Skip to main content

Mae penawdau’r adroddiad yn frawychus – yn galw am weithredu pendant ac ar frys i warchod ein rhywogaethau.

Dyma olwg fanylach ar rai o’r penawdau o’r adroddiad, beth maen nhw’n ei olygu i’n rhywogaethau a’n cynefinoedd ni yng Nghymru, a’r hyn rydyn ni yn Plantlife yn ei wneud i wneud gwahaniaeth:

 

1. O’r 3908 o rywogaethau [pob tacsa] sydd wedi’u hasesu – mae 18% dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru

Mae hyn yn golygu bod bron i 1 o bob 5 rhywogaeth mewn perygl o gael eu colli am byth.

When we lose species to extinction, it undermines our ecosystem’s ability to adapt and respond to environmental pressures. For this reason, recovering species is one of our strategic missions at Plantlife.

Rydym yn cyflawni’r genhadaeth hon mewn partneriaethau drwy brosiectau adfer rhywogaethau a ariennir, fel Natur Am Byth, a thrwy ymyriadau wedi’u targedu sy’n cefnogi rhywogaethau â blaenoriaeth sy’n prinhau, fel ein gwaith ni ar Degeirian y Fign Galchog, Llysiau’r Ysgyfaint, Meryw a Thegeirian-y-gors Melyn.

2. Mae rhywogaethau o blanhigion sy’n gysylltiedig â chynefinoedd ucheldirol fel corsydd a rhostiroedd wedi prinhau

Wrth i’r tymheredd godi, mae gan blanhigion sydd wedi addasu i fyw yn yr ucheldiroedd oerach ddau opsiwn: gallant naill ai symud ymhellach i’r gogledd neu symud yn uwch i fyny i’r mynyddoedd. Fodd bynnag, ar gyfer rhywogaethau sydd â phoblogaethau darniog, mae ehangu tua’r gogledd yn amhosibl, ac felly eu hunig ddewis yw symud i dir uwch lle mae’r tymheredd yn oerach.

Heb ymyrraeth, ni fydd gan y rhywogaethau hyn unrhyw le arall i fynd yn y pen draw, a gallent gael eu colli o Gymru yn gyfan gwbl.

Dyma un o’r rhesymau pam fod y gymuned o blanhigion arctig-alpaidd wedi’i dewis fel blaenoriaeth ar gyfer prosiect Natur Am Byth. Mae prosiect Tlysau Mynydd Eryri yn cyflwyno cynllun gweithredu i ymyrryd yn uniongyrchol ac achub y planhigion alpaidd bregus yma.

small flowers growing in between rocks

Y pwysau arall sy’n bygwth cymunedau planhigion yr ucheldir yw ehangu planhigfeydd conwydd, patrymau pori amhriodol a lefelau gormodol o lygredd aer.

Rydym yn gweithio i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn yn gyfannol, drwy ymyrraeth uniongyrchol, dylanwadu ar arferion rheoli tir a gwaith eiriolaeth ehangach i sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth yn helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn.

3. Mae fflora Cymru yn newid – bu gostyngiad yn ystod dosbarthiad 42% o rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd

Er mwyn cryfhau a chynnal ein rhywogaethau o blanhigion, rydym yn targedu ein gwaith lle mae ei angen fwyaf.

Mae’r rhan fwyaf o’n glaswelltiroedd llawn rhywogaethau wedi cael eu dinistrio ers y 1940au, ac maent bellach ymhlith cynefinoedd prinnaf Prydain Fawr. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod gan laswelltiroedd y potensial i gynnwys y nifer mwyaf o rywogaethau fesul metr sgwâr o unrhyw gynefin, a storio llawer iawn o garbon yn ddiogel yn eu priddoedd.

Wildflowers growing in a meadow with cattle behind

Nod ein prosiect Glaswelltiroedd Gwydn newydd yw gwella iechyd ein glaswelltiroedd ni mewn safleoedd gwarchodedig ledled Cymru, gan gefnogi rhywogaethau i adfer a ffynnu.

Rydym hefyd yn galw ar lywodraethau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i weithredu’n strategol gyda glaswelltiroedd a’u hymgorffori’n ystyrlon mewn polisi hinsawdd a natur, er mwyn cyrraedd targedau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’n amser gweithredu

Er y gall llawer o’r penawdau ymddangos yn druenus, mae’r adroddiad Cyflwr Byd Natur yn gweithredu fel cais i weithredu.

Yn hytrach na cholli cymhelliant, dylai’r cyfeiriad y mae’r adroddiad hwn yn ei roi fod yn gatalydd i greu newid cadarnhaol lle mae ei angen fwyaf.

Gyda’r wybodaeth hon, byddwn yn parhau i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi ein rhywogaethau a’u helpu i adfer lle bynnag y gallwn ni.

Our Work

Natur Am Byth! Pen Llŷn ac Ynys Môn
A close up of a lichen growing on the ground

Natur Am Byth! Pen Llŷn ac Ynys Môn

Cyfle i ddarganfod sut mae prosiect adferiad gwyrdd blaenllaw Cymru, Natur am Byth!, yn helpu i ddatgelu ecoleg ddirgel cen sy'n diflannu.

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru
Cattle on grassland

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru

Mae’n dymor y capiau cwyr yn Ystwyth Uchaf ac mae Sheena Duller o Plantlife yn esbonio pam y gall ffyngau a ffermio weithio’n dda gyda’i gilydd.

Y Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn
An orange waxcap mushroom growing in short grass

Y Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn

Mae Glaswelltiroedd Gwydn yn brosiect partneriaeth 3 blynedd i greu newid cadarnhaol ar laswelltiroedd pwysig fel dolydd a phorfa rhos ledled Cymru.