Skip to main content

Beth ydym ni’n mynd i fod yn ei wneud?

Y glaswelltiroedd y byddwn yn gweithio arnynt yw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAoedd), ac Ardaloedd Planhigion Pwysig, neu Ardaloedd Ffwng Pwysig, lle mae eu cyflwr yn wael neu’n anhysbys ar hyn o bryd.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ar dir sy’n agos at y safleoedd pwysig hyn, i helpu i warchod y cynefinoedd arbennig drwy greu amgylcheddau mwy cyfeillgar i fywyd gwyllt o’u cwmpas.

Byddwn yn gwneud y gwaith hwn mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a PONT.

 

Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?

Volunteers counting orchids at Cae Blaen Dyffryn nature reserve

Dim ond tua 9% o dir Cymru y mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn ei orchuddio bellach. Mewn cyferbyniad, mae glaswelltiroedd amaethyddol sy’n brin o rywogaethau yn gorchuddio mwy nag 1 miliwn hectar, sef dros hanner ein harwynebedd tir. Mae hon yn ffenomen gymharol ddiweddar; bu gostyngiad o dros 90% yn ein glaswelltiroedd lled-naturiol yn ystod yr 20fed ganrif.

Gallwn weld nad yw hyd yn oed ein SoDdGAoedd, sef ein glaswelltiroedd pwysicaf sy’n cael eu gwarchod ac yn llawn bywyd gwyllt – wedi gwneud yn dda. Pan gawsant eu hasesu gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2020, roedd traean o’r nodweddion gwarchodedig mewn cyflwr anffafriol. Roedd cyflwr hanner y rhain yn anhysbys.

Yn y cyfamser mae mwy na 40% o’n blodau gwyllt sydd dan fygythiad yng Nghymru i’w cael mewn cynefinoedd dolydd a phorfeydd.

Mae’r angen am i ni weithredu yn amlwg, a thrwy brosiect Glaswelltiroedd Gwydn rydym yn gobeithio adfer cyflwr rhai o’n mannau pwysicaf ar gyfer cynefinoedd glaswelltir yng Nghymru.

 

Beth fyddwn ni’n gweithio arno?

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gynefinoedd glaswelltir pwysig. Fodd bynnag, mae llawer o wahanol fathau o laswelltir yng Nghymru. Rydym yn disgwyl gweithio ar ystod o’r rhain a dyma rai enghreifftiau yn unig:

The view across Cae Blaen-dyffryn nature reserve, filled with trees, grassland and hill with fields.

Mae cynefinoedd dolydd dan fygythiad mawr yng Nghymru, gyda dirywiad hirdymor mewn cynaeafu gwair, ac ailhadu caeau cnydau gyda rhygwellt. Byddwn yn cefnogi rheolaeth gadarnhaol ar y dolydd sy’n weddill, ac yn hyrwyddo gwerth dolydd llawn rhywogaethau ar gyfer ffermio a phori gan dda byw yn ogystal â chadwraeth.

Mae porfa rhos yn nodwedd arbennig o gefn gwlad Cymru. Mae’r glaswelltir llaith hwn yn cael ei reoli yn aml gan frwyn a phlanhigion tal Glaswellt y Gweunydd, ac mae’n gartref i nifer fawr o rywogaethau eraill hefyd. Mae’r cynefin wedi dod dan fygythiad yng Nghymru oherwydd datblygiad, dwysâd amaethyddol, ac mewn rhai mannau trawsnewid i brysgwydd wrth i ffermydd gefnu ar dir o’r math hwn.

A Parrot Waxcap.

Gall glaswelltir hynafol gwmpasu amrywiaeth o gynefinoedd. Y nodwedd maent yn ei rhannu yw hanes hir o reoli glaswelltir heb aredig, nac effeithiau amaethyddol mawr eraill. Os ydynt wedi cael eu pori’n drwm, efallai na fyddant mor amrywiol yn fotanegol.

