Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Experience the wonders of nature and its rich biodiversity through our events and activities
Help us expand our nature reserve in Dorset. Donate to help us create more space for nature.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Lizzie Wilberforce
Britain’s waxcap grasslands are considered to be some of the best in Europe.
Discover the pressures these colourful fungi and their habitats face, and how you can take action to protect them for the future.
Mae sioe hardd yr hydref o gapiau cwyr amryliw yn ddangosydd pwysig o laswelltiroedd hynafol sydd heb eu haredig ers degawdau, ac sy’n gyfoethog mewn carbon a bioamrywiaeth pridd.
Yn anffodus, mae llawer o’r safleoedd cwbl unigryw yma ar gyfer ffyngau’r glaswelltir yn parhau i ddiflannu o ganlyniad i blannu coed, tai newydd, ffermio dwys, seilwaith trafnidiaeth a mwy. Mae’n sicr bod llawer mwy hefyd yn cael eu colli heb eu gweld, oherwydd cyfres o faterion rhyng–gysylltiedig sy’n gosod cadwraeth ffyngau ymhell y tu ôl i gadwraeth tacsa eraill fel mamaliaid ac adar.
Y broblem gyntaf, a’r bwysicaf efallai, yw prinder arolygwyr maes medrus (o’r enw mycolegwyr) sy’n gallu adnabod a chofnodi ffyngau. Yn ffodus, mae’n ymddangos bod diddordeb cynyddol mewn ffyngau ymhlith y cyhoedd. Mae’r 1,500 o aelodau o dudalen Facebook #WaxcapWatch Plantlife yn adlewyrchiad o hyn, ac yn galonogol iawn.
Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n gweithio’n broffesiynol fel arolygwyr maes yn parhau i fod yn isel iawn. Nid yw’r rhan fwyaf o ymgynghoriaethau ecolegol, sy’n gwneud gwaith arolygu i warchod bywyd gwyllt yn ystod datblygiadau, yn cyflogi mycolegwyr.
Mae’r diffyg cofnodwyr a chofnodi arbenigol yma’n golygu mai ychydig iawn o ddata sydd gennym ni o hyd sy’n disgrifio dosbarthiad gwahanol rywogaethau ffyngaidd ar draws rhannau helaeth o’r wlad, yn enwedig o gymharu â thacsa eraill.
Mae pwysau aruthrol ar ddefnydd tir heddiw. Mae arnom ni angen tir ar gyfer ffermio, ar gyfer plannu coed, ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ar gyfer tai: mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae ein gallu ni i sicrhau adferiad byd natur yn dibynnu ar wneud penderfyniadau da wrth i ni gynllunio’r gweithgareddau hyn. Mae hynny yn ei dro yn sicrhau bod byd natur yn cael ei warchod, a’i adfer mewn gwirionedd, yn unol â thargedau a pholisïau’r llywodraeth.
Fodd bynnag, meddyliwch am hyn: mae cynlluniau ar droed i adeiladu stad fawr o dai newydd ar dir amaethyddol a oedd yn arfer cael ei bori gan ddefaid. Mae angen arolygon ecolegol. Fodd bynnag, nid yw chwiliad o gronfeydd data’n datgelu unrhyw gofnodion ffyngaidd, oherwydd nid oes unrhyw fycolegwyr maes wedi ymweld â’r tir erioed.
Mae’r ymgynghoriaeth ecolegol yn ymweld â’r safle yn yr haf, oherwydd dyma’r amser gorau i gynnal arolwg o blanhigion, adar a mamaliaid. Nid yw’n cyflogi mycolegydd. Nid yw’r planhigion yn y caeau mor ddiddorol â hynny – ac felly mae’r cynnig yn cael sêl bendith. Mewn gwirionedd, mae’r caeau’n eithriadol gyfoethog mewn capiau cwyr, ond does neb yn gwybod hynny, a does neb yn edrych. Mae’r safle’n cael ei golli heb gael ei gydnabod am ei fioamrywiaeth o gwbl.
Mae hon yn broblem real iawn y mae Plantlife yn dyst iddi ar hyn o bryd mewn achosion niferus ledled Cymru. Mae arolygon ffyngaidd yn anodd eu cynnal, ac yn cael eu hystyried yn afresymol o feichus yn aml i ddatblygwyr, hyd yn oed ar gyfer prosiectau mawr. O ganlyniad, rydyn ni’n colli glaswelltiroedd hynafol gwerthfawr cyn i ni allu eu hadnabod nhw am yr hyn ydyn nhw hyd yn oed. Does dim posib gwneud iawn am effaith ar rywbeth nad oeddech chi’n gwybod ei fod yno erioed.
Mae hefyd yn debygol o fod yn broblem gynyddol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod gyda phrosiectau seilwaith mawr yn cael eu cynllunio. Er enghraifft, yng Nghymru mae llawer iawn o waith wedi cael ei drefnu i atgyfnerthu ein grid cyflenwi trydan, gyda cheblau newydd yn cael eu gosod yn eu lle ledled y wlad. Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yng Nghymru, yn 2023 mai’r rhagdybiaeth fydd y bydd ceblau newydd yn cael eu rhoi o dan y ddaear, er mwyn lleihau’r effaith weledol. A fydd yr effaith ar ffyngau’n cael ei nodi a’i lliniaru’n ddigonol? Ar hyn o bryd, mae hynny’n ymddangos yn annhebygol.
