Skip to main content

Rydw i’n ddigon ffodus i fod wedi gweithio yn ein coedwigoedd glaw tymherus ni ers ymhell dros ddegawd bellach, ac er bod llawer o’n gwaith diweddar ni yma yn Plantlife wedi canolbwyntio ar ardaloedd coedwigoedd glaw Lloegr, drwy ein prosiect ‘LOST’ yn Ardal y Llynnoedd a’r prosiect ‘Building Resilience’ yn Ne Orllewin Lloegr, y ddau wedi’u cyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydw i wedi cael y cyfle i fynd allan i rai o’n coedwigoedd glaw ni yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf ac wedi cael fy atgoffa pa mor arbennig ydyn nhw.

 Llysiau’r ysgyfaint yn Nolmelynllyn

Roedd y cyntaf o’r ymweliadau yma â stad Dolmelynllyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Ganllwyd i edrych ar y trawsblannu ar gennau Llysiau’r Ysgyfaint a wnaethom bum mlynedd yn ôl. Yn wreiddiol, roedd hon yn ymgais i achub y cennau yma o hen goeden Onnen a oedd yn llythrennol wedi’i gwisgo mewn cennau Llysiau’r Ysgyfaint, o dri math, a gafodd ei chwythu i’r llawr mewn storm haf. Mae trawsblannu’r rhywogaethau deiliog mawr yma’n weddol syml yn ymarferol ond mae’n anodd ei wneud yn iawn, y gamp yw dod o hyd i’r gilfach iawn ac un sydd i o afael dannedd gwlithod. 

Does dim posib gwarantu llwyddiant ac roedd mwyafrif y trawsblaniadau yma wedi’u colli i wlithod. Cafwyd rhai llwyddiannau nodedig serch hynny, gyda’r ‘lob scrob’ Lobarina scrobiculata yma’n ffynnu ar sycamorwydden, a gorau oll gan mai dyma un o’r cennau llysiau’r ysgyfaint prinnach yng Nghymru. Mae gan yr ardal lle cafodd hwn ei drawsblannu gymunedau ysblennydd o gennau ar hen goed ynn, derw a sycamorwydd, yr arddangosfa orau o gennau llysiau’r ysgyfaint yng Nghymru mae’n debyg gyda digonedd o Lysiau’r Ysgyfaint y Coed Lobaria pulmonaria, Cen Memrwn Ricasolia amplissima, ‘Stictas Drewllyd’ Sticta fuliginosa a Sticta sylvatica a Chroen jeli glas Leptogium cyanescens

I fyny yn y cymylau yn Nhrawsfynydd

Aeth ymweliad safle arall â mi i goetir anghysbell ger Trawsfynydd lle rydym yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i ganfod y ffordd orau o reoli’r coetir yma. Er mai dim ond ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd o’r Ganllwyd mae’r safle yma, dyma goetir tra gwahanol i Ddolmelynllyn gan ei fod ar uchder uwch ac yn agored i lefelau uwch o lawiad. Mae’n ffafrio gwahanol gymunedau o gennau a bryoffytau gyda’r hyn y gellid ei ystyried yn gennau ‘coedwig cwmwl’ a fflora bryoffyt ‘gorgefnforol’ cyfoethog sy’n cynnwys llawer o rywogaethau prin.

Mae hyn hefyd wedi fy atgoffa i o ba mor amrywiol yw ein coedwig law ni, yn yr un ffordd â nad oes unrhyw ddau wlybdir, aber neu fynydd yr un fath, nid oes unrhyw ddarn o goedwig law dymherus yr un fath. Maent i gyd yn amrywio yn ôl daeareg, topograffeg, agwedd, hinsawdd, hanes, rheolaeth ac ati; mae ein coedwig law dymherus ni yn Ne Orllewin Lloegr yn dra gwahanol i’r un yng Ngorllewin yr Alban, gyda Chymru rywle yn y canol. Mae ‘cefnforedd’ yn dylanwadu’n arbennig arnynt – i ba raddau mae agosrwydd at Fôr yr Iwerydd yn dylanwadu ar yr hinsawdd – ac yn fras maent yn sychach ac yn fwy heulog i’r de ac yn llawer gwlypach i’r gogledd.

Mae hyn yn y bôn yn golygu na fyddwch chi byth yn gweld yr un pethau ddwywaith ac mae oes o archwilio ar gael. Byddwn yn annog unrhyw un i estyn am lens llaw (nid yw’n hanfodol o bell ffordd, ond yn bendant mae’n helpu i werthfawrogi’r pethau bach) a mynd allan i archwilio.

Dyma rai o fy hoff goedwigoedd glaw i ar gyfer ymweld â nhw yng Nghymru:

  • Hafod y Llan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a choetiroedd Nant Gwynant, yn swatio o dan yr Wyddfa
  • Coed Felinrhyd Coed Cadw a Llennyrch yn Nyffryn Ffestiniog
  • Dolmelynllyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Ganllwyd, i’r gogledd o Ddolgellau
  • Coed Garth Gell yr RSPB, ar y Fawddach i’r gorllewin o Ddolgellau
  • Coed Crafnant Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn Nyffryn Artro
  • Coed Cwm Cletwr Cyfoeth Naturiol Cymru, i’r de o Fachynlleth
Newyddion Ffermio Cymru
Black cow and white cow in Welsh Upland background trees and hills

Newyddion Ffermio Cymru

Mae glaswelltiroedd amaethyddol yn rheoli tirwedd wledig Cymru. Mae dod o hyd i ffyrdd o adfer cynefinoedd llawn rhywogaethau i ffermydd yn flaenoriaeth i Plantlife Cymru.

Rare Fungus spotted at Kenfig National Nature Reserve
Brown topped fungus with yellow gills in a green grassy area

Rare Fungus spotted at Kenfig National Nature Reserve

Chris Jones, the Warden of Kenfig National Nature Reserve, recently found the very rare fungus, during a routine survey.

Discovering Wales’ Extraordinary Rainforest Lichens

Discovering Wales’ Extraordinary Rainforest Lichens

Mae Dave Lamacraft, Arbenigwr Cennau a Bryoffytau Plantlife, yn mynd allan i ddarganfod cyfoeth o gennau rhyfeddol sy’n galw coedwigoedd glaw Cymru yn gartref.