Skip to main content

Bellach pennau melyn llachar y Cennin Pedr sy’n blodeuo yn y gwanwyn ydi ein symbol mwyaf cyfarwydd ni o Ddydd Gŵyl Dewi; yn wir, maen nhw’n symbol o Gymru ei hun. Fodd bynnag, mae Cennin Pedr yn gymharol newydd i’r byd yma, yn dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif yn unig fel emblem ar gyfer y wlad. Mae’r Genhinen Wyllt, fodd bynnag, wedi bod yn symbol o Gymru cyhyd fel bod ei straeon yn dyddio’n ôl i gyfnod Dewi Sant ei hun, y credir iddo farw yn y flwyddyn 589.

 

Hanes y Genhinen Wyllt yng Nghymru

Mae chwedl yn disgrifio sut gorchmynnwyd milwyr o Gymru i ddangos pwy oeddent drwy wisgo Cenhinen ar eu helmed, wrth iddyn nhw ymladd yn erbyn y Sacsoniaid yng ngogledd a chanolbarth Lloegr, dan orchymyn y Brenin Cadwaladr o Wynedd.

Fel yn achos pob hanes llafar sydd wedi’i adrodd am gyfnod mor faith, ac mor eang, mae llawer o wahanol amrywiadau ar y chwedl hon; fodd bynnag, mae presenoldeb maith y Genhinen ar draws canrifoedd lawer o hanes Cymru yn gwbl glir.

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni bellach yn meddwl am Gennin fel y llysiau mawr, wedi’u trin, welwn ni mewn archfarchnadoedd – sydd ddim yn addas o gwbl i’w gosod ar helmed mewn brwydr! Fodd bynnag, mae eu genws, Allium, hefyd yn cynnwys nifer o rywogaethau sydd naill ai’n frodorol, neu wedi’u cyflwyno o gyfnod hynafol i Brydain. Mae gan y rhain dreftadaeth lawer hirach na’r llysieuyn domestig, a byddent wedi bod yn tyfu yng ngogledd Cymru yng nghyfnod y Brenin Cadawladr a Dewi Sant.

Un o’r rhain yw Allium ampeloprasum var. ampleoprasum, amrywiaeth ar y Genhinen Wyllt sy’n dal i dyfu heddiw ar Ynys Môn. Mae’n blanhigyn mawr, sy’n tyfu hyd at 2m o uchder, gyda phen blodau sfferig trwchus o flodau pinc i borffor. Byddai hwn yn sicr wedi bod yn ychwanegiad nodedig at helmed milwr. Ai dyma wir Genhinen chwedlau Cymru?

 

Ydi’r Genhinen Wyllt wedi bodoli yng Nghymru erioed?

Dydi’r Genhinen Wyllt ddim yn frodorol i Brydain mewn gwirionedd – ond mae’n un o’r archaeoffytau, sy’n golygu iddi gael ei chyflwyno gan bobl amser maith yn ôl – gan fasnachwyr efallai, gannoedd o flynyddoedd cyn cyfnod Dewi Sant. Mae’n debygol y byddai wedi cael ei thyfu a’i gwerthfawrogi gan bobl gogledd Cymru am ei phriodweddau maethegol a meddygol.

Wild Leek on Angelsey

Mae tystiolaeth o hyn i’w gweld yn Llyfr Coch Hergest (c. 1375-1425). Dyma un o’r llyfrau pwysicaf a ysgrifennwyd erioed yn y Gymraeg, ac mae’n gasgliad o fytholeg, barddoniaeth a chroniclau’r oes. Mae’n cynnwys testunau meddygol cyfoes, sy’n enwi Cennin mewn llawer o ryseitiau ar gyfer triniaethau a iachâd.

Mae ymddangosiad rheolaidd Cennin mewn testunau eraill, diweddarach, hefyd yn awgrymu bod y planhigion ar gael yn eithaf rhwydd i bobl Cymru. Mae’n rhaid eu bod yn llawer mwy cyffredin nag ydyn nhw heddiw.

Dyfodol y Genhinen Wyllt

Yn anffodus, mae’r Genhinen Wyllt yn cael ei hystyried mewn perygl o ddifodiant yng Nghymru bellach, a dim ond ar Ynys Môn mae poblogaethau bychain i’w gweld o hyd, ac ar Ynys Rhonech ac Ynys Echni. Fodd bynnag, mae poblogaeth iach yn cael sylw gan Robbie Blackhall-Miles o Plantlife Cymru.

 

Bydd hyn yn helpu i sicrhau diogelwch hirdymor y rhywogaeth hon sydd bellach yn brin yng Nghymru. O ystyried ei chysylltiad maith a rhyfeddol gyda chymunedau Cymru, gyda Dewi Sant ei hun hyd yn oed o bosibl – mae hyn yn sicr yn rhywbeth i’w ddathlu – yn enwedig ar Ddydd Gŵyl Dewi.

More ways to learn about wild plants and fungi

No Mow May: Can your garden be a carbon store?

No Mow May: Can your garden be a carbon store?

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Protecting Waxcaps: All the Losses We Cannot See…

Protecting Waxcaps: All the Losses We Cannot See…

Britain’s waxcap grasslands are considered to be the best in Europe. Discover the pressures these colourful fungi and their habitats face…

How to Identify Waxcap Fungi
A red fungi growing in grass

How to Identify Waxcap Fungi

Grasslands like meadows and parks are not just home to wildflowers, they are also an important habitat for waxcap fungi.