Skip to main content

Mae’r Gribell Felen, sy’n cael ei hadnabod yn gyffredin fel y crëwr dolydd, yn un o’r planhigion pwysicaf sydd arnoch ei angen ar gyfer dôl. Hebddo, gall glaswelltau cryf dyfu’n wyllt a thagu blodau rydych chi eisiau eu hannog.

 

Wrth i’r Gribell Felen Rhinanthus minor dyfu mewn dôl bydd y glaswellt yn mynd yn deneuach, gan wneud lle i blanhigion fel Llygad-llo Mawr, y Bengaled yn ei hamrywiol ffurfiau a Ffacbys ymddangos. Ac os ydych chi’n lwcus, efallai y bydd tegeirian yn ymddangos hyd yn oed.

Yellow rattle close up

Cylch Bywyd (blwyddyn) y Gribell Felen:

  • Mae’r hadau’n egino yn gynnar yn y gwanwyn ac yn tyfu’n gyflym
  • Wrth i’r gwreiddiau ddatblygu, mae’n chwilio am wreiddiau planhigion sy’n tyfu gerllaw, yn enwedig glaswelltau
  • Unwaith y bydd yn dod i gysylltiad â nhw, mae’r Gribell Felen yn tynnu dŵr a maethynnau o’r planhigion cyfagos
  • Mae hyn yn gadael lle i flodau dyfu

Wedyn mae gwenyn mawr, yn enwedig cacwn, yn symud i mewn ac yn peillio blodau’r Gribell Felen ac mae’r codennau hadau mawr yn sychu ac yn aeddfedu. Mae hyn yn gadael yr hadau yn ysgwyd o gwmpas y tu mewn. Roedd ffermwyr yn arfer defnyddio sŵn yr hadau’n ysgwyd fel arwydd i dorri’r gwair – dyna o ble y daw’r enw rattle yn Saesneg.

Sut i Dyfu’r Gribell Felen?

Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn dechrau defnyddiol iawn wrth greu dôl blodau gwyllt, ond gall fod ychydig yn anodd ei sefydlu. Dyma rai cynghorion doeth i chi ddechrau arni:

1. Cael rhywfaint o hadau

  • Mae hadau’r Gribell Felen yn fyrhoedlog iawn felly rhaid eu hadu mor ffres â phosibl ac, yn ddelfrydol, byddant wedi cael eu cynaeafu yn ystod yr haf diweddaraf.
  • Fe allwch chi bicio draw i siop Plantlifei brynu rhai
  • Neu, yn well fyth, os ydych chi’n gwybod am rywle lleol gyda’r Gribell Felen, gofynnwch a gewch chi gasglu rhywfaint o hadau
  • Mae’r hadau’n cael eu casglu drwy bigo’r coesynnau (ar ddiwrnod sych) a’u hysgwyd mewn bag papur
  • Rhaid casglu’r hadau rhwng mis Mehefin a mis Awst – unwaith maen nhw’n aeddfed fe fyddan nhw’n dechrau cwympo i’r llawr felly dim ond ffenestr fer o gyfle sydd! Mae eu haeddfedrwydd yn dibynnu ar dywydd yr haf ac mae’n debygol o fod ar ei gynharaf yn rhannau cynhesaf y wlad fel y de ddwyrain.

 

2. Plannu’r hedyn

  • I ddechrau, rhaid paratoi’r ardal – torrwch y glaswellt mor fyr ag y gallwch chi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi a thynnu’r toriadau.
  • Mae’n bosibl y bydd haenen o laswellt marw, y dylid ei dynnu drwy gribinio drwy’r ardal gyda chribin pridd, i ddatgelu rhywfaint o bridd noeth drwy’r ardal i gyd – mae hyn yn hollbwysig fel bod yr hedyn yn gallu cyrraedd wyneb y pridd, heb gael ei dagu fel eginblanhigyn
  • Wedyn bydd posib hadu’r hadau gyda llaw drwy wasgaru
  • Mae angen gwneud hyn erbyn mis Tachwedd fan bellaf, oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C ar yr hadau i egino yn y gwanwyn

