Skip to main content

Mae’r Gribell Felen, sy’n cael ei hadnabod yn gyffredin fel y crëwr dolydd, yn un o’r planhigion pwysicaf sydd arnoch ei angen ar gyfer dôl. Hebddo, gall glaswelltau cryf dyfu’n wyllt a thagu blodau rydych chi eisiau eu hannog.

 

Wrth i’r Gribell Felen Rhinanthus minor dyfu mewn dôl bydd y glaswellt yn mynd yn deneuach, gan wneud lle i blanhigion fel Llygad-llo Mawr, y Bengaled yn ei hamrywiol ffurfiau a Ffacbys ymddangos. Ac os ydych chi’n lwcus, efallai y bydd tegeirian yn ymddangos hyd yn oed.

Yellow rattle close up

Cylch Bywyd (blwyddyn) y Gribell Felen:

  • Mae’r hadau’n egino yn gynnar yn y gwanwyn ac yn tyfu’n gyflym
  • Wrth i’r gwreiddiau ddatblygu, mae’n chwilio am wreiddiau planhigion sy’n tyfu gerllaw, yn enwedig glaswelltau
  • Unwaith y bydd yn dod i gysylltiad â nhw, mae’r Gribell Felen yn tynnu dŵr a maethynnau o’r planhigion cyfagos
  • Mae hyn yn gadael lle i flodau dyfu

Wedyn mae gwenyn mawr, yn enwedig cacwn, yn symud i mewn ac yn peillio blodau’r Gribell Felen ac mae’r codennau hadau mawr yn sychu ac yn aeddfedu. Mae hyn yn gadael yr hadau yn ysgwyd o gwmpas y tu mewn. Roedd ffermwyr yn arfer defnyddio sŵn yr hadau’n ysgwyd fel arwydd i dorri’r gwair – dyna o ble y daw’r enw rattle yn Saesneg.

Sut i Dyfu’r Gribell Felen?

Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn dechrau defnyddiol iawn wrth greu dôl blodau gwyllt, ond gall fod ychydig yn anodd ei sefydlu. Dyma rai cynghorion doeth i chi ddechrau arni:

1. Cael rhywfaint o hadau

  • Mae hadau’r Gribell Felen yn fyrhoedlog iawn felly rhaid eu hadu mor ffres â phosibl ac, yn ddelfrydol, byddant wedi cael eu cynaeafu yn ystod yr haf diweddaraf.
  • Fe allwch chi bicio draw i siop Plantlifei brynu rhai
  • Neu, yn well fyth, os ydych chi’n gwybod am rywle lleol gyda’r Gribell Felen, gofynnwch a gewch chi gasglu rhywfaint o hadau
  • Mae’r hadau’n cael eu casglu drwy bigo’r coesynnau (ar ddiwrnod sych) a’u hysgwyd mewn bag papur
  • Rhaid casglu’r hadau rhwng mis Mehefin a mis Awst – unwaith maen nhw’n aeddfed fe fyddan nhw’n dechrau cwympo i’r llawr felly dim ond ffenestr fer o gyfle sydd! Mae eu haeddfedrwydd yn dibynnu ar dywydd yr haf ac mae’n debygol o fod ar ei gynharaf yn rhannau cynhesaf y wlad fel y de ddwyrain.

 

2. Plannu’r hedyn

  • I ddechrau, rhaid paratoi’r ardal – torrwch y glaswellt mor fyr ag y gallwch chi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi a thynnu’r toriadau.
  • Mae’n bosibl y bydd haenen o laswellt marw, y dylid ei dynnu drwy gribinio drwy’r ardal gyda chribin pridd, i ddatgelu rhywfaint o bridd noeth drwy’r ardal i gyd – mae hyn yn hollbwysig fel bod yr hedyn yn gallu cyrraedd wyneb y pridd, heb gael ei dagu fel eginblanhigyn
  • Wedyn bydd posib hadu’r hadau gyda llaw drwy wasgaru
  • Mae angen gwneud hyn erbyn mis Tachwedd fan bellaf, oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C ar yr hadau i egino yn y gwanwyn

