Skip to main content

Ar gopaon uchel Yr Wyddfa ac ar y Glyderau mae fforest sydd fawr ddim mwy na throedfedd o uchder yn tyfu. Coedwig o Feryw Juniperus communis subsp. nana yn swatio yng nghanol y creigiau yn yr holltau a’r agennau. Maen nhw ym mhob man, os edrychwch chi yn y mannau cywir, yn crwydro drwy’r tyweirch tenau ac yn ymledu dros y creigiau.

 

Ble gallwch chi ddod o hyd i goedwigoedd Meryw Cymru?

Os ewch chi ati i sgrialu dros gribau danheddog Crib Goch a Chrib y Ddysgl fe welwch chi nhw, ar Esgair Felen maen nhw’n ymdreiglo i lawr y clogwyni ac ar rannau uchaf Llwybr Watkin fe fyddwch chi’n cerdded drwy ganol y ‘goedwig fach’ yma. Lliwedd, un o gopaon lloeren Yr Wyddfa, sydd â’r nifer mwyaf o’r coedwigoedd hyn ac yma mae’n amhosibl peidio â sylwi arnyn nhw, er efallai na fyddwch chi’n sylweddoli mai coed ydyn nhw.

Mae eu boncyffion cam a chnotiog yn cadw’n agos at y ddaear, yn nannedd yr oerfel a’r gwynt yn y llecynnau agored lle maen nhw’n tyfu. Mae’r coed bach yma’n greiriau rhewlifol o gyfnod rhwng oesoedd yr iâ, fel llawer o’n rhywogaethau Arctig–Alpaidd.

Maen nhw’n gwneud eu gorau glas i oroesi yn y lleoliadau lleiaf hygyrch ar ein mynyddoedd ni lle maen nhw’n dod o hyd i loches rhag y geifr a’r defaid a’r hanes maith o glirio ein coetiroedd mynyddig.

Mae’r planhigion Meryw yma, ochr yn ochr â’r Helyg Bach, Salix repens, yn gyrion uchaf darniog math arbennig o goetir sydd wedi diflannu bron o fynyddoedd Eryri.

Coetir o Helyg crebachlyd, Meryw a choed a llwyni ‘Krummholz’ eraill sy’n tyfu ar lefel isel. Mae ‘Krummholz’ yn air Almaeneg sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio coed cnotiog, corachlyd sy’n gwthio’n uchel i’r mynyddoedd er mwyn goroesi mewn cyflwr clymog ac ystumiedig.

Gwarchod y coedwigoedd troedfedd o uchder

Ar un adeg byddai’r coetir prysglog, byr yma wedi lledu o tua 450m o uchder, y goedlin naturiol, i gopaon Eryri bron. Mewn mannau eraill ym Mhrydain mae i’w weld yn Ucheldir yr Alban ac mae darnau yn Ardal y Llynnoedd. Mae’n dal ei dir yma yng Nghymru ar yr ymylon a’r silffoedd lle nad yw pobl a phorwyr erioed wedi mentro.

Nid yw coed Eryri wedi’u cofnodi’n ddigonol, gyda chofnodion cyfyngedig am y coed ar y mynyddoedd uchel, felly mae cymaint mwy i’w ddeall o hyd am y coedwigoedd hynod uchel yma.

Yn ddiweddar, tra oeddwn i allan yn dringo, fe wnes i ddarganfod rhywogaeth o goeden nad oeddwn i’n disgwyl ei gweld ar silff, sef Ceirios yr Adar Prunus padus. Mae darganfod y goeden geirios yma’n cysylltu ein coetiroedd mynydd ni’n fwy uniongyrchol fyth â rhai’r Alban lle mae Ceirios yr Aderyn yn nodwedd gyffredin.

Darllenwch fwy am y gwaith y mae Natur am Byth! yn ei wneud drwy brosiect Tlysau Mynydd Eryri, ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor, er mwyn deall y coedwigoedd bach ond hynod ddiddorol yma yn well.

Pwysigrwydd y goedwig fach yng Nghymru

Mae manteision eang i’w cael o adfer y brithwaith yma o goetir Alpaidd. Mae’r cynefin yma’n ecolegol hanfodol, oherwydd mae coed a llwyni mynyddig yn arbennig o bwysig i infertebrata ac mae llawer o’r rhywogaethau coediog hyn yn gartref i amrywiaeth eang o ffyngau ectomicorhisal endemig. Yn ogystal, gall cynefin coetir mynyddig a phrysgwydd Helyg ddarparu gwarchodaeth rhag tywydd eithafol i gymunedau o berlysiau tal a phlanhigion Alpaidd prin a fyddai fel arall mewn hinsawdd agored iawn ac yn ei chael yn anodd goroesi mewn amgylcheddau Alpaidd.

Mae’r amrywiaeth cynyddol sy’n cael ei alluogi gan y cymunedau ucheldirol coediog hyn yn cael effeithiau cadarnhaol ar famaliaid bach ac adar fel Mwyalchen y Mynydd. Mae olyniaeth yn y cynefinoedd coediog yma’n adeiladu deunydd organig yn y pridd drwy eu sbwriel dail. Mae’r coetiroedd hyn yn lleihau erydiad drwy adeiladu’r priddoedd yma a hefyd atal dŵr ffo sy’n lleihau effeithiau llifogydd.

Felly, os ydych chi’n bwriadu mynd am drip i gopa’r Wyddfa yn y dyfodol agos, cadwch lygad am y goedwig rydych chi’n cerdded drwyddi a rhowch ennyd i aros a meddwl sut byddai’r mynyddoedd yma wedi edrych cyn i’w coetiroedd ddiflannu bron a meddwl hefyd am y rhywogaethau eraill a gollwyd gyda hwy a sut gallent edrych eto.

Our work in Wales

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 
person holding a plant with white flowers

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 

The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.  

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.

Mistletoe: Why the Kissing Plant is a Parasite

Mistletoe: Why the Kissing Plant is a Parasite

Discover Mistletoes unusual way of surviving, alongside a host of other fascinating parasitic plants, in this in-depth read.