Skip to main content

Bob hydref mae un o arddangosfeydd naturiol mwyaf lliwgar y DU i’w gweld: mae capiau cwyr lliwiau gemau’n ymddangos drwy’r glaswellt ar draws ein cefn gwlad a’n dinasoedd ni, a hyd yn oed rhai o’n gerddi. Beth am i ni ddod o hyd iddyn nhw!

A pink mushroom

Sut i adnabod capiau cwyr

Mae capiau cwyr yn fathau o fadarch sy’n adnabyddus am eu capiau sgleiniog yr olwg. Ochr yn ochr â mathau eraill o ffyngau gydag enwau rhyfeddol a diddorol, fel tagellau pinc, tafodau daear, ffyngau clwb a chwrel – maen nhw’n ffurfio teulu o’r enw “ffyngau’r glaswelltir capiau cwyr”.

Mae ffyngau’r glaswelltir capiau cwyr i’w gweld mewn enfys o liwiau gwahanol gan gynnwys fioledau, melyn, gwyrdd a phinc llachar.

Maen nhw hefyd yn dod mewn siapiau rhyfedd a rhyfeddol, a all eich helpu chi i adnabod y rhywogaeth rydych chi’n edrych arni.

Ble mae dod o hyd i gapiau cwyr yn y DU?

Chris Jones yw Warden Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, un o’n safleoedd Twyni Deinamig ni, ac mae wedi gweithio fel cadwraethwr ymarferol ers dros 25 mlynedd.

Cynffig yw un o systemau twyni tywod mwyaf Cymru ac mae’n darparu cynefin unigryw ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau prin ac arbenigol, gan gynnwys mwy nag 20 rhywogaeth o ffyngau Capiau Cwyr.

Violet coloured fungus with branches looking like coral on a green grassy area

Dyma gyngor Chris ar ble i ddod o hyd i gapiau cwyr yn eich ardal chi:

‘Mae ffyngau capiau cwyr i’w gweld yn gyffredin mewn glaswelltiroedd a dolydd, ac maen nhw’n adnabyddus am eu pwysigrwydd ecolegol. Maen nhw i’w gweld yn aml mewn ardaloedd lle mae llystyfiant byr, wedi’i bori, ond gallant hefyd fod mewn cynefinoedd lle mae tarfu’n digwydd, fel lawntiau ac ar hyd ymylon ffyrdd.

Mae capiau cwyr i’w gweld yn bennaf ddiwedd yr haf a’r hydref, fel arfer o fis Medi i fis Tachwedd, yn dibynnu ar y tywydd lleol – ond gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw drwy gydol y flwyddyn.

Ceisiwch chwilio am gapiau cwyr ar…

  • Dolydd a phorfeydd
  • Glaswelltiroedd arfordirol ar glogwyni a thwyni tywod
  • Rhostir ac ucheldiroedd, fel bryniau a mynyddoedd
  • Glaswelltiroedd trefol gan gynnwys lawntiau, parciau, mynwentydd a thiroedd plastai
  • Ymylon ffyrdd

Mae’r dolydd lle mae capiau cwyr i’w gweld yn cael eu hadnabod fel ‘glaswelltiroedd capiau cwyr’. Mae angen amodau penodol ar y glaswelltiroedd hyn er mwyn i gapiau cwyr ffynnu ac maent yn mynd yn brin.

Ar laswelltiroedd capiau cwyr, mae ffyngau capiau cwyr yn ffurfio partneriaethau gyda phlanhigion, lle maent yn cyfnewid maethynnau â gwreiddiau’r planhigion cynnal, gan fod o fudd i’r ffyngau a’r planhigion. Dim ond mewn cynefinoedd sydd â lefel uchel o fioamrywiaeth mae hyn yn digwydd, ac  mae yn ceisio adnabod y rhain.

Mae angen y canlynol ar laswelltiroedd capiau cwyr:

  • Pridd wedi’i ddraenio’n dda
  • Dim tarfu gan offer ffermio ers amser maith
  • Heb wrteithio, felly mae lefelau’r maethynnau yn y pridd yn isel
  • Glaswellt byr gyda digon o fwsogl

Mae ffyngau capiau cwyr yn hynod ddiddorol, nid yn unig oherwydd eu lliwiau llachar, ond hefyd oherwydd eu harwyddocâd fel dangosyddion glaswelltiroedd iach. Mae eu cadwraeth yn bwysig ar gyfer cynnal bioamrywiaeth a chadw’r ffyngau unigryw a hardd yma er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Mae llawer o rywogaethau o gapiau cwyr yn cael eu hystyried yn brin neu dan fygythiad, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd a newidiadau mewn arferion rheoli tir fel plannu coed ac amaethu dwys. Os dewch chi o hyd i rai, cofnodwch nhw ar yr ap Waxcap Watch.

Rydw i’n CARU Capiau Cwyr, maen nhw’n ANHYGOEL! Mae’n chwerthinllyd o anodd dewis ffefryn, ond pe bai’n rhaid i mi ddewis byddai’n… bob un ohonyn nhw.’

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 
person holding a plant with white flowers

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 

The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.  

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.