Skip to main content

Mae sioe hardd yr hydref o gapiau cwyr amryliw yn ddangosydd pwysig o laswelltiroedd hynafol sydd heb eu haredig ers degawdau, ac sy’n gyfoethog mewn carbon a bioamrywiaeth pridd. 

Yn anffodus, mae llawer o’r safleoedd cwbl unigryw yma ar gyfer ffyngau’r glaswelltir yn parhau i ddiflannu o ganlyniad i blannu coed, tai newydd, ffermio dwys, seilwaith trafnidiaeth a mwy. Mae’n sicr bod llawer mwy hefyd yn cael eu colli heb eu gweld, oherwydd cyfres o faterion rhynggysylltiedig sy’n gosod cadwraeth ffyngau ymhell y tu ôl i gadwraeth tacsa eraill fel mamaliaid ac adar.

Pa broblemau mae ffyngau’r glaswelltir yn eu hwynebu? 

Y broblem gyntaf, a’r bwysicaf efallai, yw prinder arolygwyr maes medrus (o’r enw mycolegwyr) sy’n gallu adnabod a chofnodi ffyngau. Yn ffodus, mae’n ymddangos bod diddordeb cynyddol mewn ffyngau ymhlith y cyhoedd. Mae’r 1,500 o aelodau o dudalen Facebook #WaxcapWatch Plantlife yn adlewyrchiad o hyn, ac yn galonogol iawn. 

Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n gweithio’n broffesiynol fel arolygwyr maes yn parhau i fod yn isel iawn. Nid yw’r rhan fwyaf o ymgynghoriaethau ecolegol, sy’n gwneud gwaith arolygu i warchod bywyd gwyllt yn ystod datblygiadau, yn cyflogi mycolegwyr. 

Mae’r diffyg cofnodwyr a chofnodi arbenigol yma’n golygu mai ychydig iawn o ddata sydd gennym ni o hyd sy’n disgrifio dosbarthiad gwahanol rywogaethau ffyngaidd ar draws rhannau helaeth o’r wlad, yn enwedig o gymharu â thacsa eraill. 

Beth sy’n digwydd pan nad oes data? 

Mae pwysau aruthrol ar ddefnydd tir heddiw. Mae arnom ni angen tir ar gyfer ffermio, ar gyfer plannu coed, ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ar gyfer tai: mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae ein gallu ni i sicrhau adferiad byd natur yn dibynnu ar wneud penderfyniadau da wrth i ni gynllunio’r gweithgareddau hyn. Mae hynny yn ei dro yn sicrhau bod byd natur yn cael ei warchod, a’i adfer mewn gwirionedd, yn unol â thargedau a pholisïau’r llywodraeth.

Fodd bynnag, meddyliwch am hyn: mae cynlluniau ar droed i adeiladu stad fawr o dai newydd ar dir amaethyddol a oedd yn arfer cael ei bori gan ddefaid. Mae angen arolygon ecolegol. Fodd bynnag, nid yw chwiliad o gronfeydd datan datgelu unrhyw gofnodion ffyngaidd, oherwydd nid oes unrhyw fycolegwyr maes wedi ymweld â’r tir erioed.

Mae’r ymgynghoriaeth ecolegol yn ymweld â’r safle yn yr haf, oherwydd dyma’r amser gorau i gynnal arolwg o blanhigion, adar a mamaliaid. Nid yw’n cyflogi mycolegydd. Nid yw’r planhigion yn y caeau mor ddiddorol â hynny – ac felly mae’r cynnig yn cael sêl bendith. Mewn gwirionedd, mae’r caeau’n eithriadol gyfoethog mewn capiau cwyr, ond does neb yn gwybod hynny, a does neb yn edrych. Mae’r safle’n cael ei golli heb gael ei gydnabod am ei fioamrywiaeth o gwbl. 