3. Ei gwylio yn tyfu

  • Bydd yr eginblanhigion yn dechrau ymddangos yn y gwanwyn, mor gynnar â diwedd mis Chwefror. Ond does dim angen poeni os mai dim ond ychydig o blanhigion sy’n egino yn y flwyddyn gyntaf oherwydd byddant yn bwrw hadau a dylai’r niferoedd gynyddu’n gyflym.
  • Dylid torri’r ddôl blodau gwyllt unwaith y bydd y Gribell Felen wedi bwrw ei hadau – rhwng mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd yr amseroedd torri yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’r tymhorau
  • Mewn gardd, mae torri’r glaswellt a symud y toriadau unwaith neu ddwy cyn mis Rhagfyr yn sicrhau bod lle i’r Gribell Felen egino a thyfu erbyn mis Chwefror.

FAQ

  • 1. Pryd ddylwn i hadu’r Gribell Felen?

    Diwedd yr haf (Awst – Medi) yw’r amser gorau i hadu’r Gribell Felen. Ni fydd yn tyfu’n llwyddiannus os caiff ei hadu yn y gwanwyn. Mae posib hadu’r hadau ddim hwyrach na mis Tachwedd oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C i egino yn y gwanwyn.

  • 2. Sut gallaf i gasglu fy hadau Cribell Felen fy hun?

    Mae hadau’r Gribell Felen yn hawdd eu casglu gyda llaw. Yn syml, daliwch fag papur o dan y cod hadau aeddfed a’i ysgwyd yn ysgafn gyda’ch bysedd. Mae’n hawdd casglu symiau mwy drwy ddefnyddio faciwm neu chwythwr dail.

    GWYLIO: Sarah Shuttleworth o Plantlife yn casglu hadau’r Gribell Felen gyda faciwm. 

  • 3. Pam mae’r Gribell Felen wedi diflannu o fy nôl i?

    Mae nifer o resymau pam y gall y Gribell Felen ddiflannu o ddôl, gan gynnwys:

    • Torri cyn i’r gribell hadu
    • Gadael y toriadau ar y ddôl
    • Pori yn gynnar yn y gwanwyn pan mae’r eginblanhigion allan ac yn agored i niwed
    • Y ddôl yn rhy ffrwythlon
    • Y glaswellt yn gryfach na’r Gribell Felen
  • 4. Faint o’r Gribell Felen ddylwn i ei hadu?

    Ar gyfer dolydd, rydyn ni’n argymell 0.5 i 2.5kg yr hectar / 10-20g fesul m2 os ydych chi’n casglu eich hadau eich hun.

  • 5. Pam nad ydi fy Nghribell Felen i wedi egino?

    Mae nifer o resymau posibl:

    • Roedd yr hadau’n fwy na blwydd oed (rydyn ni’n cynghori prynu gan gyflenwr ag enw da).
    • Dim digon o dir noeth wedi’i greu cyn hadu. Mae’n well creu o leiaf 50% o dir noeth.
    • Roedd y ddôl yn rhy ffrwythlon a’r glaswelltau’n gryfach na’r gribell.
    • Cafodd y gribell ei hadu ar yr amser anghywir o’r flwyddyn (hadu ar ddiwedd yr haf sydd orau). Os caiff ei hadu yn y gwanwyn dylai fod wedi cael ei storio’n llaith wedi’i chymysgu â thywod ar 4C am 6 i 12 wythnos.
    • Roedd y glaswellt yn rhy dal yn y gwanwyn cynnar, pan mae’r gribell yn egino. Gall torri’r ddôl ym mis Chwefror a thynnu’r toriadau helpu. Mae hyn yn rhoi gwell dechrau i eginblanhigion y gribell wrth gystadlu am olau gyda’r glaswelltau o’u cwmpas.

More meadow making tips