Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
This autumn, help us find Britain’s most colourful and important fungi – waxcaps.
Fungi are crucial to nearly all life on Earth, but they are not given the recognition and investment they deserve. Will you join our mission to change that?
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Whether you wish to create a meadow from scratch or introduce more wildflowers and grasses into your meadow or grassy area, or within your garden lawn, our species lists are here to guide you.
Wrth ddewis hadau, y pethau cyntaf i’w hystyried yw:
Gallwch wneud hyn drwy ddeall beth mae’r rhywogaethau sydd yno’n barod yn ei ddweud wrthych chi am eich pridd, y ffrwythlondeb a’i rywogaethau presennol, a / neu drwy gynnal prawf pridd. Os ydych chi’n dymuno cyflwyno mwy o rywogaethau i laswelltir sy’n bodoli eisoes, mae gwybod beth sydd gennych chi eisoes yn bwysig er mwyn i chi allu teilwra’r hyn rydych chi’n ei gyflwyno i gyfateb yn briodol.
Mae’n well cynnal arolwg o’ch ardal laswelltog dros yr haf a defnyddio ein canllaw ‘fforenseg planhigion’ defnyddiol i’ch helpu chi i ddeall pa rywogaethau sy’n debygol o wneud yn dda, cyn prynu unrhyw hadau.
Rydym yn argymell defnyddio cymysgeddau hadau lleol y gallwch chi eu gwirio yn erbyn y rhestr o rywogaethau mwyaf priodol isod i sicrhau eu bod yn cyfateb yn dda. Fel dewis arall, os ydych chi’n gwybod am ddôl leol gyda rhywogaethau priodol, a’ch bod chi’n gallu trefnu i gynaeafu naill ai wair gwyrdd neu gynaeafu brwsh, neu hyd yn oed gasglu hadau aeddfed o rywogaethau penodol gyda llaw, byddai hyn yn well fyth.
I’ch helpu chi ar eich siwrnai creu dôl, rydyn ni wedi gwneud y rhestrau hyn fel man cychwyn ar gyfer creu neu adfer glaswelltir mewn senario nodweddiadol o laswelltir sy’n brin o rywogaethau neu gyda lefel gymedrol o rywogaethau.
Sylwch nad yw’r rhain yn rhestrau pendant, ac efallai y bydd angen dull mwy pwrpasol o weithredu ar wahanol safleoedd ac mewn gwahanol sefyllfaoedd. Os yw eich glaswelltir y tu allan i’r ‘norm’, fel mewn parc cenedlaethol neu AHNE – cysylltwch â ni am arweiniad mwy pwrpasol ar gymysgeddau hadau a fydd yn adlewyrchu hynodrwydd rhanbarthol y safle.
Er enghraifft, ni fydd gan ddôl wair niwtral o ran pH yn ne orllewin Lloegr yr un gymuned â dôl wair niwtral yn Ardal y Llynnoedd. Rydyn ni hefyd wedi hepgor rhywogaethau sy’n benodol iawn yn ddaearyddol. Felly, os oes gennych chi safle anarferol gyda photensial i gynnal cynefin prin, cysylltwch â ni am restr fwy pwrpasol.
Mae’r rhestrau hyn yn rhannu’r rhywogaethau yn Grwpiau 1, 2 a 3, yn nhrefn pa mor ffysi ydyn nhw i lefelau ffrwythlondeb ac anhawster sefydlu o gyflwyno hadau.
Nid oes unrhyw feintiau wedi’u hamlinellu yn y rhestrau isod oherwydd dylai darparwyr hadau allu darparu’r manylion hyn, neu fe ddylai hyn gael ei amlinellu eisoes yn eu cymysgeddau dolydd. Yn gyffredinol, fodd bynnag, bydd cymunedau glaswelltir rhwng 50 ac 80% o laswellt, a bydd y rhai â ffrwythlondeb uchel yn setlo fel rheol i gynnwys canran uwch o’r rhywogaethau glaswellt.
Grasses to introduce (if absent):
Lle mae ychydig yn alcalïaidd:
Cynefinoedd yr ucheldir – yr holl laswelltiroedd hynny sydd uwchlaw tua 250m (lefel y môr). Os yw’n agos at 250m ac yn eithaf cysgodol, gall y rhywogaethau iseldir uchod ffynnu hefyd.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.