Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
We’ve already lost nearly all of our rainforests: now we must come together to protect and restore these biodiverse havens before they’re gone forever.
Will you help protect temperate rainforests?
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Dyma beth hoffai Plantlife Cymru i’r Senedd a’r Llywodraeth eu gwneud.
Ym mis Mai eleni fe fydd gan Gymru Senedd a Llywodraeth newydd. Bydd y tymor Senedd yma’n rhedeg hyd at 2030 – blwyddyn allweddol. Erbyn y flwyddyn yma fydd disgwyl i Gymru fod yn rheoli 30% o’i dir a’i ddŵr er lles natur er mwyn cyrraedd targedau amgylcheddol byd-eang.
Mae hwn yn foment bwysig i natur ac mae Plantlife Cymru’n pwyso ar y Senedd a’r Llywodraeth newydd i roi natur wrth galon ei raglen ddeddfwriaethol a’i waith. Er mwyn gwneud hyn rhaid sicrhau bod llais planhigion gwyllt a ffyngau’n cael eu clywed yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wireddu targedau statudol i adfer natur drwy osod allan cynllun gyda chamau a darparu cyllid digonol.
Disgwylir i Fil yr Amgylchedd ddod yn gyfraith gwlad cyn yr etholiad. Rhaid i’r Llywodraeth newydd ei wireddu ar frys ac efo uchelgais.
Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys y canlynol fel rhan o gynllun gyda chamau i adfer natur:
Gwneud byw yng Nghymru’n bleser unwaith eto drwy wyrdroi colledion natur – darparu cyllid aml- flwyddyn i adfer planhigion gwyllt, cen a ffyngau.
Galluogi ffermwyr i ffynnu drwy gynhyrchu bwyd mewn dull cyfeillgar i natur a chynaliadwy unwaith eto – cefnogi ffermwyr i weithredu dros natur a’r hinsawdd gyda phecyn tymor hir o gynhaliaeth trwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Sicrhau bod ein porfeydd gwelltog yn gyforiog o rywogaethau amrywiol – rhoi hwb i ffermwyr a chymunedau i greu dolydd a gweirgloddiau drwy Strategaeth Glaswelltir wedi’i hariannu.
Sicrhau y bydd ein coedwigoedd glaw Cymreig unigryw dal yno ar gyfer ein plant – cynhyrchu Strategaeth Coedwigoedd Glaw cyd-gysylltiedig, wedi’i hariannu
Helpu sicrhau bod corsydd y DU yn gwneud y gwaith maen nhw’n dda arno sef cronni dŵr – deddfu i ddod â gwerthu mawn ar gyfer yr ardd i ben yng Nghymru
Croeso i chi ddarllen mwy am ein prif ofynion yn ein dogfen dwyieithog
Rydym yn gweithio i ddwyn perswâd ar bob plaid wleidyddol i gynnwys gofynion Plantlife Cymru yn eu maniffesto. Rydym yn anfon y papur briffio i bob plaid ac yn cynnig ei drafod mewn cyfarfod. Cadwch lygad ar sianeli Facebook a X Plantlife Cymru.
Cefnogwch ein hymgyrch drwy ofyn i’ch ymgeiswyr etholaeth nodi eu cefnogaeth i’n gofynion. Gallwch wneud hyn drwy e-bost, llythyr, cyfryngau cymdeithasol neu mewn digwyddiad hysting – pa ffordd bynnag sy’n gweithio i chi.Bydd y rhestr derfynol o ymgeiswyr yn cael ei gyhoeddi’n agosach at yr etholiad. Gallwch ddarganfod pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal fan hyn.
Gofynnwn hyn ochr yn ochr â maniffesto ehangach Cyswllt Amgylchedd Cymru: Maniffesto i’r Etholiadau Senedd 2026 – Cyswllt Amgylchedd Cymru
Plantlife Cymru, Unit 1, Eco Parc Dyfi, Machynlleth SY20 8AX
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.