3. Ei gwylio yn tyfu

  • Bydd yr eginblanhigion yn dechrau ymddangos yn y gwanwyn, mor gynnar â diwedd mis Chwefror. Ond does dim angen poeni os mai dim ond ychydig o blanhigion sy’n egino yn y flwyddyn gyntaf oherwydd byddant yn bwrw hadau a dylai’r niferoedd gynyddu’n gyflym.
  • Dylid torri’r ddôl blodau gwyllt unwaith y bydd y Gribell Felen wedi bwrw ei hadau – rhwng mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd yr amseroedd torri yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’r tymhorau
  • Mewn gardd, mae torri’r glaswellt a symud y toriadau unwaith neu ddwy cyn mis Rhagfyr yn sicrhau bod lle i’r Gribell Felen egino a thyfu erbyn mis Chwefror.

FAQ

  • 1. Pryd ddylwn i hadu’r Gribell Felen?

    Diwedd yr haf (Awst – Medi) yw’r amser gorau i hadu’r Gribell Felen. Ni fydd yn tyfu’n llwyddiannus os caiff ei hadu yn y gwanwyn. Mae posib hadu’r hadau ddim hwyrach na mis Tachwedd oherwydd mae angen tua 4 mis o dan 5C i egino yn y gwanwyn.

  • 2. Sut gallaf i gasglu fy hadau Cribell Felen fy hun?

    Mae hadau’r Gribell Felen yn hawdd eu casglu gyda llaw. Yn syml, daliwch fag papur o dan y cod hadau aeddfed a’i ysgwyd yn ysgafn gyda’ch bysedd. Mae’n hawdd casglu symiau mwy drwy ddefnyddio faciwm neu chwythwr dail.

    GWYLIO: Sarah Shuttleworth o Plantlife yn casglu hadau’r Gribell Felen gyda faciwm. 

  • 3. Pam mae’r Gribell Felen wedi diflannu o fy nôl i?

    Mae nifer o resymau pam y gall y Gribell Felen ddiflannu o ddôl, gan gynnwys:

    • Torri cyn i’r gribell hadu
    • Gadael y toriadau ar y ddôl
    • Pori yn gynnar yn y gwanwyn pan mae’r eginblanhigion allan ac yn agored i niwed
    • Y ddôl yn rhy ffrwythlon
    • Y glaswellt yn gryfach na’r Gribell Felen
  • 4. Faint o’r Gribell Felen ddylwn i ei hadu?

    Ar gyfer dolydd, rydyn ni’n argymell 0.5 i 2.5kg yr hectar / 10-20g fesul m2 os ydych chi’n casglu eich hadau eich hun.

  • 5. Pam nad ydi fy Nghribell Felen i wedi egino?

    Mae nifer o resymau posibl:

    • Roedd yr hadau’n fwy na blwydd oed (rydyn ni’n cynghori prynu gan gyflenwr ag enw da).
    • Dim digon o dir noeth wedi’i greu cyn hadu. Mae’n well creu o leiaf 50% o dir noeth.
    • Roedd y ddôl yn rhy ffrwythlon a’r glaswelltau’n gryfach na’r gribell.
    • Cafodd y gribell ei hadu ar yr amser anghywir o’r flwyddyn (hadu ar ddiwedd yr haf sydd orau). Os caiff ei hadu yn y gwanwyn dylai fod wedi cael ei storio’n llaith wedi’i chymysgu â thywod ar 4C am 6 i 12 wythnos.
    • Roedd y glaswellt yn rhy dal yn y gwanwyn cynnar, pan mae’r gribell yn egino. Gall torri’r ddôl ym mis Chwefror a thynnu’r toriadau helpu. Mae hyn yn rhoi gwell dechrau i eginblanhigion y gribell wrth gystadlu am olau gyda’r glaswelltau o’u cwmpas.