Effaith datblygiad ar ein ffyngau cudd

Mae hon yn broblem real iawn y mae Plantlife yn dyst iddi ar hyn o bryd mewn achosion niferus ledled Cymru. Mae arolygon ffyngaidd yn anodd eu cynnal, ac yn cael eu hystyried yn afresymol o feichus yn aml i ddatblygwyr, hyd yn oed ar gyfer prosiectau mawr. O ganlyniad, rydyn ni’n colli glaswelltiroedd hynafol gwerthfawr cyn i ni allu eu hadnabod nhw am yr hyn ydyn nhw hyd yn oed. Does dim posib gwneud iawn am effaith ar rywbeth nad oeddech chi’n gwybod ei fod yno erioed. 

Mae hefyd yn debygol o fod yn broblem gynyddol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod gyda phrosiectau seilwaith mawr yn cael eu cynllunio. Er enghraifft, yng Nghymru mae llawer iawn o waith wedi cael ei drefnu i atgyfnerthu ein grid cyflenwi trydan, gyda cheblau newydd yn cael eu gosod yn eu lle ledled y wlad. Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yng Nghymru, yn 2023 mai’r rhagdybiaeth fydd y bydd ceblau newydd yn cael eu rhoi o dan y ddaear, er mwyn lleihau’r effaith weledol. A fydd yr effaith ar ffyngaun cael ei nodi a’i lliniaru’n ddigonol? Ar hyn o bryd, mae hynny’n ymddangos yn annhebygol. 

Beth allwn ni ei wneud i helpu ffyngau’r glaswelltir? 

Dydyn ni ddim wedi colli’r frwydr yn llwyr ac mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud i fynd i’r afael â’r broblem hon. 

  • Mae arnom ni angen i’r llywodraeth, cynllunwyr awdurdodau lleol, a datblygwyr, gydnabod bod y systemau presennol yn methu’n rheolaidd â nodi safleoedd sy’n bwysig i ffyngau, a gwneud yn siŵr bod yr effeithiau ar ein glaswelltiroedd hynafol ni sydd o bwysigrwydd rhyngwladol yn cael sylw gwell.
  • Mae arnom ni angen gwell gwarchodaeth gyfreithiol i ffyngau. Er enghraifft, ar hyn o bryd dim ond 27 o rywogaethau sydd wedi’u gwarchod o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, o gymharu â 51 o adar a 188 o infertebrata.
  • Mae arnom ni angen mwy o fuddsoddiad mewn arolygu ffyngau cyn ymrwymo i newid defnydd tir. Mae hynny’n golygu hyfforddi a chyflogi mwy o fycolegwyr maes, ond hefyd gwneud mwy o ddefnydd, a gwell defnydd, o dechnegau newydd fel arolygon eDNA. Gall yr arolygon yma ganfod y ffyngau sy’n bresennol yn y pridd, a helpu i leihau ein dibyniaeth ni ar arolygon yn ystod tymor ffrwytho ffyngaidd yr hydref.
  • Mae arnom ni angen mwy o ddata. Fe allwn ni i gyd helpu gyda hynny, drwy gofnodi ffyngau pan fyddwn yn eu gweld. Hyd yn oed os nad ydych chi’n arbenigwr, fe allwch chi gymryd rhan yn ein Waxcap Watch, sydd ond yn gofyn am liwiau’r ffyngau glaswelltir rydych chi’n eu gweld. Mae hyn yn helpu i nodi safleoedd o werth posibl. Pan gaiff gwerth safle ei ddeall a’i gofnodi, mae’n ei gwneud yn haws i ni ymladd i amddiffyn y gwerth hwnnw.

More ways we’re saving wild plants and fungi

No Mow May: Can your garden be a carbon store?

No Mow May: Can your garden be a carbon store?

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Why I’m Now Farming for Nature

Why I’m Now Farming for Nature

Hywel Morgan, Plantlife’s Agricultural Advisor, explains how and why he made the switch to sustainable farming on his 230-acre farm in Wales.

Newyddion Ffermio Cymru
Black cow and white cow in Welsh Upland background trees and hills

Newyddion Ffermio Cymru

Mae glaswelltiroedd amaethyddol yn rheoli tirwedd wledig Cymru. Mae dod o hyd i ffyrdd o adfer cynefinoedd llawn rhywogaethau i ffermydd yn flaenoriaeth i Plantlife Cymru.