Skip to main content

Faint mae Dôl yn ei Gostio?

Whether it’s a small garden meadow or a larger community green space – you need to think about the money. 

Neutral meadow in Cornwall.

Os ydych chi’n dechrau ar eich siwrnai o’r newydd gyda dôl neu’n chwilio am gyllid i gefnogi eich dôl gymunedol, mae gan ein harbenigwyr ni yr atebion.

Fe all dolydd gardd llai fod yn gymharol rad i’w creu neu eu rheoli, ond gall ardaloedd mwy fod yn ddrytach, yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen.

Rydyn ni wedi casglu rhai cwestiynau cyffredin sydd gennych chi efallai am gost at ei gilydd:

Felly, faint mae’r cyfan yn ei gostio?

Yn ddealladwy, mae cost creu dôl yn dibynnu yn y pen draw ar faint, graddfa ac opsiynau hadu.

A blossoming garden lawn full of wildflower

Dolydd llai

Mae ardaloedd llai, fel gardd, yn gymharol rad i’w troi’n ddolydd blodau gwyllt. Mae cost hadau i orchuddio 50 metr sgwâr yn amrywio o tua £20 i £30. Cyn hadu, mae posib paratoi’r tir gydag offer garddio arferol, neu mae posib llogi offer mwy arbenigol, fel sgraffiniwr gardd, am tua £50 y dydd. Yn aml mae posib gwneud rheolaeth barhaus gydag offer garddio.

Hikers walking through long grass.

Dolydd mwy

Mae angen mwy o gymorth ariannol ar gyfer gofod gwyrdd mwy fel dolydd cymunedol, parciau neu lawntiau pentref. Fe all y pris amrywio o £800 i 3,000 yr hectar – gan gynnwys pob agwedd ar wneud a rheoli dôl (rheoli planhigion, paratoi’r tir a hadu).

I gael rhagor o wybodaeth am ddolydd cymunedol, darllenwch ein canllaw dechrau arni ni yma.

Gwneud y gwaith yn rhatach?

 

Bright yellow wildflowers growing in a meadow

Canllawiau bras yw’r prisiau uchod, ond mae ffyrdd o wneud eich siwrnai at greu dôl yn rhatach:

  • Gofyn i gymdogion rannu peiriannau neu offer
  • Gofyn i grwpiau dolydd neu gadwraeth lleol roi hadau
  • Mae caniatáu i ddolydd ddatblygu’n naturiol yn llawer rhatach, ond mae angen amynedd. Drwy sefydlu rheolaeth flynyddol briodol yn unig, fe allwch chi greu dôl cost isel ddeniadol mewn ychydig flynyddoedd.
  • Ar gyfer prosiectau ar dir cyhoeddus, gofyn am help gan wirfoddolwyr, ysgolion neu golegau i helpu i hadu hadau neu baratoi’r tir.

More Meadow Guidance