More meadow making tips

Yellow Rattle: The Meadow Maker
Yellow Rattle

Yellow Rattle: The Meadow Maker

Yn cael ei hadnabod fel crëwr dolydd byd natur, y Gribell Felen yw’r planhigyn unigol pwysicaf sydd arnoch ei angen wrth greu dôl blodau gwyllt.

Os ydych chi’n cymryd rhan ym Mai Di Dor eleni, bydd eich gardd ar ei ffordd i ddod yn hafan hardd a bioamrywiol i natur. Ond mae bonws i’w gael o helpu’r blodau gwyllt i dyfu – wrth i chi adael i lawnt ddod yn ddôl, daw eich gardd yn storfa garbon i chi’ch hun, gan helpu i leihau eich ôl troed carbon.

Pan fydd pobl yn sôn am ddal a storio carbon, mae’r rhan fwyaf yn meddwl am goed. Fel cymdeithas rydyn ni’n fwy ymwybodol nag erioed o’r blaen o rôl coetiroedd wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd a chreu gofod ar gyfer byd natur. Mae llawer llai o drafod ar y rôl hynod a’r un mor hanfodol y gall ein glaswelltiroedd a’n dolydd ni ei chwarae wrth gynyddu bioamrywiaeth a dal a storio carbon o’r atmosffer.

Sut mae glaswelltiroedd yn storio carbon?

Wildflowers growing in a meadow with cattle behind

Pan fyddwn ni’n creu glaswelltiroedd a dolydd iach drwy dorri’r glaswellt neu gael da byw i bori, rydyn ni’n syml yn efelychu gweithgarwch y gyrroedd o lysysyddion gwyllt mawr a arferai symud ar draws ein bryniau a’n dyffrynnoedd. Mae’r cynefinoedd yma – os yw’r pori’n ysgafn, yn anaml ac ar ddwysedd isel – yn ail-greu tirweddau cynhanesyddol ac yn darparu cartref i’n planhigion gwyllt ni, trychfilod, adar a ffyngau. Mae glaswelltiroedd naturiol a lled-naturiol (sy’n golygu’r rhai sy’n cael eu ffermio ond mewn ffordd draddodiadol, llai dwys) yn gwella ansawdd ein dŵr, yn atal llifogydd ac yn helpu i gynyddu gwydnwch ffermio i sychder yr haf.

Mae gan y glaswelltir yma – a’r pridd iach oddi tano – botensial anhygoel ac anhysbys hefyd i gloi carbon atmosfferig. Mae carbon pridd yn storfa arbennig o werthfawr; mae’n llawer mwy sefydlog a pharhaol na’r carbon mewn coed, sy’n agored i niwed o danau coedwig, plâu a chlefydau.

Wrth i blanhigion fyw a thyfu, mae carbon o’r atmosffer yn cael ei dynnu i lawr i wreiddiau’r planhigion, lle mae’r myrdd o greaduriaid yn y pridd yn ei ddefnyddio, gan ei gloi i ffwrdd o dan y ddaear. Wrth i amrywiaeth y planhigion ar yr wyneb gynyddu, felly hefyd yr amrywiaeth o ficro-organebau, ffyngau ac infertebrata oddi tanodd. Po fwyaf amrywiol yw bywyd y pridd, y cyfoethocaf yw’r ecosystem gyfan – a’r mwyaf o garbon y gall y pridd ei storio.

Rôl ffyngau Mycorhisol

Mae rôl bron yn gyfriniol y ffyngau mycorhisol yn gyfarwydd bellach. Maen nhw’n cysylltu gwreiddiau â’r maethynnau yn y pridd, gan fasnachu siwgrau y mae planhigion a choed yn eu creu o olau’r haul gyda mwynau wedi’u cloi i ffwrdd y mae ffyngau’n eu tynnu o’r pridd. Rydyn ni’n gwybod bellach y gall planhigion a choed gyfathrebu drwy’r rhwydweithiau ffyngaidd yma, gan eu hysbysu am blâu a chlefydau a throsglwyddo maethynnau i eraill sydd mewn angen.

