Skip to main content

Diolch i’w gysylltiad â’r Nadolig, a’i ymddangosiad ar gardiau ac addurniadau, mae’n debyg mai Uchelwydd yw un o’n rhywogaethau brodorol mwyaf cyfarwydd ni. Mae’r cysylltiad hwn hefyd yn golygu bod y ‘planhigyn cusanu’ yn cael ei gynaeafu mewn sypiau enfawr bob blwyddyn hefyd ar gyfer addurniadau tymhorol. Mae’n debyg bod y traddodiad hwn yn deillio o hanes maith o ddefnydd mewn defodau, a allai fod wedi dechrau gyda’r derwyddon Celtaidd.

Mae’n cael ei weld fel symbol o ffrwythlondeb, cariad, a heddwch ar draws diwylliannau Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y traddodiad cusanu ei hun wedi datblygu’n fwy diweddar, yn y 18fed ganrif efallai.

Mwy am Uchelwydd

Ond beth am y planhigyn yn y gwyllt? Er bod ganddo ddosbarthiad eang yn y DU, mae’n eithaf prin mewn llawer o ardaloedd. Mae ei helaethrwydd mwyaf wedi’i glystyru’n gryf o amgylch ardaloedd y gororau rhwng Cymru a Lloegr.

Yn wir, dyma flodyn sirol Swydd Henffordd hefyd, lle gallwch ddod o hyd i Warchodfa Natur Fferm Joan’s Hill. Yma, mae cysylltiad cryf rhyngddo a pherllannau ffrwythau’r ardal, er ei fod yn tyfu ar amrywiaeth eang o goed collddail fel poplys a phisgwydd yn ogystal â rhywogaethau perllan.

Bywyd planhigyn parasitig

Mae uchelwydd yn ‘lled-barasit gorfodol’ y coed y mae’n tyfu arnyn nhw: hynny yw, nid yw’n tyfu ar goed fel gwestai corfforol yn unig. Mewn gwirionedd ni all oroesi heb y symbiosis biolegol sydd ganddo â’r goeden mae’n byw arni, er ei fod hefyd yn cwblhau ffotosynthesis. Felly sut mae’r berthynas hon yn gweithio?

Mae uchelwydd yn cynhyrchu hadau mewn aeron gwyn – sy’n anarferol ynddo’i hun, gan mai dyma ein hunig blanhigyn brodorol sydd ag aeron gwyn gwirioneddol. Mae’r hadau’n cael eu gwasgaru yn y dirwedd gan adar, fel brychion (yn eu tail) a Theloriaid Penddu (sy’n symud hadau yn fecanyddol ar eu cyrff).

Mae’r ddau lwybr yn caniatáu i hadau lynu wrth goed newydd, ac os yw’r lleoliad yn addas, maen nhw’n egino yno. Mae’r eginblanhigion ifanc sy’n dod i’r amlwg yn ffotosynthetig, ac felly yn y cyfnod cynnar hwn nid ydynt yn dibynnu ar y goeden.

Wrth i’r eginblanhigion dyfu, mae ambell un yn treiddio i risgl y goeden ac yn cysylltu â’r meinwe oddi tanodd – dechrau’r berthynas barasitig. Ym mlwyddyn gyntaf y planhigyn, mae ei gysylltiadau â meinweoedd y goeden eisoes yn darparu dŵr a maethynnau mwynau hanfodol iddo.

Dim ond wedyn, dros yr ychydig flynyddoedd dilynol, mae’r planhigyn yn dechrau tyfu’n araf iawn. Mae uchelwydd yn blanhigyn bythol sy’n byw yn hir.

Sut mae parasitiaeth yn gweithio?

Mae parasitiaeth yn fath o symbiosis lle mae un partner yn elwa ar draul y llall. Mae uchelwydd yn ffynnu oherwydd y goeden, ond nid yw’r gwrthwyneb yn wir. Os oes gan goeden lawer o Uchelwydd, gall effeithio’n eithaf difrifol ar y goeden yn y pen draw, gan rwystro tyfiant, ac, er enghraifft, ei gwneud yn fwy agored i sychder o ganlyniad i golli dŵr.

Mae parasitiaeth wedi esblygu sawl gwaith yn wahanol ar draws y byd planhigion. Mae’r blodyn mwyaf yn y byd, Rafflesia arnoldii, yn flodyn i barasit. Mae coeden gonwydd barasitig, Parasitaxus usta, sy’n tyfu yng Nghaledonia Newydd, ac mae Hydnora africana yn edrych fel ei fod yn perthyn i ffilm ffuglen wyddonol.

