Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
This autumn, help us find the Britain’s most colourful and important fungi – waxcaps.
Plantlife’s Big Give Christmas Challenge 28 Nov- 5 Dec, make a positive impact in protecting remarkable lichens.
Go the extra mile and run wild for Plantlife
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Dyddiad: Dydd Sul 16 July
Amser: 10:00 – 15:30
Lleoliad: Twyni Crymlyn SSSI, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, SA1 8EN what3words.com/drooling.blend.binder
Ymunwch â phrosiect Twyni Deinamig a Phrifysgol Abertawe i ddathlu lansiad cerflun newydd Porth y Twyni yn Nhwyni Crymlyn.
Am ddim
Ymunwch â phrosiect Twyni Deinamig a Phrifysgol Abertawe i ddathlu lansiad cerflun newydd Porth y Twyni yn Nhwyni Crymlyn. Bydd cyfle i archwilio gyda Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) a Buglife ar 16eg Gorffennaf am ddiwrnod o ddathlu wrth i ni dorri rhuban cerflun newydd yn y twyni. Wedi’i ddylunio gyda mewnbwn lleol, nod y cerflun yw dathlu’r amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt y mae posib eu darganfod ar y safle.
Drwy’r dydd: O 10:00 tan ddiwedd y digwyddiad ymunwch â ni ar gyfer:
10:30 – 12:00: Cyfle i ddarganfod y twyni gyda Warden y safle, Ben Sampson, a gwirfoddolwyr lleol. Ymunwch â’r tîm am daith gerdded bywyd gwyllt gyffredinol i ddarganfod SoDdGA Twyni Crymlyn – cyfle i ddysgu sut mae twyni tywod yn ffurfio, pa blanhigion a bywyd gwyllt sy’n eu galw’n gartref a pha waith sy’n cael ei wneud i warchod y twyni tywod.
12:00 – 13:00: Rydyn ni wedi gadael rhywfaint o amser i chi fwyta eich cinio, ymlacio yn yr haul neu wneud mwy o gofnodion bywyd gwyllt. Er bod siopau ar y safle, mae’r ddarpariaeth yn gyfyngedig yn ystod yr haf, felly dewch â’ch cinio gyda chi.
13:00 – 13:30: Ymunwch â ni i ddathlu wrth i ni dorri’r rhuban ar y cerflun newydd! Rhannwch eich lluniau eich hun gyda’r hashnod #HunlunCerflun a mwynhau lluniaeth am ddim.
13:30 – 15:00: Cyfle i ddarganfod pryfed peillio’r twyni a dysgu mwy am brosiect B-Lines gydag Ai-Lin Kee o Natur ar Garreg Eich Drws. Mae’r sesiwn yma’n cael ei gyflwyno fel rhan o Brosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot Buglife Cymru – prosiect 3 blynedd sy’n gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i adfer a chreu cynefin llawn blodau gwyllt o fewn rhwydwaith B-Lines, gan gefnogi pryfed peillio gan gynnwys rhywogaethau sy’n brin yn genedlaethol fel y Wenynen Hirgorn a’r Gardwenynen Feinlais.
Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar dennyn byr. Gwisgwch esgidiau cryf os gwelwch yn dda – gall y twyni fod yn agored iawn ac rydym yn eich cynghori i wisgo haenau. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk.
Ar gyfer yr holl weithgareddau cyfarfod ym mynedfa Sgwâr Margam Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn. Mae hon wedi’i lleoli ar Ffordd Crymlyn ar Gampws Bae Abertawe
Mae gwaith Plantlife drwy’r prosiect Twyni Deinamig yn cefnogi camau cadwraeth yng Nghymru a Lloegr i wella cyflwr twyni tywod.
Ymunwch â ni yn yr Ucheldre i ddarganfod twyni tywod trwy arddangosfa newydd.
Take part in Plantlife’s National Meadows Day on Saturday 1 July 2023. This year we celebrate the value of our local species-rich grasslands, including meadows.
Am Ddim – Mae Angen Archebu Lle
Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni, ymunwch â ni ac Imogens Yoga Moves ar y twyni am sesiwn ioga awyr agored.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.