Meadow on Dartmoor

Mae gan ffyngau mycorhisol rôl bwysig arall – maen nhw’n hollbwysig yng ngallu planhigion i drosglwyddo carbon i’r pridd. Mewn ardaloedd o dir fferm, dolydd a gerddi lle mae’r pridd yn cael ei aredig, ei wrteithio neu ei reoli gan nifer bach o rywogaethau glaswellt, mae’r rhwydweithiau mycorhisol yma’n llawer llai effeithiol – gyda llai o rywogaethau a photensial storio carbon is. Pan fyddwn yn gofalu am ein tir fferm a’n gerddi yn ofalus, gan dorri a phori’n anaml ac yn ysgafn, ac osgoi aredig a phlaladdwyr, rydym yn meithrin ein ffyngau mycorhisol, gan helpu’r pridd i ddod yn storfa garbon fwy grymus.

Sut mae Mai Di Dor yn helpu?

Drwy gymryd rhan ym Mai Di Dor, byddwch nid yn unig yn dechrau creu cartref i flodau gwyllt a phryfed, ond byddwch hefyd yn creu priddoedd iachach sy’n rhoi maeth i blanhigion eich gardd – ac yn lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.

Mae gan Loegr yn unig tua 640,000 hectar o erddi preifat. Pe bai dim ond chwarter yr ardal yma’n cael ei thrawsnewid yn ddôl llawn blodau gwyllt – drwy dorri dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn a chasglu’r toriadau – gallai’r priddoedd gardd yma ddal a storio swm ychwanegol o garbon sy’n cyfateb i fwy na 3 miliwn o allyriadau ceir blynyddol arferol o fewn dyfnder rhaw, ac ymhell dros 10 miliwn o geir mewn priddoedd mor ddwfn ag un metr*.

A blossoming garden lawn full of wildflower

Un rhan yn unig o’r pos yw lawntiau a gerddi wrth gwrs – mae tirwedd glaswelltir amaethyddol y DU yn cynnig potensial aruthrol i ni ddal a storio carbon, a hefyd gwarchod amaethyddiaeth a bioamrywiaeth.

Mae gan ffermwyr a pherchnogion tir rôl sylfaenol i’w chwarae – gan gyfuno cynhyrchiant bwyd â glaswelltiroedd cynaliadwy sy’n cloi carbon mewn priddoedd iach, ecolegol gyfoethog. Mae tua 40% o arwynebedd tir y DU yn laswelltir – ond mae llawer o hwn yn cael ei ffermio’n ddwys, gan gyfyngu ar ei botensial ar gyfer storio carbon.

Yn fyd-eang, mae astudiaethau wedi awgrymu y gallai 2.3 i 7.3 biliwn o dunelli cyfwerth â CO2 y flwyddyn gael eu dal a’u storio drwy adfer amrywiaeth glaswelltiroedd.

Nid yw dal a storio carbon yn golygu mwy o goed yn unig. Mae glaswelltir iach, gyda phori mwy sensitif a’r ffermio llai dwys sy’n ei feithrin, hefyd yn cadw carbon allan o’r atmosffer.

Dim ots pa mor fawr neu fach yw ein gardd ni, mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, a gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth. Mae’n hawdd dechrau arni – rhowch eich peiriant torri glaswellt i gadw yn ystod mis Mai eleni!

More about #NoMowMay

Yellow Rattle: The Meadow Maker
Yellow Rattle

Yellow Rattle: The Meadow Maker

Yn cael ei hadnabod fel crëwr dolydd byd natur, y Gribell Felen yw’r planhigyn unigol pwysicaf sydd arnoch ei angen wrth greu dôl blodau gwyllt.

No Mow May: Can your garden be a carbon store?

No Mow May: Can your garden be a carbon store?

Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.

Let it Bloom June: No Mow May is Over, What’s Next?
A meadow with Oxeye daisies, lush green grass and woodlands in the background

Let it Bloom June: No Mow May is Over, What’s Next?

Plantlife's Road Verges Advisor Mark Schofield reveals how to keep your thriving No Mow May flowering lawn blossoming into June.