Natur am Byth!

Fel rhan o’r prosiect yma mae naw sefydliad cadwraeth, gan gynnwys Plantlife Cymru, wedi dod at ei gilydd i weithio gyda sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno prosiect mwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag difodiant ac i ailgysylltu pobl â byd natur. Dyma brosiect adferiad gwyrdd mwyaf blaenllaw Cymru.

Natur am Byth!  partnership and funder logos