Skip to main content

Mae pethau newydd bob amser yn gyffrous, dydyn? Y tro cyntaf y bydd rhywbeth yn eich gardd yn blodeuo, darn newydd o Degeirianau’r Wenynen mewn lawnt heb ei thorri, cofnod newydd o rywbeth prin yn eich ardal NPMS? Beth am rywogaeth newydd o blanhigyn i’ch gwlad?

Dyna’n union beth ddigwyddodd i mi yn haf 2021 – ond yn gyntaf, rhywfaint o gefndir.

Darganfod cnwpfwsoglau Cymru

Mae cnwpfwsoglau’n griw o blanhigion sy’n fy nghyffroi i’n fawr. Maen nhw’n grŵp o blanhigion sydd wedi bod o gwmpas ar ryw ffurf neu’i gilydd ers y cyfnod Silwraidd (sef mwy na 430 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Mae gennym ni bum rhywogaeth yma yn Eryri: Alpaidd, Cors, Mawr, Lleiaf a Chorn Carw. Roedd gennym ni un arall, y Cnwpfwsogl Bylchog Lycopodium annotinum, tan ddiwedd y 1830au, pan welodd William Wilson y rhywogaeth ddiwethaf uwchben Llyn y Cŵn yn uchel uwchben Cwm Idwal. Erbyn 1894, roedd J.E. Griffith wedi datgan bod y Cnwpfwsogl Bylchog wedi diflannu o Gymru yn ei ‘Flora of Anglesey and Carnarvonshire’. Rydw i wedi chwilio am y Cnwpfwsogl Bylchog nawr ers blynyddoedd, yn ofer – ond ni fyddaf yn rhoi’r gorau iddi.

Diwrnod da allan yn y mynyddoedd i mi yw ‘diwrnod pedwar cnwpfwsogl’. Bydd ‘diwrnod pum cnwpfwsogl’ yn mynd â fi heibio i lecyn neu ddau penodol iawn lle byddaf yn gweld Cnwpfwsogl y Gors Lycopodiella inundata hefyd, ac yn fy ngorfodi i lwybr hirach a chylch i gyrraedd y llecynnau i weld y pedwar arall.

Hares Foot Clubmoss in it's habitat

Pan fyddaf yn botanegu dramor, mae’r Cnwpfwsoglau’n uchelfannau ar fy anturiaethau ac roeddwn i’n arbennig o falch o ddod o hyd i un o’n rhywogaethau brodorol ni, y Cnwpfwsogl Corn Carw Lycopodium clavatum, yn tyfu’n uchel ym mynyddoedd De Affrica pan oeddwn i yno yn 2017.

Mae gweld y planhigion hyn, sydd heb newid fawr ddim am gyfnod mor hir ac sy’n dal i fodoli yn ein byd anthropogenig ni, yn fy nghyffroi i’n fawr. Byddaf bob amser yn cadw llygad amdanynt os ydynt yn blanhigion bach iawn y Cnwpfwsogl Lleiaf Selaginella selaginoides yn tyfu mewn tryddiferiadau llawn calsiwm neu ffeniau, neu’n fatiau gwasgarog enfawr o’r Cnwpfwsogl Alpaidd Diphasiastrum alpinum sy’n tyfu’n uchel ar ein llethrau mynyddig mwyaf agored ni sy’n cael eu pori gan ddefaid.

Darganfod Cnwpfwsogl Troed yr Ysgyfarnog

Ac felly un diwrnod yn 2021, wrth i mi gerdded llwybr nad ydw i’n ei ddefnyddio’n aml, gwelais gnwpfwsogl wnaeth dynnu fy sylw i’n fawr. Roedd y cnwpfwsogl yma’n debyg i’r Cnwpfwsogl Corn Carw, ond roedd ei ffordd o dyfu’n rhyfeddol o dalsyth a’r mwyafrif o’i gonau’n unigol ar ben ei goesigau byr, yn hytrach nag mewn dau neu dri ar ddiwedd coesigau byr yn apig y coesynnau. Yng nghefn fy meddwl, fe gofiais i am rywogaeth arall o gnwpfwsogl y cadarnhawyd yn eithaf diweddar ei fod yn bresennol yn y DU. Felly, gan ddefnyddio Cod Ymddygiad Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon, fe wnes i gasglu sampl fechan a thynnu llawer iawn o ffotograffau.

