Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
This autumn, help us find Britain’s most colourful and important fungi – waxcaps.
Fungi are crucial to nearly all life on Earth, but they are not given the recognition and investment they deserve. Will you join our mission to change that?
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Yn cael ei hadnabod fel crëwr dolydd byd natur, y Gribell Felen yw’r planhigyn unigol pwysicaf sydd arnoch ei angen wrth greu dôl blodau gwyllt.
Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Mae’r Gribell Felen, sy’n cael ei hadnabod yn gyffredin fel y crëwr dolydd, yn un o’r planhigion pwysicaf sydd arnoch ei angen ar gyfer dôl. Hebddo, gall glaswelltau cryf dyfu’n wyllt a thagu blodau rydych chi eisiau eu hannog.
Wrth i’r Gribell Felen Rhinanthus minor dyfu mewn dôl bydd y glaswellt yn mynd yn deneuach, gan wneud lle i blanhigion fel Llygad-llo Mawr, y Bengaled yn ei hamrywiol ffurfiau a Ffacbys ymddangos. Ac os ydych chi’n lwcus, efallai y bydd tegeirian yn ymddangos hyd yn oed.
Wedyn mae gwenyn mawr, yn enwedig cacwn, yn symud i mewn ac yn peillio blodau’r Gribell Felen ac mae’r codennau hadau mawr yn sychu ac yn aeddfedu. Mae hyn yn gadael yr hadau yn ysgwyd o gwmpas y tu mewn. Roedd ffermwyr yn arfer defnyddio sŵn yr hadau’n ysgwyd fel arwydd i dorri’r gwair – dyna o ble y daw’r enw rattle yn Saesneg.
Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn dechrau defnyddiol iawn wrth greu dôl blodau gwyllt, ond gall fod ychydig yn anodd ei sefydlu. Dyma rai cynghorion doeth i chi ddechrau arni:
1. Cael rhywfaint o hadau
2. Plannu’r hedyn
3. Ei gwylio yn tyfu
Your go-to guide for transforming places into flower-rich meadows.
Diwedd yr haf (Awst – Medi) yw’r amser gorau i hadu’r Gribell Felen. Ni fydd yn tyfu’n llwyddiannus os caiff ei hadu yn y gwanwyn. Mae posib hadu’r hadau ddim hwyrach na mis Tachwedd oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C i egino yn y gwanwyn.
Mae hadau’r Gribell Felen yn hawdd eu casglu gyda llaw. Yn syml, daliwch fag papur o dan y cod hadau aeddfed a’i ysgwyd yn ysgafn gyda’ch bysedd. Mae’n hawdd casglu symiau mwy drwy ddefnyddio faciwm neu chwythwr dail.
GWYLIO: Sarah Shuttleworth o Plantlife yn casglu hadau’r Gribell Felen gyda faciwm.
Mae nifer o resymau pam y gall y Gribell Felen ddiflannu o ddôl, gan gynnwys:
Ar gyfer dolydd, rydyn ni’n argymell 0.5 i 2.5kg yr hectar / 10-20g fesul m2 os ydych chi’n casglu eich hadau eich hun.
Mae nifer o resymau posibl:
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.