Skip to main content

Mae’r Gribell Felen, sy’n cael ei hadnabod yn gyffredin fel y crëwr dolydd, yn un o’r planhigion pwysicaf sydd arnoch ei angen ar gyfer dôl. Hebddo, gall glaswelltau cryf dyfu’n wyllt a thagu blodau rydych chi eisiau eu hannog.

 

Wrth i’r Gribell Felen Rhinanthus minor dyfu mewn dôl bydd y glaswellt yn mynd yn deneuach, gan wneud lle i blanhigion fel Llygad-llo Mawr, y Bengaled yn ei hamrywiol ffurfiau a Ffacbys ymddangos. Ac os ydych chi’n lwcus, efallai y bydd tegeirian yn ymddangos hyd yn oed.

Yellow rattle close up

Cylch Bywyd (blwyddyn) y Gribell Felen:

  • Mae’r hadau’n egino yn gynnar yn y gwanwyn ac yn tyfu’n gyflym
  • Wrth i’r gwreiddiau ddatblygu, mae’n chwilio am wreiddiau planhigion sy’n tyfu gerllaw, yn enwedig glaswelltau
  • Unwaith y bydd yn dod i gysylltiad â nhw, mae’r Gribell Felen yn tynnu dŵr a maethynnau o’r planhigion cyfagos
  • Mae hyn yn gadael lle i flodau dyfu

Wedyn mae gwenyn mawr, yn enwedig cacwn, yn symud i mewn ac yn peillio blodau’r Gribell Felen ac mae’r codennau hadau mawr yn sychu ac yn aeddfedu. Mae hyn yn gadael yr hadau yn ysgwyd o gwmpas y tu mewn. Roedd ffermwyr yn arfer defnyddio sŵn yr hadau’n ysgwyd fel arwydd i dorri’r gwair – dyna o ble y daw’r enw rattle yn Saesneg.

Sut i Dyfu’r Gribell Felen?

Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn dechrau defnyddiol iawn wrth greu dôl blodau gwyllt, ond gall fod ychydig yn anodd ei sefydlu. Dyma rai cynghorion doeth i chi ddechrau arni:

1. Cael rhywfaint o hadau

  • Mae hadau’r Gribell Felen yn fyrhoedlog iawn felly rhaid eu hadu mor ffres â phosibl ac, yn ddelfrydol, byddant wedi cael eu cynaeafu yn ystod yr haf diweddaraf.
  • Fe allwch chi bicio draw i siop Plantlifei brynu rhai
  • Neu, yn well fyth, os ydych chi’n gwybod am rywle lleol gyda’r Gribell Felen, gofynnwch a gewch chi gasglu rhywfaint o hadau
  • Mae’r hadau’n cael eu casglu drwy bigo’r coesynnau (ar ddiwrnod sych) a’u hysgwyd mewn bag papur
  • Rhaid casglu’r hadau rhwng mis Mehefin a mis Awst – unwaith maen nhw’n aeddfed fe fyddan nhw’n dechrau cwympo i’r llawr felly dim ond ffenestr fer o gyfle sydd! Mae eu haeddfedrwydd yn dibynnu ar dywydd yr haf ac mae’n debygol o fod ar ei gynharaf yn rhannau cynhesaf y wlad fel y de ddwyrain.

 

2. Plannu’r hedyn

  • I ddechrau, rhaid paratoi’r ardal – torrwch y glaswellt mor fyr ag y gallwch chi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi a thynnu’r toriadau.
  • Mae’n bosibl y bydd haenen o laswellt marw, y dylid ei dynnu drwy gribinio drwy’r ardal gyda chribin pridd, i ddatgelu rhywfaint o bridd noeth drwy’r ardal i gyd – mae hyn yn hollbwysig fel bod yr hedyn yn gallu cyrraedd wyneb y pridd, heb gael ei dagu fel eginblanhigyn
  • Wedyn bydd posib hadu’r hadau gyda llaw drwy wasgaru
  • Mae angen gwneud hyn erbyn mis Tachwedd fan bellaf, oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C ar yr hadau i egino yn y gwanwyn

3. Ei gwylio yn tyfu

  • Bydd yr eginblanhigion yn dechrau ymddangos yn y gwanwyn, mor gynnar â diwedd mis Chwefror. Ond does dim angen poeni os mai dim ond ychydig o blanhigion sy’n egino yn y flwyddyn gyntaf oherwydd byddant yn bwrw hadau a dylai’r niferoedd gynyddu’n gyflym.
  • Dylid torri’r ddôl blodau gwyllt unwaith y bydd y Gribell Felen wedi bwrw ei hadau – rhwng mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd yr amseroedd torri yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’r tymhorau
  • Mewn gardd, mae torri’r glaswellt a symud y toriadau unwaith neu ddwy cyn mis Rhagfyr yn sicrhau bod lle i’r Gribell Felen egino a thyfu erbyn mis Chwefror.

FAQ

  • 1. Pryd ddylwn i hadu’r Gribell Felen?

    Diwedd yr haf (Awst – Medi) yw’r amser gorau i hadu’r Gribell Felen. Ni fydd yn tyfu’n llwyddiannus os caiff ei hadu yn y gwanwyn. Mae posib hadu’r hadau ddim hwyrach na mis Tachwedd oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C i egino yn y gwanwyn.

