Skip to main content

Rydw i wedi ymuno â thîm Plantlife yn ddiweddar, gyda’r prosiect Glaswelltiroedd Gwydn, ar adeg pan mae ffyngau’r glaswelltir yn eu hanterth.

Mae Chris a minnau wedi ffermio ein darn bach ni o fynyddoedd y Cambrian sy’n wynebu tua’r gorllewin am y 22 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi gweld amrywiaeth y planhigion yn gwella’n araf bach, ac mae hyn wedi ymestyn i gynnwys y ffyngau rhyfeddol sydd yn ein glaswelltir ni.

Mae ein tir ni’n frithwaith o graig, cors, glaswelltir gwlyb a sych, gydag ychydig o dir pori wedi’i wella fel ein bod ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n cynhyrchu ein gwartheg Duon Cymreig ar laswellt yn unig (heb unrhyw borthiant wedi’i brynu i mewn) – gan leihau ein heffaith amgylcheddol. Mae cynnal glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau yn sicrhau buddiannau i gyflwr y pridd a gwydnwch amgylcheddol cyffredinol uwchben ac o dan ddaear, sy’n ehangu i’r amgylchedd ehangach – gan annog pryfed ac adar a diogelu ansawdd dŵr hyd yn oed.

Cattle on grassland

Beth yw capiau cwyr?

Mae ffyngau’n ddi-ddal o ran eu hymddangosiad ac efallai na fyddant yn cynhyrchu cyrff ffrwytho bob blwyddyn, nac yn yr un lle, ond yn gyffredinol yn yr hydref, y ffyngau sy’n arbennig o drawiadol yw’r teulu o gapiau cwyr. Dyma deulu lliwgar a godidog o tua 60 o ffyngau’r glaswelltir.

Ar ein fferm ni, rydyn ni eisoes wedi cyfri 21 o rywogaethau o gapiau cwyr, ond eleni rhagorwyd ar hynny gydag ymddangosiad cyntaf rhywogaeth rhif 22, y Cap Cwyr Troed Felen Cuphophyllus flavipes. Mae ganddo gap llwyd cromennog a thagellau golau sy’n rhedeg i lawr y coesyn, sy’n wyn gyda lliw melyn amlwg tua’r bôn.

Blackening Waxcaps, Hygrocybe conica

Y ffyngau ddarganfyddais i

Roedd yr haf yma’n anarferol, gyda misoedd Awst a Medi yn wlyb drwyddynt draw bron, gyda nifer fawr o Gapiau Cwyr Duol, Hygrocybe conica, yn gynnar yn y tymor (mae ail gnwd nawr). Dilynwyd hyn yn gyflym gan Gapiau Cwyr Lemon unigol, H.citrinovirens, a ymddangosodd mewn rhai llecynnau annhebygol (gan gynnwys ymyl cae ‘wedi’i wella’).

Un cap cwyr sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ac sydd wedi cael croeso mawr yw’r Cap Cwyr Ysblennydd, Hygrocybe splendidissima, gyda’i enw priodol iawn ac yn eithaf mawr. Mae’r cap mawr, coch llachar, yn ehangu’n gyflym, yn lledu wrth iddo aeddfedu ac yn debyg

i rai coch eraill ond yn gyffredinol yn fwy. Mae pob math o gapiau cwyr coch yn ddangosyddion o gynefin capiau cwyr o ansawdd arbennig o dda.

A rhaid cofio hefyd am y rhai bach oren sy’n eithriadol anodd eu hadnabod! Rydyn ni’n disgwyl i fwy o rywogaethau ymddangos wrth i’r hydref fynd rhagddo.

Beth all ffyngau ei ddweud wrthym?

Mae ffyngau’n arbennig o sensitif i niwed i’r pridd oherwydd eu cylch bywyd tanddaearol yn bennaf, felly mewn glaswelltir heb fawr ddim tarfu a heb fewnbynnau artiffisial maen nhw’n ffynnu. Gall hwn fod yn laswelltir gydag amrywiaeth dda o rywogaethau o flodau gwyllt a glaswelltau, ond mae’n bwysig nodi bod llawer o laswelltiroedd capiau cwyr eithriadol yn eithaf di-nod yn fotanegol.

Yr hyn sy’n cysylltu glaswelltiroedd capiau cwyr â rhai llawn blodau yw eu bod wedi dirywio’n aruthrol ledled y DU drwy newidiadau mewn arferion amaethyddol a datblygiadau trefol. Mae’r glaswelltiroedd hyn yn amlswyddogaethol a gallent fod â lle pwysig o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy ddal a storio carbon, gwydnwch yn erbyn sychder a llifogydd, gwella ansawdd dŵr a lles yr amgylchedd a phobl.

