Skip to main content

Wedi’i ddisgrifio fel ‘bychan ond hyfryd’ gan Gymdeithas Cennau Prydain, mae Cladonia peziziformis, sy’n cael ei adnabod oddi wrth ei enw cyffredin, y Cen Tân, yn gen bychan iawn sy’n byw ar y ddaear ac sydd i’w ganfod mewn dim ond llond llaw o gynefinoedd rhostir yn Ne a Gorllewin Prydain. Yn gen cynyddol brin, mae’n cael ei ddosbarthu fel Mewn Perygl Difrifol ym Mhrydain ac yn Agos at Fygythiad yng Nghymru.

Yn llai nag 1cm o uchder, gyda chennau llwydwyrdd siâp clust yn ei bôn a choesyn hollt unionsyth gyda chyrff ffrwytho brown ar ei phen, mae lens llaw yn hanfodol i gael golwg iawn ar y rhywogaeth fechan, arallfydol yma. Ond mae dirgelwch mawr y Cladonia peziziformis yn ei chylch bywyd.

Beth ydyn ni’n ei wybod am y ‘Cen Tân’?

A close up of a lichen growing on the ground

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion am y cen yma’n dod o rostiroedd o fewn pellter byr i’r arfordir, ac er bod y cofnodion hyn yn wasgaredig iawn, yn amrywio o ben draw Ynys Môn i Benrhyn Gŵyr, mae gan y lleoliadau lle mae wedi’i ganfod ffactor gyffredin anarferol.

Mae’n debyg iawn mai dim ond ar ôl tân rhos mae Cladonia peziziformis yn ymddangos, gan sefydlu am gyfnod byr ar y pridd noeth, ac wedyn diflannu unwaith y bydd y rhostir yn dechrau adfer. Felly, beth sy’n digwydd? Oes angen llosgi i greu amodau addas ar gyfer y rhywogaeth yma?

Un ddamcaniaeth ydi bod maethynnau sy’n cael eu rhyddhau gan ludw planhigion yn ystod llosgi’n chwarae rhan yn ecoleg y cen. Mae mwg sy’n deillio o blanhigion hefyd yn cynnwys cyfansoddion cemegol niferus fedr weithredu fel sbardun i egino, gan annog ei dyfiant o gronfa o sborau yn y pridd, er nad oes unrhyw astudiaeth wedi’i chynnal i ymchwilio i hyn.

Ar ôl sefydlu i ddechrau, y gred ydi bod Cladonia peziziformis wedyn yn dechrau diflannu wrth i lystyfiant y rhos adfer a chael y gorau ar y rhywogaeth.

Fodd bynnag, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, darganfuwyd poblogaethau sydd wedi profi mwy o hirhoedledd o Cladonia peziziformis yn ne Lloegr, i’w gweld ar laswelltiroedd a rhostiroedd byr, llai asidig sy’n cael eu pori’n drwm, lle nad yw llosgi lleol bob amser yn digwydd.

Mae’r ffaith bod y ‘cen tân’ yma i’w weld mewn cynefinoedd sydd heb danau yn awgrymu efallai mai ei angen am lystyfiant agored byr a phridd noeth yw’r ffactor allweddol ar gyfer ei lwyddiant.

Natur am Byth! yn ateb cwestiwn llosg …

Two people kneeling in a heathland pointing at a small plant

Felly, oes angen llosgi rhostir a’r rhyddhau ar faethynnau a chemegau sy’n gysylltiedig â hynny i gynorthwyo Cladonia peziziformis i sefydlu, neu ai creu tir noeth a llystyfiant byr o danau sydd o fudd i’r rhywogaeth?

Dyma beth mae prosiect Natur am Byth! yn ceisio ei ddarganfod. Mae arbrofion maes wedi’u cynllunio i gymharu’n uniongyrchol effaith llosgi dan reolaeth yn erbyn torri rhostir (i efelychu pori trwm) ar C. peziziformis yn sefydlu.

Gan weithio ochr yn ochr â phrifysgolion, byddwn hefyd yn cefnogi arbrofion labordy i ymchwilio ymhellach i effeithiau tân, dadansoddi cynnwys maethynnau lludw, mwg a phridd, a rhoi dŵr mwg a lludw ar samplau pridd sy’n cynnwys sborau cen i brofi am sbardunau egino.

Yn ogystal â darparu cyfleoedd hyfforddi i fyfyrwyr ymgysylltu â gwyddoniaeth a chadwraeth, bydd yr ymchwil yma’n cynorthwyo ein dealltwriaeth o ddeinameg tanau rhostir, gan helpu fel sail i reolaeth yn y dyfodol i gefnogi Cladonia peziziformis a rheoli rhostir yn ehangach yng Nghymru.

Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect Adferiad Gwyrdd blaenllaw Cymru. Mae’n uno naw elusen amgylcheddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â byd natur. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dyfarnwyd mwy na £4.1m o’r Gronfa Dreftadaeth i’r bartneriaeth ym mis Mehefin 2023. Mae CNC wedi cyfrannu £1.7m ac mae partneriaid Natur am Byth wedi sicrhau £1.4m pellach gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a chyfranwyr corfforaethol. Mae’r rhain yn cynnwys rhoddion gan Sefydliad Esmée Fairbairn, a chefnogaeth sylweddol gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Ein Gwaith

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru
Cattle on grassland

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru

Mae’n dymor y capiau cwyr yn Ystwyth Uchaf ac mae Sheena Duller o Plantlife yn esbonio pam y gall ffyngau a ffermio weithio’n dda gyda’i gilydd.

Cyflwr Planhigion a Ffyngau yng Nghymru 2023
A bright pink orchid flower growing in a meadow

Cyflwr Planhigion a Ffyngau yng Nghymru 2023

Dyma olwg fanylach ar rai o’r penawdau o’r adroddiad, beth maen nhw’n ei olygu i’n rhywogaethau a’n cynefinoedd ni yng Nghymru.

Cerflun wedi’i ysbrydoli yn lleol wedi’i ddadorchuddio yn SoDdGA Twyni Crymlyn

Cerflun wedi'i ysbrydoli yn lleol wedi'i ddadorchuddio yn SoDdGA Twyni Crymlyn

O'r syniad i'r gosod – yng ngeiriau Hannah Lee, y Swyddog Ymgysylltu â Phobl ar gyfer y Prosiect Twyni Deinamig.