Skip to main content

Mae’r amser hwnnw o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto! Mae’n ganol haf ac rydyn ni eisoes wedi gweld olyniaeth drawiadol o blanhigion gwyllt yn blodeuo yn ystod y misoedd diwethaf. Nawr ein bod ni wedi ffarwelio â blodau’r gwynt a’r ddraenen wen yn dechrau pylu, rydyn ni’n croesawu toreth y tegeirianau.

Mae ein gwarchodfeydd ni yng Nghymru yn gartref i amrywiaeth enfawr o flodau gwyllt, ond mae’r ddwy yn enwog yn genedlaethol am eu poblogaethau o degeirianau llydanwyrdd.

Mae tegeirianau llydanwyrdd yn blanhigion cain, hardd, gydag un pigyn blodeuog yn cynnwys llawer o flodau gwyrdd golau, hufennog. Mae pob blodyn yn debyg i wyfyn bach (neu löyn byw) yn hedfan, gyda’i adenydd yn ymestyn allan. Maen nhw’n bersawrus ac i’w gweld yn tyfu mewn ystod amrywiol o gynefinoedd, o rostiroedd a chorsydd i goetiroedd, ond yn fwyaf cyffredin maent i’w gweld mewn glaswelltiroedd a dolydd heb eu haflonyddu.

Y gwahaniaeth rhwng y y Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf a’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf

Butterfly orchid differences.

Mae dwy rywogaeth, y Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf Platanthera chlorantha a’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf Platanthera bifolia. Mae angen llygad arbenigwr i ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt, sy’n ddim mwy na’r ongl rhwng organau cario paill (pollinia) y planhigyn.

Mae’r ddwy rywogaeth yn cael eu peillio gan wyfynod. Yn ystod y nos, yr arwydd cyntaf y bydd gwyfyn yn sylwi arno yw persawr y tegeirian – unwaith y bydd yn nes bydd y blodau gwelw yn sefyll allan yn erbyn y tywyllwch.

Tegeirianau’r DU mewn helynt

Yn anffodus, mae’r ddwy rywogaeth yma’n prinhau’n ddramatig yn genedlaethol. Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf sy’n gwneud orau o’r ddwy rywogaeth, ond mae’n parhau i gael ei ddosbarthu fel Dan Fygythiad Agos yn y DU. Mae’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf wedi’i asesu’n Fregus ar Restr Goch Planhigion Fasgwlaidd y DU ac mae wedi diflannu o dros hanner ei amrediad blaenorol yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.

Mae’r dirywiad ar draws y ddwy rywogaeth oherwydd newidiadau mewn rheolaeth ar laswelltir amaethyddol – mae angen rheolaeth gyson ar y rhywogaethau hyn dros gyfnod hir i ffynnu. Gallai newid niweidiol mewn defnydd tir gynnwys gormod (neu rhy ychydig) o bori, draenio caeau, a hyd yn oed ychwanegu gwrtaith cemegol. Mae’r tegeirianau’n dibynnu ar ffwng pridd i oroesi, a gall cemegau amaethyddol ladd y rhwydwaith cynnal bywyd anweledig yma.

Diolch byth, gan fod eu cynefinoedd yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod yn ein gwarchodfeydd ni, mae’r rhywogaethau yma’n parhau i ffynnu.   I fod yn sicr o hyn, bob blwyddyn rydyn ni’n cymryd rhan yn y cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd i fonitro sut mae ein poblogaethau ni o’r planhigion hardd yma’n gwneud.

Canlyniadau Cyfrif y Tegeirianau Llydanwyrdd 2023

Pam rydyn ni’n cyfrif ein Tegeirianau Llydanwyrdd?

Mae monitro sut maen nhw’n gwneud yn rhan bwysig o ddeall ein gwarchodfeydd ni, a gwneud dewisiadau rheoli da. Mae ein dwy warchodfa natur ni yng Nghymru yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac mae’r ddwy yn rhestru’r Tegeirianau Llydanwyrdd fel nodwedd hysbysu – felly mae dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod y poblogaethau’n parhau mewn cyflwr da.

Volunteers counting orchids at Caeau Tan y Bwlch nature reserve

Rydyn ni eisiau gallu dangos bod y ffordd rydyn ni’n rheoli tir o fudd iddyn nhw, a gall cyfrif nifer y tegeirianau bob blwyddyn, a chasglu gwybodaeth ategol am y cynefinoedd, ein helpu ni i addasu ein rheolaeth ar y safleoedd pan fydd angen. Mae hyn yn ein galluogi ni i roi’r cyfle gorau posibl i’r tegeirianau wrth symud ymlaen.

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 
person holding a plant with white flowers

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 

The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.  

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.