Skip to main content

Beth yw Rhywogaeth Estron Ymledol?

Mae Rhywogaethau Estron yn rhywogaethau sydd, oherwydd gweithgarwch dyn, wedi cael eu cyflwyno mewn llefydd y tu hwnt i’w hamrediad brodorol. Mae rhwystrau ffisegol fel cadwyni o fynyddoedd, cefnforoedd, afonydd ac anialwch yn golygu bod llawer o ecosystemau wedi esblygu ar wahân, gan greu grwpiau penodol o rywogaethau sy’n nodweddiadol i rai llefydd.

Fodd bynnag, mae gweithgarwch dyn, fel masnachu rhyngwladol a thwristiaeth, bellach yn golygu bod rhywogaethau’n cael eu symud ar draws y rhwystrau daearyddol hyn (naill ai’n fwriadol neu fel arall). Mae hyn yn symud rhywogaethau o’r mannau lle maen nhw wedi esblygu i lefydd lle nad ydyn nhw wedi bod erioed o’r blaen.

Oherwydd bod rhywogaethau estron wedi esblygu mewn mannau eraill, nid yw’r amgylcheddau newydd maen nhw’n mynd iddynt wedi datblygu ffyrdd o reoli eu hymddygiad eto.

Ni fydd rhai rhywogaethau estron yn gallu goroesi yn ein hinsawdd ni. Bydd eraill yn integreiddio â’n cynefinoedd heb eu niweidio (gelwir y rhain yn rhywogaethau ‘naturioli’). Ond mae rhai rhywogaethau’n gallu ffynnu a rheoli. Yr enw ar y rhywogaethau hyn yw Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) ac maen nhw’n achosi problem ddifrifol nid yn unig i’n hecosystemau ni, ond i’n cymunedau a’n heconomïau.

Pam mae INNS mor beryglus?

Rydyn ni mewn argyfwng natur. Mae un o bob pump o rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd y DU yn wynebu bygythiad o ddifodiant bellach, ac mae cyflwyno INNS yn cael ei gydnabod fel yr ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth ar ôl colli cynefinoedd. Ond sut mae’r rhywogaethau hyn yn gallu achosi cymaint o ddifrod?

  • Nid oes unrhyw fecanweithiau rheoli naturiol, sy’n golygu y gall poblogaethau INNS dyfu heb gyfyngiad. Mae llawer o’n llysysyddion brodorol ni’n dewis peidio â mentro bwyta rhywogaethau o blanhigion anghyfarwydd. Yn yr un modd, nid yw ein plâu, ein pathogenau a’n parasitiaid brodorol ni wedi esblygu i adnabod y newydd-ddyfodiaid, felly dydyn nhw ddim yn eu heintio. Mae hyn yn golygu bod rhywogaethau estron yn llwyddo i ddianc rhag y prosesau sydd fel rheol yn cyfyngu ar ehangu poblogaeth, gan adael iddyn nhw ffynnu’n ormodol.
  • Mae INNS sy’n tyfu’n gyflym yn cael y gorau ar rywogaethau brodorol. Mae rhai INNS yn tyfu’n gyflym iawn ac yn gweddu’n dda i’n hinsawdd ni – mae’r rhywogaethau yma’n tagu planhigion brodorol sy’n tyfu’n arafach, gan eu trechu yn y gystadleuaeth am adnoddau fel golau’r haul, dŵr, maethynnau, a gofod.
: A young Sitka spruce (Picea sitchensis) which has spread from a plantation and germinated over a species rich pasture. Credit: Lizzie Wilberforce
  • Mae INNS yn sefydlu dros ein cynefinoedd naturiol ni. Gall rhai INNS wasgaru eu hadau mewn niferoedd enfawr dros bellteroedd maith. Mae egino’r hadau yma yn ein cynefinoedd brodorol ni’n newid strwythur eu cymuned o rywogaethau, gan beryglu’r ecosystemau unigryw yma.
  • Gellir dod â chlefydau newydd i mewn gyda’r INNS. Daw plâu a chlefydau newydd i’r DU nad oes gan ein rhywogaethau brodorol ni imiwnedd iddynt. Mae hyn yn golygu bod ein rhywogaethau brodorol yn agored iawn i haint gan bathogenau INNS, gan arwain at golledion eang (fel Clefyd y Coed Ynn a’r Coed Llwyfen).
  • Mae’r newid yn yr hinsawdd yn creu amodau sy’n gadael i rai INNS ffynnu. Mae llawer o’r planhigion ymledol sy’n bodoli heddiw wedi tyfu yng Nghymru ers canrifoedd heb achosi difrod ecolegol. Mae newid yn yr hinsawdd bellach yn datgloi’r amodau sy’n caniatáu i’r rhywogaethau hyn reoli ar draul ein fflora brodorol.

Y canlyniad?

Mae’r holl ffactorau hyn yn golygu bod INNS yn dechrau boddi llawer o’n hecosystemau brodorol. Mae hyn yn lleihau amrywiaeth y rhywogaethau sy’n bresennol, sy’n tanseilio gwytnwch ein cynefinoedd ni. Pan fydd ein hecosystemau yn agored i niwed, mae ein heconomi yn ansefydlog. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn amcangyfrif bod INNS ar hyn o bryd yn costio o leiaf £125 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Edrychwch isod ar rai o’r INNS mwyaf dinistriol yng Nghymru i gadw llygad amdanynt, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am sut maent yn achosi cymaint o ddifrod.

Prif Droseddwyr

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 
person holding a plant with white flowers

Rosy Saxifrage reintroduced into Wales after 62 years extinct 

The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.  

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Meryw ar y Copaon: Fforest Troedfedd o Uchder

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

Why the Wild Leek is a Symbol of Wales

The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.