Skip to main content

‘Mae twyni tywod yn noddfa i lawer o rywogaethau unigryw a phrin, fel Tegeirian y Fign Galchog, Llyffant y Twyni a Madfall y Tywod, ond mae rheolaeth gonfensiynol ar dwyni dros sawl degawd wedi creu twyni sefydlog sydd wedi gordyfu â llystyfiant. Rydyn ni bellach yn sylweddoli bod hyn yn peryglu’r llefydd arbennig yma a’r bywyd gwyllt sydd yno. Wrth i’n dealltwriaeth ni o’r hyn sydd orau i’r twyni newid, mae rheolaeth y twyni tywod wedi datblygu. Mae angen i dwyni tywod iach fod yn rhydd i symud a bod yn ddeinamig ac mae prosiectau fel Twyni Deinamig yn ymgymryd â dulliau cadwraeth newydd i ddod â bywyd yn ôl i’r twyni drwy greu ardaloedd o dywod agored.  

A room full of people at the Dynamic Dunescapes conference

Dathlu gwaith, partneriaethau a digwyddiadau 

Ym mis Mawrth, i ddathlu’r gwaith, y partneriaethau a’r digwyddiadau ers i brosiect Twyni Deinamig ddechrau, daeth dros 200 o bobl at ei gilydd ar gyfer cynhadledd i ddathlu’r prosiect. Y nod? Archwilio dyfodol cadwraeth twyni tywod, adlewyrchu ar lwyddiannau a heriau, a phennu targedau ar gyfer y dyfodol er mwyn gwarchod safleoedd twyni tywod o bwysigrwydd rhyngwladol. Roedd yr awyrgylch yn un o obaith a rhannu profiadau. 

Dechreuodd y gynhadledd gyda chofrestru, wedi’i amgylchynu gan waith celf, arddangosfeydd a fideos, gan atgoffa am y gweithgareddau anhygoel mae’r timau ymgysylltu a chadwraeth wedi bod yn gweithio arnynt gyda chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Mae Twyni Deinamig wedi bod yn brosiect arloesol, gan alluogi gweithredu cadwraeth, a chefnogi ymwelwyr a grwpiau cymunedol lleol i archwilio a dysgu am y twyni ar y cyd. 

Mae uchafbwyntiau’r prosiect yn cynnwys y canlynol: 

  • 90,000 o bobl wedi ymuno â digwyddiadau cyhoeddus gan gynnwys sesiynau casglu sbwriel, dosbarthiadau celf, a theithiau cerdded bywyd gwyllt 
  • Adnewyddu 186 ha o dwyni tywod a 50 ha o wlybdir arfordirol
  • Cael gwared ar 116 ha o fflora ymledol fel Rhafnwydd y Môr Hippophae rhamnoides

Roedd y sesiynau’n archwilio amrywiaeth o bynciau gyda siaradwyr gwadd lleol a rhyngwladol a staff o bob rhan o’r prosiect. Roedd y sgyrsiau’n ymdrin â themâu gan gynnwys gweithgareddau gyda chymunedau, rheoli rhywogaethau ymledol, symud tywod, a phori cadwraethol ar dwyni tywod. Ar y diwrnod olaf, edrychodd y cynadleddwyr i’r dyfodol, gan ofyn i ni’n hunain – beth sydd nesaf? Ble rydyn ni’n mynd o fan hyn? Sut gallwn ni fod yn uchelgeisiol wrth helpu twyni tywod a’u bywyd gwyllt prin i ffynnu? 

‘Ble rydyn ni’n mynd nesaf?’ 

Gan ganolbwyntio ar y cwestiwn ‘Ble rydyn ni’n mynd nesaf?’, roedd sesiwn cloi’r gynhadledd yn arbennig o ddylanwadol. Manteisiodd siaradwyr o bob rhan o’r prosiect ar y cyfle i edrych ymlaen a thynnodd Prif Swyddog Gweithredol Plantlife, Ian Dunn, sylw at bwysigrwydd ‘newid dull o weithredu gyda chadwraeth mewn byd sy’n newid. Mae’r dyfodol yn mynd i fod yn hynod ddeinamig, felly mae angen i ni fod yr un fath hefyd’. Soniodd eraill am barhau i rannu profiadau ar raddfa gyfandirol drwy gyfarfodydd rhyngwladol pellach. 

Mae bod yn rhan o dîm Twyni Deinamig wedi rhoi’r pleser i mi o gefnogi cymaint o gyfleoedd newydd i bobl. O fynd allan ac archwilio twyni tywod, i ddarganfod rhywbeth newydd neu annisgwyl fel yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n galw’r twyni yn gartref. Yn y gynhadledd, fe wnaeth y rhaglen o fwy na 30 o sgyrsiau fy ysbrydoli a fy ngalluogi i ac eraill i rannu ein profiadau ein hunain o weithio yn y tirweddau eiconig yma. 

Hanna

Felly sut gallwn ni i gyd gefnogi cadwraeth y twyni tywod? 

Rydw i bob amser wedi bod yn gredwr mawr mewn cadwraeth, gan ddechrau gyda dysgu a ‘gweld beth sydd allan yna’. Os ydych chi eisiau darganfod mwy am unrhyw rai o’r pynciau sy’n cael eu crybwyll yma, gallwch ddod o hyd i grynodeb o’r gynhadledd ar sianel YouTube y prosiect. I ddysgu mwy am adfywio twyni tywod deinamig ewch i wefan y prosiect www.dynamicdunescapes.co.uk am gwrs dysgu byr ar dwyni tywod neu adnoddau gweithgarwch am ddim y gallwch eu gwneud gartref.’ 

Mae Twyni Deinamig yn brosiect ledled Cymru a Lloegr sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r rhaglen LIFE Ewropeaidd. Mae gwaith wedi’i gyflawni mewn partneriaeth gan Natural England, Plantlife, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaethau Natur ochr yn ochr â grwpiau lleol eraill a pherchnogion tir preifat. 

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru
Cattle on grassland

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru

Mae’n dymor y capiau cwyr yn Ystwyth Uchaf ac mae Sheena Duller o Plantlife yn esbonio pam y gall ffyngau a ffermio weithio’n dda gyda’i gilydd.

Cyflwr Planhigion a Ffyngau yng Nghymru 2023
A bright pink orchid flower growing in a meadow

Cyflwr Planhigion a Ffyngau yng Nghymru 2023

Dyma olwg fanylach ar rai o’r penawdau o’r adroddiad, beth maen nhw’n ei olygu i’n rhywogaethau a’n cynefinoedd ni yng Nghymru.

Cerflun wedi’i ysbrydoli yn lleol wedi’i ddadorchuddio yn SoDdGA Twyni Crymlyn

Cerflun wedi'i ysbrydoli yn lleol wedi'i ddadorchuddio yn SoDdGA Twyni Crymlyn

O'r syniad i'r gosod – yng ngeiriau Hannah Lee, y Swyddog Ymgysylltu â Phobl ar gyfer y Prosiect Twyni Deinamig.