Skip to main content

Beth yw twyn tywod?

Mae twyni tywod yn dirweddau gwyllt, eiconig. Maen nhw’n gartref i fywyd gwyllt, lle mae carpedi o degeirianau wedi goroesi ochr yn ochr â chân adar, glöynnod byw ac amrywiaeth o bryfed sydd mewn perygl. Picnic mewn pant cysgodol, chwarae cuddio… mae twyni tywod yn gae chwarae naturiol a chyfarwydd ond fel cymdeithas rydyn ni wedi anghofio am ddirgelwch y twyni tywod. Maen nhw’n fwy na dim ond tywod ac yn llai adnabyddus am eu rôl fel noddfa i blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl, fel tegeirian y fign galchog a madfall y tywod. Mae twyni tywod yn y DU yn edrych yn wahanol iawn heddiw i fel oedden nhw dim ond 100 mlynedd yn ôl hyd yn oed. Mae llawer o’r nodweddion tywodlyd agored sy’n gartref i greaduriaid prin ac arbennig wedi mynd, oherwydd mae llystyfiant trwchus a phrysgwydd wedi cymryd lle’r tywod noeth.

Sut mae Plantlife Cymru yn ymwneud â thwyni tywod? 

Mae Twyni Deinamig yn cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chronfa LIFE Ewrop. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Natural England, Plantlife, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaethau Natur. Wedi’i sefydlu yn 2020, dyma nodau’r prosiect: 

  • Gweithio ar draws 7,000 o hectarau o dwyni tywod arfordirol 
  • Adfer 22 o safleoedd twyni tywod ar draws Lloegr  
  • Adfer 11 o safleoedd yng Nghymru  

Mae Plantlife yn gweithio yng Nghymru a Dyfnaint a bydd ein prosiect Twyni Deinamig yn parhau tan ddiwedd 2023. 

Pa waith ydyn ni’n ei wneud ar dwyni yng Nghymru?

Mae ein gwaith ni yng Nghymru yn cael ei wneud gan ein swyddog Ymgysylltu â Phobl. Mae ei rôl yn cefnogi gweithgareddau cadwraeth twyni tywod dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau Natur, perchnogion tir preifat, elusennau cadwraeth lleol a chymunedau lleol. Yn ystod y prosiect rydyn ni wedi bod yn gweithio yn y lleoliadau canlynol: 

  • Cymyran, Tywyn Trewan, Tywyn Llyn a Thywyn Fferam ar Ynys Môn  
  • Morfa Bychan yng Ngwynedd 
  • Pem-bre yn Sir Gaerfyrddin   
  • Twyni Broughton, Oxwich a Phenmaen ar Benrhyn Gŵyr   
  • Twyni Crymlyn a Baglan yn Abertawe

Mae Twyni Deinamig hefyd yn cydweithio’n agos â phrosiect Cysylltiadau Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr Plantlife yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Yn ogystal â’n gwaith yng Nghymru, rydyn ni’n gwneud gwaith rheoli cadwraeth yn Nhwyni Braunton  – Dyfnaint, gan weithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Christie Estates a’r Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Beth yw’r broblem mae’r twyni yn ei hwynebu?

Mae ein twyni tywod arfordirol dan fygythiad. Yn wir, maen nhw wedi’u rhestru fel un o’r cynefinoedd sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn Ewrop o ran colli bioamrywiaeth. 

 

Un o’r problemau allweddol yw bod llawer o dwyni yn cael eu gorchuddio’n drymach gan lystyfiant a phrysgwydd ac mae llai o dywod agored noeth. Mae diffyg tywod symudol noeth yn cael effaith negyddol ar lawer o rywogaethau prin arbenigol y twyni tywod sydd angen ardaloedd o dywod agored i ffynnu. Mae angen i dwyni tywod iach symud a bod yn ddeinamig.

Felly beth ydym ni wedi bod yn ei wneud?

Ers i’r gwaith ddechrau yn 2023 rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau yng Ngogledd a De Cymru i gefnogi pobl i archwilio a dysgu am dwyni tywod Cymru. Mae ein gwaith ni hefyd wedi cefnogi gweithgareddau cadwraeth ein sefydliadau partner yng Nghymru. 

Rydyn ni wedi bod yn gwneud y canlynol: 

  • Cefnogi adfer twyni tywod drwy godi ymwybyddiaeth o gamau cadwraeth arloesol. Rydyn ni wedi bod yn hwyluso hyfforddiant i bobl ifanc a gwirfoddolwyr i gyfrannu at adfer twyni tywod. 
  • Codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod angen tywod symudol ar dwyni iach. Yn flaenorol, roedd y rheolaeth ar dwyni tywod yn ffafrio sefydlogi twyni ac rydyn ni’n gwybod bellach bod angen i dwyni tywod fod yn ddeinamig. 
  • Annog mwy o bobl i archwilio, mwynhau a helpu i warchod y twyni tywod. Mae ein gwaith ni’n cyflwyno rhaglen o ymgysylltu arloesol â’r cyhoedd a digwyddiadau a gweithgareddau gwyddoniaeth y dinesydd. Yng Nghymru mae’r digwyddiadau’n cynnwys teithiau tywys, hyfforddiant adnabod rhywogaethau, Tai chi ac ioga, celf a chrefft, gweithdai cerddorol, hyfforddiant i athrawon a hyfforddiant monitro cynefinoedd. 
  • Datblygu sgiliau i reoli twyni yn well, nawr ac yn y dyfodol. Mae ein gwaith ni wedi bod yn cefnogi rhwydweithio rhwng perchnogion tir preifat, rheolwyr tir a’r sector hamdden a gofal iechyd drwy hyfforddiant a gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein. Nod ein digwyddiadau ni yw cefnogi cydweithio a chynyddu hygyrchedd i bawb i dirweddau twyni. 

Ydw i’n gallu cymryd rhan?

Ydych! Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gwirfoddoli neu gyfleoedd gwyddoniaeth y dinesydd, er mwyn i chi allu helpu i adfer y twyni tywod i fod yn iach eto, naill ai gyda ni neu ein sefydliadau partner. Gallwch hefyd ddilyn cynnydd y prosiect ar eu gwefan, Twitter,InstagramneuFacebookneu gofrestru i fod yn rhan o restr bostio Twyni Deinamig i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ni