Skip to main content

Gall enwau planhigion botanegol ddweud pob math o bethau wrthych chi am blanhigyn. Yn aml, maent yn ddisgrifiadol fel Saxifraga oppositifolia – yn llythrennol, y torrwr creigiau dail cyferbyniol. Weithiau, maent yn sôn am y cynefin y mae’r planhigyn i’w weld ynddo neu ei ddefnydd arbennig fel Salvia pratensis – y gwellhad o’r dolydd.

Yn bersonol, mae’n well gen i’r enwau disgrifiadol; y rhai sy’n fy arwain i ble i ddod o hyd i’r planhigyn neu sut i’w adnabod. Gall enwau llafar ar blanhigion, a rhai mewn ieithoedd eraill, fod yr un mor ddisgrifiadol, a dweud am y pethau roedd pobl yn meddwl y dylid eu defnyddio ar eu cyfer, a pham eu bod yn ddigon arwyddocaol i warantu enw.

Mae ambell un yma yng Nghymru rydw i’n hoff iawn ohono. Cronnell (Globeflower) dim ond am y ffordd mae’n swnio, Merywen (Juniper) – oherwydd ei fod mor wahanol i unrhyw un o’r enwau Saesneg cyffredin a Derig (Mountain Avens).

Derig, yr enw Cymraeg ar gyfer Mountain Avens

Yn ein tŷ ni mae ‘Our Derig’ wedi dod yn enw hoffus ar gyfer planhigyn rydyn ni’n ymweld ag ef bob blwyddyn. Mae’r etymoleg – astudiaeth o darddiad geiriau – yn gysylltiedig â rhywbeth mwy na hyn serch hynny ac, yn yr achos yma, y dail yn hytrach na’r blodau sy’n arwyddocaol.

Mae’n syndod i mi bod pobl Cymru, yn ogystal â Carl Linnaeus a roddodd ei enw binomaidd iddo yn ei ‘Systema Naturae’ a gyhoeddwyd yn 1735, wedi sylwi ar debygrwydd ei ddail i dderw bychan. Yr enw ddewisodd Linnaeus ei roi i Mountain Avens oedd Dryas octopetala.

Yn ei lyfr ‘Flora Lapponica’ (1737) ysgrifennodd Linnaeus “I have called this plant Dryas after the dryads, the nymphs that live in oaks, since the leaf has a certain likeness to the oak leaf…. We found it, a gorgeous white flower with eight petals that quivered in the cool breeze”. Hanner duwiau oedd y Dryads, ac roedd eu bywydau ynghlwm wrth fywyd y dderwen yr oeddent yn byw ynddi. Ym mytholeg Groeg nid oedd posib torri coeden heb wneud heddwch â’r dryad oedd yn byw ynddi i ddechrau.

Mae’r enw Cymraeg ar y planhigyn yn ystyried yr un tebygrwydd i’r dderwen gyda’r enw’n dod o ‘dâr’ ac ‘ig’; Mae ‘Dâr’ yn golygu derw (ystyr Derwen yw Oaktree) ac mae ‘ig’ yn lleihad o’r Gymraeg ‘bachigol’ sy’n golygu llai.

Hanes rhyfeddol y Derig yng Nghymru

Cyhoeddwyd yr enw Cymraeg Derig am y tro cyntaf yn Flora Britannica gan J.E. Smith rhwng 1800 a 1804, ac fe’i cyhoeddwyd eto gan Hugh Davies yn ei Welsh Botanology (1813). Mae’r cyhoeddiad cynnar hwn o’r enw yma’n arwain at y syniad ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol cyn hynny a bod y bobl leol yn adnabod y planhigyn o Gymru.

Yn 1798 aeth y botanegydd y Parchedig John Evans ar daith o amgylch Gogledd Cymru ond ni lwyddodd i ddringo’r Wyddfa erioed. Er gwaethaf hyn ysgrifennodd Evans am lwybrau tywyswyr yr Wyddfa i fyny’r mynydd a’r planhigion oedd i’w gweld yno. Mae’n ddiddorol ei fod yn rhestru’r Derig ymhlith y planhigion hyn er nad oes tystiolaeth iddo gael ei ddarganfod ar y mynydd hwnnw erioed.

Roedd yn 1857 cyn i’r casglwr planhigion William Williams ddarganfod Derig ym mynyddoedd Eryri, yn uchel uwchben Cwm Idwal. Yn ddiweddarach, cyhuddwyd Williams o blannu’r rhywogaeth ar y safle hwn, oherwydd roedd amheuaeth ei fod yn plannu rhywogaethau prin er mwyn sefydlu ei enwogrwydd ymhellach fel tywysydd botanegol. Roedd yn 1946 cyn i ail safle i’r Derig gael ei ddarganfod gan Evan Roberts yn y Carneddau.

Derig yng Nghymru heddiw

Dim ond mewn dau safle yng Nghymru y mae Derig i’w ganfod o hyd ond mae ychydig o safleoedd eraill, gan gynnwys ar Yr Wyddfa, lle mae’r gymuned o blanhigion y mae’n rhannu ei ddau gartref hysbys â nhw yn bodoli.

Felly, beth sydd mewn enw? Yn yr achos yma, mae’n gipolwg rhyfeddol ar wybodaeth leol am blanhigion, yn enwedig ‘derwen fechan iawn’ nad oedd ei darganfyddwyr cyntaf yn fotanegwyr o fri ar y pryd. Yn yr achos hwn mae’n ymddangos yn debygol bod y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr ag ef yn ei adnabod yn dda, yn sicr yn ddigon da i’w adnabod a rhoi ei enw ei hun iddo.

Diolch i Lizzie Wilberforce, Dewi Jones ac Elinor Gwynn am helpu gyda’r ymchwil ar gyfer y blog yma.

Llun diolch i – Derig yn Welsh Botanology, Hugh Davies, 1813, tudalen 182 pt. 1-2 – Welsh botanology … – Biodiversity Heritage Library (biodiversitylibrary.org)

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 
person holding a plant with white flowers

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 

The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.  

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.