Fodd bynnag, os ydynt wedi cael eu cadw’n fyr drwy dorri neu bori, gall eu priddoedd heb eu tarfu fod yn hynod o bwysig i ffyngau. Er mai dim ond 10% o arwynebedd Prydain Fawr yw’r rhain, mae Cymru yn gartref i 55% o ffyngau glaswelltir Prydain. Rydym yn gobeithio hybu ymwybyddiaeth a gwell gwarchodaeth i’r cymunedau ffyngaidd hyn a’r glaswelltiroedd hynafol lle maent i’w cael.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Wrth i’r prosiect ddatblygu, rydym yn gobeithio cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli. Byddwn yn chwilio am bobl a all wneud y canlynol:

  • Helpu gydag arolygon glaswelltir, a monitro.
  • Cymryd rhan mewn dyddiau rheoli tir, gyda gweithgareddau fel rheoli prysgwydd.
  • Ein helpu ni i ysgrifennu blogiau, tynnu lluniau, a rhannu gwybodaeth am ein gwaith a’n hoffter o’r cynefinoedd hyn.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant. Byddwn yn cynnig hyfforddiant ar bynciau gan gynnwys monitro ecolegol, technegau arolygu, pwysigrwydd glaswelltir llawn rhywogaethau a mwy.
  • Ymuno â’r tîm! Yn ein hail a’n trydedd flwyddyn byddwn hefyd yn cynnig 4 interniaeth ‘newydd i gadwraeth’ gyda thâl.
  • Cymryd rhan yn y Waxcap Watch yn unrhyw le yng Nghymru gan ddefnyddio ein ap.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda Glaswelltiroedd Gwydn. Cysylltwch â cymru@plantlife.org.uk am ragor o fanylion, neu dilynwch y cyfarwyddiadau uchod i gymryd rhan yn ein harolygon capiau cwyr.

Cymryd rhan yn y Waxcap Watch

Pink waxcap fungi growing in short green lawn

Mae Plantlife wedi creu’r ap Waxcap i’w gwneud hi’n hawdd i bobl gymryd rhan mewn cofnodi capiau cwyr. Does dim angen i chi allu adnabod rhywogaethau – dim ond eu lliwiau.

Bydd yr wybodaeth mae hyn yn ei darparu yn helpu’r prosiect i asesu gwerth glaswelltiroedd ledled Cymru ar gyfer y ffyngau pwysig hyn. Ar safleoedd y prosiect Glaswelltiroedd Gwydn, bydd hyn hefyd yn ein helpu ni i reoli’r glaswelltir yn briodol. Ond mae data o unrhyw le yng Nghymru yn werthfawr, i’n helpu ni i ddod o hyd i lefydd newydd, pwysig ar gyfer y rhywogaethau hyn sy’n cael eu hanwybyddu, a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.

Cymryd rhan

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

        

Our Work in Wales

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru
Cattle on grassland

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru

Mae’n dymor y capiau cwyr yn Ystwyth Uchaf ac mae Sheena Duller o Plantlife yn esbonio pam y gall ffyngau a ffermio weithio’n dda gyda’i gilydd.

Cyflwr Planhigion a Ffyngau yng Nghymru 2023
A bright pink orchid flower growing in a meadow

Cyflwr Planhigion a Ffyngau yng Nghymru 2023

Dyma olwg fanylach ar rai o’r penawdau o’r adroddiad, beth maen nhw’n ei olygu i’n rhywogaethau a’n cynefinoedd ni yng Nghymru.

Cerflun wedi’i ysbrydoli yn lleol wedi’i ddadorchuddio yn SoDdGA Twyni Crymlyn

Cerflun wedi'i ysbrydoli yn lleol wedi'i ddadorchuddio yn SoDdGA Twyni Crymlyn

O'r syniad i'r gosod – yng ngeiriau Hannah Lee, y Swyddog Ymgysylltu â Phobl ar gyfer y Prosiect Twyni Deinamig.