Skip to main content

Sut i Reoli Dôl

Weithiau gall dolydd blodau gwyllt gymryd amser i flodeuo’n iawn, ond gyda rheolaeth ofalus, mae’n bendant yn werth yr aros.

Darllenwch ymlaen i ddysgu sut i reoli dôl ac am wahanol fathau o ddolydd.

A meadow full of yellow flowers, a blue sky and lush green trees
  • Go to:

Felly, rydych chi wedi dechrau tyfu blodau gwyllt ar eich tir neu ddôl gymunedol – ond sut ydych chi’n helpu’r sioe lawn blodau yma i ddychwelyd bob blwyddyn?

Gall dolydd blodau gwyllt gymryd amser i flodeuo’n iawn, ond bydd dilyn y camau syml yma’n sicrhau bod eich dôl yn ffynnu gyda phlanhigion hardd ac amrywiol dro ar ôl tro. Yr hanfodion ar gyfer pob dôl yw haul, pridd, rhywfaint o law a rheolaeth – ac er y gall yr offer amrywio, mae’r prosesau’n debyg waeth beth yw maint eich dôl.

Mae 6 phrif beth i’w hystyried (mewn trefn gronolegol):

Creeping thistle - Cirsium arvense
  • Rheoli planhigion problemus  – Er bod pob planhigyn o ryw werth i fywyd gwyllt, gall rhai rhywogaethau ledaenu’n gyflym iawn a gallant fod yn niweidiol i flodau gwyllt. Mae’n well cadw llygad ar blanhigion problemus fel ysgall, dail tafol a chreulys. Mae llawer angen i’r gwaith rheoli gael ei wneud yn gynnar yn yr haf.
  • Torri gwair (neu dorri a chlirio) ym mis Gorffennaf – Mae’r amseriad yn dibynnu ar ble rydych chi yn y wlad (mae gwair yn barod i’w dorri’n gynharach yn y de cynhesach), a pha gyfran o laswelltau tal gyda dail mawr sydd gennych chi ar eich dôl. Mae toriad tra mae’r glaswellt yn dal a heb fwrw had eto yn helpu i reoli glaswelltau cryf iawn. Mewn dolydd bach gallwch dorri o amgylch yr ardaloedd gyda’r cyfoeth mwyaf o flodau.
  • Torri neu bori yn yr hydref  – Pan fydd y tywydd yn fwyn, bydd y glaswellt yn dal i dyfu, felly mae hyn yn helpu i gadw glaswelltau draw ac yn caniatáu i’r blodau gwyllt ffynnu. Bydd angen torri’r rhan fwyaf o ddolydd ar ddiwedd mis Gorffennaf ac wedyn bydd angen tynnu’r toriadau ar ôl tua wythnos i ganiatáu peth amser i’r had ollwng. Bydd glaswelltau tal yn cyfoethogi’r pridd, ac yn atal tyfiant blodau gwyllt ymhellach drwy rwystro tyfiant newydd.
A grazing sheep looks up at Ryewater Farm
  • Gofalu am y ddaear – Mae’n dda cadw llygad ar y ddaear ac osgoi ei niweidio a’i chywasgu gyda pheiriannau trwm yn mynd heibio’n aml neu ormod o sathru, yn enwedig pan mae’r ddaear yn wlyb.
  • Amynedd – Drwy ddilyn ein canllawiau rheoli dolydd, gall unrhyw ardal laswelltog agored (sydd ddim yn rhy ffrwythlon neu’n cael ei rheoli gan blanhigion problemus) ddod yn ddôl llawn blodau gwyllt os caiff ddigon o amser.
  • Anifeiliaid – Er nad yw hyn yn bosibl i’r rhan fwyaf o berchnogion gerddi, os gallwch chi ddod ag anifeiliaid i’ch cae bach neu ddôl gymunedol (o fis Medi i fis Chwefror), gallant fod o help mawr. Gan y bydd da byw yn dod â hadau yn eu tail, ceisiwch wneud yn siŵr eu bod wedi dod o ddôl heb lawer o blanhigion problemus. Bydd eu carnau yn creu gofod i hadau gydio, a gallant helpu i adfer bywyd y pridd (infertebrata a micro-organebau). Cyn belled nad yw’r anifeiliaid yn cael eu bwydo gydag unrhyw beth ychwanegol fel gwair, bydd eu pori yn codi maethynnau o’r system sydd o fudd i lawer o flodau gwyllt, gan roi mantais gystadleuol iddynt dros laswelltau tal. Ond does dim rhaid i chi fod yn berchen ar wartheg neu ddefaid i greu dôl. Drwy dorri ar yr amser iawn, gallwch wneud dôl mewn gardd, parc, gofod cymunedol neu ar ymyl ffordd.

 

Beth yw Dôl?

Cae neu ardal laswelltog yw dôl draddodiadol lle caniateir i’r glaswelltau a’r blodau gwyllt dyfu’n ddirwystr hyd nes cânt eu torri, ar gyfer gwair fel rheol, ar ddiwedd yr haf.

Dôl neu borfa? Yn union fel mae’r gair coetir yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sawl math o bren, rydyn ni nawr yn aml yn defnyddio’r gair dôl i ddisgrifio llawer o wahanol fathau o lefydd glaswelltog llawn blodau. Mae hyn yn cynnwys porfeydd, sy’n cael eu cynnal gan bori. Mae’r glaswellt yn cael ei gadw’n gytbwys drwy bori gofalus gyda nifer bach o anifeiliaid sy’n cael eu symud o gwmpas drwy gydol y flwyddyn. Mae’r pori helaeth yma’n galluogi porfeydd a glaswelltiroedd i gynnal blodau toreithiog heb dorri gwair.

