Skip to main content

Arddangosfa: Twyni Tywod yn yr Ucheldre

Ymunwch â ni yn yr Ucheldre i ddarganfod twyni tywod trwy arddangosfa newydd.

Date
16 Sep – 15 Oct 2023
Time
10:00 – 17:00
Free
A sign on the dunes at night

Yn 2023 ymunodd Prosiect Twyni Ar Symud, yr Ucheldre a Elfennau Gwyllt CBC. Y nod? Helpu ymwelwyr a thrigolion Ynys Môn i ddarganfod twyni tywod Rhosneigr, trwy gelf. Gan gydweithio, mae rhaglen o ddiwrnodau gweithgaredd wedi cymryd lle trwy gydol y flwyddyn, ac mae dwy ffilm wedi eu cynhyrchu. Ymwelwch â’r arddangosfa i weld y gweithiau sydd wedi’u creu yn ogystal â phrosiectau celfyddydol eraill sydd wedi digwydd fel rhan o brosiect Twyni Ar Symud yng Ngogledd Cymru.

Oriau agor:

Dydd Llun – Dydd Sadwrn: 10:00 – 17:00

Dydd Sul: 14:00 – 17:00

 

Mae croeso i bawb a gallwch alw heibio’r arddangosfa unrhyw bryd yn ystod oriau agor, ond beth am baru eich ymweliad ag un o’r canlynol:

  • Sesiynau clwb celf plant wedi’u hysbrydoli gan y twyni tywod (archebwch drwy dudalen ‘dosbarthiadau;’ gwefan Ucheldre – ffi o £2)
  • Galwch draw ac ymunwch ag Elfennau Gwyllt rhwng 11:00 – 14:00 ar gyfer gweithgareddau a chrefftau i ddatgelu hud y twyni (am ddim)
  • Gwiriwch gwefan yr Ucheldre am weithgareddau eraill sy’n digwydd yn ystod yr amser y mae’r arddangosyn ar agor

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa ewch i https://ucheldre.org/ neu cysylltwch â’r Ucheldre

There are currently no upcoming events

Past events

Twyni Crymlyn Bioblitz a Lansiad Cerflun
A group of volunteers take part in a citizen science session on the dunes

Am Ddim – Mae Angen Archebu Lle

Twyni Crymlyn Bioblitz a Lansiad Cerflun

Online | free

Ymunwch â phrosiect Twyni Deinamig a Phrifysgol Abertawe i ddathlu lansiad cerflun newydd Porth y Twyni yn Nhwyni Crymlyn.

UK National Meadows Day
A hay meadow in Pembrokeshire with a blue sky

UK National Meadows Day

Online | free

Take part in Plantlife’s National Meadows Day on Saturday 1 July 2023. This year we celebrate the value of our local species-rich grasslands, including meadows.

Ioga Awyr Agored Rhosneigr – Diwrnod Twyni Tywod y Byd
Five people

Am Ddim – Mae Angen Archebu Lle

Ioga Awyr Agored Rhosneigr – Diwrnod Twyni Tywod y Byd

Online | free

Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni, ymunwch â ni ac Imogens Yoga Moves ar y twyni am sesiwn ioga awyr agored.