Darganfod mwy o blanhigion parasitig yn y DU

Yn y DU mae gennym ni gyfoeth o blanhigion parasitig a lled-barasitig sy’n cael maethynnau yn uniongyrchol o blanhigion eraill, yn ogystal â chriw o rywogaethau o blanhigion sy’n dwyn eu maethynnau naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol o ffyngau.

  • Mae gennym ni 21 o wahanol rywogaethau o effros, Euprasia, yn y DU. Mae rhai, fel Euphrasia cambrica, i’w gweld yma ac yn unman arall yn y byd. Mae’n well edrych ar harddwch blodau effros gyda lens llaw. Gellir gweld rhai rhywogaethau o effros yn helaeth yn ystod yr haf mewn gwarchodfeydd natur fel Caeau Tan y Bwlch yng Ngogledd Cymru. Yma gallwch ddod o hyd i’r Euphrasia monticola prin ochr yn ochr â miloedd o Degeirianau Llydanwyrdd.
  • Mae gennym ni 14 o rywogaethau gwahanol o orfanadl ac mae llawer ohonyn nhw’n cysylltu ag un rhywogaeth gynhaliol yn unig, neu nifer bach iawn o rywogaethau cynhaliol. Mae gorfanadl yn blanhigion ysblennydd ac yn cystadlu â llawer o’n tegeirianau ni am harddwch – mae’n werth mynd allan a cheisio gweld rhai ohonyn nhw. Mae’n debyg mai’r rhai hawsaf i’w darganfod yw’r Gorfanadl Eiddew neu’r Gorfanadl Cyffredin.
  • Os ydych chi’n digwydd bod ym maes parcio eich archfarchnad leol, mae’n werth cadw llygad am yr amrywiaeth o orfanadl sydd wedi ei ddisgrifio o’r newydd, Orobanche minor heliophila. Dim ond yn 2020 y cydnabuwyd yr amrywiaeth yma o Orobanche minor yn y DU. Dim ond gyda llwyn o Seland Newydd o’r enw Brachyglottis × jubar, ‘Golau’r haul’, sy’n cael ei blannu’n aml mewn meysydd parcio y mae’r planhigyn hwn i’w gael.
  • Mae gennym ni ddwy rywogaeth o ddeintlys yma hefyd – mae un, Lathraea squamaria, yn frodorol ac yn cysylltu â choed Cyll; cyflwynwyd y llall, Lathraea clandestine, fel planhigyn gardd a bydd yn fodlon bod yn barasit ar sawl coeden a llwyn gwahanol heb wneud unrhyw niwed difrifol iddynt.
  • Mae cribell felen, Rhinanthus minor (crëwr y ddôl), yn lled-barasitig ac rydym yn defnyddio’r nodwedd yma mewn dolydd blodau gwyllt i leihau egni’r glaswellt ac i fod o fudd i’r planhigion eraill. Ei berthynas yw Rhinanthus angustifolius sydd bellach yn brin iawn yn y DU. Mae effros, gliniogai, melog y cŵn a gorudd yn cyflawni’r un rôl â’r gribell felen hefyd mewn dolydd a choetiroedd.
  • Mae’n bosibl mai’r planhigion parasitig tebycaf i fampir sydd gennym ni yn y DU yw’r llindag, Cuscuta. Mae tair rhywogaeth o lindag i’w canfod yma, dwy frodorol ac un wedi’i chyflwyno. Pan fyddan nhw’n egino, maen nhw’n gallu ‘arogli’ eu rhywogaethau o blanhigion cynhaliol cyn clymu o’u hamgylch ac wedyn treiddio i goesynnau’r planhigyn cynnal i echdynnu maethynnau gyda strwythurau tebyg i hawstoriwm sy’n amsugno dŵr neu faethynnau o’r planhigyn cynnal.
  • Mae llawer o degeirianau fel Neottia nidus-avis, Tegeirian Nyth Aderyn, a pherthnasau grug fel Monotropa hypopitys, sef Cytwf, yn echdynnu eu holl faethynnau o ffyngau heb roi dim byd yn ôl i’w planhigyn cynnal. Mae hwn yn fath o barasitiaeth sy’n cael ei alw yn myco-heterotroffi.

Learn more about plants

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 
person holding a plant with white flowers

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 

The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.  

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.