Ar ôl dychwelyd adref y diwrnod hwnnw fe gysylltais â ffrind, David Hill, i weld beth oedd ei farn am yr darganfyddiad – roedd y ddau ohonom ychydig yn ddryslyd ac yn anhapus i ddatgan yr hyn yr oeddem yn meddwl y gallai fod. Doedd Cnwpfwsogl Troed yr Ysgyfarnog (Lycopodium lagopus) ddim wedi’i ddarganfod ymhellach i’r de na’r Alban yn y DU, ac fe’i ystyriwyd yn brin yno. Y dryswch i ni oedd bod L. lagopus ac L. clavatum yn perthyn yn agos iawn ac yn rhannu llawer o nodweddion.

A close up of Hares Foot Clubmoss

Parhaodd y sgwrs rhwng y ddau ohonom ni am bron i flwyddyn cyn i mi allu mynd yn ôl i’r safle a gweld y planhigion gyda chonau ffres. Y tro yma, fe wnes i gasglu sampl arall yn ofalus, a thynnu mwy fyth o ffotograffau a mynd â nhw gyda mi i Gynhadledd Fotanegol BSBI yn y Natural History Museum yn Llundain, lle roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n siŵr o daro ar Dr. Fred Rumsey – y dyn a ysgrifennodd ‘y papur’ am Gnwpfwsogl Troed yr Ysgyfarnog fel rhywogaeth yn y DU.

Yn sicr ddigon, roedd Fred yn hapus iawn i ddatgan bod gan hwn holl nodweddion Lycopodium lagopus ac felly’n aelod newydd o fflora Cymru.

Rhywogaeth newydd i Gymru

Mae gweld Cnwpfwsoglau Cymru yn gyffrous, ac mae dod o hyd i un newydd sbon yn WIRIONEDDOL gyffrous. Roeddwn i wedi rheoli fy nghyffro am ddod o hyd i’r ‘rhywbeth newydd’ yma ers amser maith. Roedd y sbesimenau wedi eistedd ar fy nesg am bron i ddwy flynedd cyn i Dr Rumsey lwyddo i’w gweld nhw. Felly, rydw i’n falch iawn o ddweud wrthych chi am hyn nawr.

Mae gennym ni chwe rhywogaeth o Gnwpfwsogl yng Nghymru eto, ond nid gyda’r un yr oedden ni’n credu y gallem ei hailddarganfod. Byddai eu gweld i gyd ar yr un pryd wrth fynd am dro yn siwrnai hir iawn, felly bydd ‘diwrnod pedwar cnwpfwsogl’ yn parhau i fod yn ddiwrnod da yn y mynyddoedd, mae ‘diwrnod pum cnwpfwsogl’ yn parhau i fod yn eithriadol, ac mae ‘diwrnod chwe chnwpfwsogl’, mae arnaf ofn , yn un hynod flinedig. Rhyw ddiwrnod, efallai y caf ‘ddiwrnod saith cnwpfwsogl’ – efallai bod y Cnwpfwsogl Bylchog yna wedi goroesi o hyd rhywle ym mynyddoedd Eryri.

How to Identify Waxcap Fungi
A red fungi growing in grass

How to Identify Waxcap Fungi

Grasslands like meadows and parks are not just home to wildflowers, they are also an important habitat for waxcap fungi.

Rare Fungus spotted at Kenfig National Nature Reserve
Brown topped fungus with yellow gills in a green grassy area

Rare Fungus spotted at Kenfig National Nature Reserve

Chris Jones, the Warden of Kenfig National Nature Reserve, recently found the very rare fungus, during a routine survey.

Beth ydi’r Mwsogl yma: Cynghorion Adnabod i Ddechreuwyr

Beth ydi’r Mwsogl yma: Cynghorion Adnabod i Ddechreuwyr

Yn 2022 wynebodd Lizzie Wilberforce yr her o geisio dysgu adnabod rhai o rywogaethau mwyaf cyffredin Prydain o fwsoglau a llysiau’r afu, ger ei chartref yng ngorllewin llaith a mwsoglyd Cymru.