Splendid Waxcap, Hygrocybe splendidissima

Sut mae adnabod ffyngau?

Un o’r heriau gydag adnabod ffyngau yw eu bod yn gallu newid siâp a lliw wrth iddynt ehangu.

Ond, os ydych chi wedi gweld rhai capiau cwyr, dyma rai pethau defnyddiol i gadw llygad amdanyn nhw:

• Siâp a lliw y cap

• Lliw y tagellau a’r ffordd maent yn glynu wrth y coesyn

• Nodweddion y coesyn

• Gwead (llysnafeddog, sych neu ffibraidd)

• Ac i rai, yr arogl!

Mae Prydain yn gartref i rai o laswelltiroedd capiau cwyr pwysicaf y byd – ond mae llawer o rywogaethau’n mynd yn brin ac yn dirywio. Rydyn ni angen eich help chi i’w hadnabod nhw a’u gwarchod drwy’r #WaxcapWatch.

Ydi ffyngau’n newid ffermio?

Mae cael o leiaf rhywfaint o laswelltir llawn rhywogaethau ar fferm yn bwysig i helpu i adfer cydbwysedd o fewn y system. Yn syml, mae’n darparu lloches i bryfed buddiol a ffynhonnell o fwyd i adar, sydd wedyn yn ysglyfaethu ar blâu, yn cryfhau’r ecosystem. Hefyd, yn union

fel ni, bydd da byw sy’n pori yn gwerthfawrogi deiet amrywiol ac fel gyda ni, mae’n helpu i wella iechyd y perfedd. Nid yw’r ffyngau’n peri unrhyw risg i dda byw ac maent yn tueddu i beidio â’u bwyta.

Nid oes angen i effaith ariannol cynnal rhywfaint o laswelltir sy’n amrywio o ran rhywogaethau ac sy’n gyfeillgar i ffyngau ar fferm fod yn broblem. Nid yw llethrau serthach ac ardaloedd tlotach o dir fferm yn economaidd i’w cynnal fel glaswelltiroedd hynod gynhyrchiol, felly mae posib sicrhau cynnydd net drwy ddychwelyd yr ardaloedd hyn i fod yn laswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau, sy’n darparu mannau pori gwydn ar adegau anodd o’r flwyddyn.

Os ydych chi eisiau gwella’r cymunedau ffyngaidd ar eich fferm, dyma rai camau syml i’w rhoi ar waith:

• Mae glaswelltir wedi’i bori neu ei dorri’n fyr yn annog y ffyngau i ffrwytho

• Dim tarfu ar bridd, yn enwedig aredig, gan ei fod yn torri’r rhwydwaith tanddaearol

• Dim gwrteithiau artiffisial, mae gormod o faethynnau yn y pridd yn atal swyddogaeth y ffyngau

• Dim chwistrellau, gan fod chwynladdwyr (hyd yn oed y rhai wedi’u targedu) yn niweidio’r ffyngau yn ogystal â’r chwyn

• Gall defnyddio calch yn gymedrol fod yn rhan o reolaeth; mae rhai rhywogaethau’n ffynnu mewn priddoedd calchaidd, ond mae newidiadau dramatig mewn pH yn debygol o fod yn niweidiol

Lluniau: Buchod mewn cae Tynnwyd y ffotograff gan: Lydia Nicholls

Ac os hoffech chi ddysgu ychydig mwy…

Sut i ddarganfod ac adnabod ffyngau capiau cwyr

Sut i ddarganfod ac adnabod ffyngau capiau cwyr

Bob hydref mae un o arddangosfeydd naturiol mwyaf lliwgar y DU yn digwydd: mae capiau cwyr lliwiau gemau yn ymddangos drwy’r glaswellt ar draws ein cefn gwlad, ein dinasoedd a hyd yn oed rhai o’n gerddi ni. Beth am i ni ddod o hyd iddyn nhw!

Fideo: Sut i ddefnyddio’r ap Waxcap Watch

Fideo: Sut i ddefnyddio'r ap Waxcap Watch

Gwyliwch Sarah Shuttleworth yn cofnodi ei chap cwyr cyntaf ar yr ap Waxcap Watch.

Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn
A red fungi growing in grass

Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn

Mae glaswelltiroedd Cymru yn wynebu bygythiadau cynyddol – o ddatblygiad, llygredd ac arferion niweidiol – ac mae Plantlife yn gweithio i greu newid cadarnhaol.