Dydyn ni ddim wedi colli’r frwydr yn llwyr ac mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud i fynd i’r afael â’r broblem hon.
The fight is not over, and it’s not lost, so join us in our efforts to get ancient waxcap grasslands recognised and better protected for the future.
Protect grassland fungi by taking part in the #WaxcapWatch
Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.
Britain’s waxcap grasslands are considered to be the best in Europe. Discover the pressures these colourful fungi and their habitats face…
Hywel Morgan, Plantlife’s Agricultural Advisor, explains how and why he made the switch to sustainable farming on his 230-acre farm in Wales.
Mae glaswelltiroedd amaethyddol yn rheoli tirwedd wledig Cymru. Mae dod o hyd i ffyrdd o adfer cynefinoedd llawn rhywogaethau i ffermydd yn flaenoriaeth i Plantlife Cymru.
Mae llawer o’n tirweddau ucheldirol ac iseldirol ni yng Nghymru yn cael eu rheoli gan gaeau gwyrdd. A dweud y gwir, mae 83% o’n tirwedd amaethyddol ni’n cael ei reoli fel glaswelltir parhaol neu ar gyfer pori garw. Bydd ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol yn rhan hanfodol o baratoi’r ffordd ar gyfer adfer y tirweddau hyn. O ganlyniad, mae Plantlife wedi bod yn gweithio’n galed ar ein hymateb i Fil Amaethyddol Cymru a Chynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer 2025.
Mae glaswelltiroedd parhaol (y rhai nad ydynt yn cael eu haredig na’u hailhadu’n rheolaidd) yn cael eu hanwybyddu yn aml wrth liniaru newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, maent yn ateb allweddol sy’n seiliedig ar natur i’r heriau sy’n ein hwynebu ni. Un rheswm pam eu bod yn cael eu hanwybyddu cymaint yw diffyg gwybodaeth gyfunol am garbon pridd glaswelltir. Maen nhw hefyd yn cael eu gwthio i’r ochr gan bwyslais ar blannu coed ac adfer mawndiroedd mewn polisi. Mae rheoli glaswelltir parhaol yn effeithiol wrth wraidd cynhyrchiant da byw yng Nghymru a’r economi ffermio ehangach. Mae angen iddo fod wrth galon mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth hefyd.
Mae glaswelltiroedd yn gynefinoedd anhygoel, sy’n gallu dal a storio carbon, a gwella bioamrywiaeth. Maen nhw’n darparu amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, yn gwella ein hiechyd a’n lles, ac yn cloi llygryddion. Yn bwysig iawn hefyd, maen nhw’n cynnal rhan unigryw o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Yn Plantlife, byddem yn hoffi gweld mwy o gydnabyddiaeth i’r manteision niferus y gall y glaswelltiroedd hyn eu darparu. Rydyn ni’n gofyn i’r Llywodraeth gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i addasu eu harferion ffermio. Hefyd, i’r llywodraeth gynorthwyo ffermydd i adfer a chynnal glaswelltiroedd llawn rhywogaethau. Yn anffodus, yn y gorffennol, mae adfer glaswelltiroedd wedi arwain at gyfraddau talu is o gymharu, er enghraifft, â chymorth i ffermydd âr. Mae angen i’r cynllun newydd fod yn economaidd hyfyw er mwyn i bob ffermwr ymuno ag ef. Bydd yn bwysig bod cyngor da ar gael i ffermwyr a rheolwyr tir i gael mynediad at y cynlluniau hyn, eu defnyddio a’u rheoli.
Yr olygfa ar draws gwarchodfa natur Cae Blaen-dyffryn, a’r dirwedd o’i chwmpas. © Chris Harris – Plantlife
Yn ogystal â rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud y gorau y gall dros ein hamgylchedd ffermio, rydyn ni hefyd yn gweithio tuag at adfer glaswelltiroedd amaethyddol ein hunain.
Mae Hywel Morgan wedi ymuno â thîm Plantlife Cymru yn ddiweddar fel ein Cynghorydd Amaethyddol. Bydd yn gweithio yn y dirwedd o amgylch ein gwarchodfa natur yng Nghae Blaen-dyffryn, ger Llanbedr Pont Steffan. Mae’n siarad â ffermwyr lleol ac yn ceisio deall beth yw’r camau gweithredu mwyaf buddiol a chynaliadwy ar gyfer cadwraeth glaswelltir.
Rydyn ni’n gobeithio, dros amser, y gallwn ni weithio llawer mwy gyda’r gymuned ffermio yma. Bydd Plantlife yn chwilio am arian ar gyfer adfer glaswelltiroedd yn seiliedig ar y cyfleoedd rydyn ni’n dod ar eu traws. Mae Hywel yn cyfrannu gwybodaeth bersonol am ffermio a bydd yn cael gwybodaeth leol drwy siarad â’r gymuned ffermio. Bydd hyn yn ein helpu ni i eiriol dros atebion adfer glaswelltiroedd sydd â’r siawns orau o lwyddo.
Mae Hywel Morgan yn Gynghorydd Amaethyddol (Cymru) yn Plantlife Cymru
Dilynwch ein blog ni a chofrestru ar gyfer ein cylchlythyr; efallai y bydd Hywel yn rhannu gwybodaeth am yr hyn mae wedi’i ddysgu o siarad â’r gymuned ffermio leol.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.