  • 2. Sut gallaf i gasglu fy hadau Cribell Felen fy hun?

    Mae hadau’r Gribell Felen yn hawdd eu casglu gyda llaw. Yn syml, daliwch fag papur o dan y cod hadau aeddfed a’i ysgwyd yn ysgafn gyda’ch bysedd. Mae’n hawdd casglu symiau mwy drwy ddefnyddio faciwm neu chwythwr dail.

    GWYLIO: Sarah Shuttleworth o Plantlife yn casglu hadau’r Gribell Felen gyda faciwm. 

  • 3. Pam mae’r Gribell Felen wedi diflannu o fy nôl i?

    Mae nifer o resymau pam y gall y Gribell Felen ddiflannu o ddôl, gan gynnwys:

    • Torri cyn i’r gribell hadu
    • Gadael y toriadau ar y ddôl
    • Pori yn gynnar yn y gwanwyn pan mae’r eginblanhigion allan ac yn agored i niwed
    • Y ddôl yn rhy ffrwythlon
    • Y glaswellt yn gryfach na’r Gribell Felen
  • 4. Faint o’r Gribell Felen ddylwn i ei hadu?

    Ar gyfer dolydd, rydyn ni’n argymell 0.5 i 2.5kg yr hectar / 10-20g fesul m2 os ydych chi’n casglu eich hadau eich hun.

  • 5. Pam nad ydi fy Nghribell Felen i wedi egino?

    Mae nifer o resymau posibl:

    • Roedd yr hadau’n fwy na blwydd oed (rydyn ni’n cynghori prynu gan gyflenwr ag enw da).
    • Dim digon o dir noeth wedi’i greu cyn hadu. Mae’n well creu o leiaf 50% o dir noeth.
    • Roedd y ddôl yn rhy ffrwythlon a’r glaswelltau’n gryfach na’r gribell.
    • Cafodd y gribell ei hadu ar yr amser anghywir o’r flwyddyn (hadu ar ddiwedd yr haf sydd orau). Os caiff ei hadu yn y gwanwyn dylai fod wedi cael ei storio’n llaith wedi’i chymysgu â thywod ar 4C am 6 i 12 wythnos.
    • Roedd y glaswellt yn rhy dal yn y gwanwyn cynnar, pan mae’r gribell yn egino. Gall torri’r ddôl ym mis Chwefror a thynnu’r toriadau helpu. Mae hyn yn rhoi gwell dechrau i eginblanhigion y gribell wrth gystadlu am olau gyda’r glaswelltau o’u cwmpas.

More meadow making tips

Yellow Rattle: The Meadow Maker
Yellow Rattle

Yellow Rattle: The Meadow Maker

Yn cael ei hadnabod fel crëwr dolydd byd natur, y Gribell Felen yw’r planhigyn unigol pwysicaf sydd arnoch ei angen wrth greu dôl blodau gwyllt.

Mae’r planhigyn mynydd hardd hwn, fu unwaith yn tyfu ar ymylon clogwyni Eryri wedi dychwelyd i’r gwyllt yng Nghymru ar ôl diflannu ym 1962.

Mae peilot ailgyflwyno Tormaen Gwyddelig Saxifraga rosacea, dan ein harweiniad ni, yn nodi moment arbennig ar gyfer adferiad natur. Mae gan y planhigion, sydd wedi’u cynnal wrth eu meithrin, linach uniongyrchol i sbesimenau 1962.

Mae bellach yn blodeuo mewn lleoliad sy’n agos at y man lle cafodd ei gofnodi ddiwethaf yn y gwyllt – ac mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu ei niferoedd nawr bod y peilot cyntaf wedi’i gynnal.

Pam y diflannodd?

Cofnodwyd y rhywogaeth gyntaf yng Nghymru yn 1796 gan J.W. Griffith (Clark, 1900) ac mae hyd at bum cofnod o’r 19eg ganrif. Yn yr 20fed ganrif, mae tair cofnod, pob un yn Eryri.

Ond, credir i’r Tormaen Gwyddelig lithro i ddifodiant yng Nghymru, yn bennaf o ganlyniad i selogion planhigion gasglu’r rhywogaeth yn ormodol, yn enwedig yn oes Fictoria. Ystyrir hefyd fod llygredd atmosfferig wedi chwarae rhan. Nid yw Tormaen Gwyddelig yn cystadlu’n dda gyda phlanhigion sy’n tyfu’n gryfach, felly cafodd ei effeithio gan gyfoethogiad maetholion ei hoff gynefin mynyddig.

Mae’r ailgyflwyno llwyddiannus wedi’i arwain gan ein botanegydd Robbie Blackhall-Miles, Swyddog Prosiect ar gyfer prosiect partneriaeth cadwraeth Tlysau Mynydd Eryri sy’n anelu at sicrhau dyfodol rhai o’n planhigion a’n creaduriaid di-asgwrn-cefn alpaidd prinnaf yng Nghymru.

Digwyddodd yr allblannu ar dir y gofelir amdano gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn y misoedd i ddod bydd botanegwyr yn cynnal arolygon i sefydlu’r mannau gorau i ailgyflwyno’r rhywogaeth yn llawn i’r gwyllt.

Darllenwch fwy am Dormaen Gwyddelig yma.

Ffotograffau gan: Llyr Hughes