Mathau o borfeydd:

  • Priddoedd sych, asidig, glaswelltiroedd asid yw rhai o’r porfeydd mwyaf cyffredin – er eu bod yn gymharol brin o rywogaethau.
  • Mae priddoedd sych, llawn calch neu sialc, twyndir sialc, twyni tywod a glaswelltir calchfaen i gyd yn borfa bori. Gallant fod yn eithriadol gyfoethog mewn blodau a dyma rai o’n cynefinoedd mwyaf cyfoethog ni o ran rhywogaethau
  • Mae pridd gwlyb, porfeydd brwyn yn gartref i’w planhigion arbennig eu hunain – gan gynnwys Tamaid y Cythraul a Charpiog y Gors yn ogystal â llawer o hesg a brwyn.

Mathau o Ddolydd

A wildflower meadow in summer filled with flowers

Lowland Neutral Meadow


Pan rydyn ni’n dychmygu dôl wair llawn blodau rydyn ni fel rheol yn meddwl am ddôl niwtral ar dir isel. Mae dolydd niwtral, gyda chymysgedd o laswelltau a blodau yn cyrraedd at y pen-glin neu ganol y corff yn yr haf, wedi’u gwreiddio mewn pridd sydd ddim yn rhy asidig nac yn rhy alcalïaidd.

Planhigion i’w gweld – Briallen Fair, Llygad-llo Mawr, Blodyn Menyn, Clafrllys, Cribau San Ffraid, Meillionen, Ytbys, y Bengaled a Briwydd Felen.

Gall y dolydd hyn gynnal arddangosfeydd godidog o degeirianau, yn enwedig Tegeirian y Waun a’r Tegeirian Brych. Mae’r Gribell Felen ac Effros yn chwarae rhan hanfodol hefyd drwy helpu i gadw’r glaswellt i lawr. Diolch i’r rhywogaethau hyn a’r pridd anffrwythlon, mae’r glaswelltau cain (fel Perwellt y Gwanwyn, Crydwellt a Rhonwellt y Ci) yn caniatáu digon o le i flodau gwyllt dyfu.

Ewch i archwilio dolydd gwlyb a sych yr iseldir yng Ngwarchodfa Natur Dôl Coed Three Hagges.

Lugg Meadow

Floodplain Meadow


Ar briddoedd gwlypach lle mae afonydd yn torri eu glannau yn y gaeaf, mae dolydd gorlifdir yn datblygu lle mae’r pridd yn ddyfnach ac yn fwy ffrwythlon. Mae’r cynefin hwn yn cynnal llystyfiant eithaf tal ac ir.

Planhigion i’w gweld – Blodyn Llefrith, Carpiog y Gors, Erwain, Bwrned Mawr, Britheg Pen y Neidr a Chynffonwellt y Maes.

Mewn llecynnau ychydig yn wlypach, gall Canwraidd y Dŵr a Gold y Gors ffynnu ac mewn dolydd gorlifdir hynafol gyda phriddoedd llai ffrwythlon gellir cynnig cartref i flodyn cain Ffenigl yr Hwch.

Ewch i archwilio dolydd gorlifdir yng Ngwarchodfa Natur Dôl Lugg yn Swydd Henffordd neu Ddolydd Long Herdon a Grange yn Swydd Buckingham.

A meadow of daisies and orchids with a leafy woodlands in the background

Upland Hay Meadow


Mewn ardaloedd o ogledd Prydain, mae dolydd gwair ucheldirol yn ffynnu gyda fflora nodedig iawn, gan ddarparu cartref i gannoedd o rywogaethau o blanhigion, sydd nid yn unig yn helpu blodau gwyllt, ond hefyd bywyd gwyllt lleol. Mewn cyfnodau brig, mae’r dolydd traddodiadol hyn yn llawn bywyd – o wenyn a glöynnod byw i adar a mamaliaid bach.

Er nad ydynt mor gyfoethog o ran rhywogaethau â dolydd yr iseldir, gallant fod yn eithriadol ysblennydd.

Planhigion i’w gweld – Pig-yr-aran y Coed, Ysgallen Fwyth, Canwraidd, Bwrned Mawr, Blodyn Menyn, Meillionen Goch, Cribell Felen ac Effros.

Mae’r tapestri lliwgar o ddolydd gwair yn cael ei feddalu yn aml gan flodau gwyn ewynnog Cneuen y Ddaear ac yn anaml, mae rhywogaethau o Fantell Fair yn swatio ymhlith y glaswelltau.

Ewch i archwilio dôl wair niwtral yng Nghaeau Tan y Bwlch yng Ngwynedd neu ddôl wair yng Ngwarchodfa Natur Fferm Joan’s Hill yn Swydd Henffordd.

Purple Moor-grass Rush Pasture


Mae’n cael ei alw hefyd yn laswelltir coesyn yn ne orllewin Lloegr a phorfa Rhos yng Nghymru, a cheir porfa frwyn o Laswellt y Gweunydd ar briddoedd tlotach mewn ardaloedd gorllewinol.

Planhigion i’w gweld – Glaswellt y Gweunydd, Brwyn, Carpiog y Gors, Tamaid y Cythraul, Carwy Droellennog, Llafnlys Bach, Ystrewlys a Thegeirian y Gors.

Mae hwn yn gynefin arbennig o dda i fywyd gwyllt arall gan gynnwys ymlusgiaid, amffibiaid, infertebrata ac adar rhydio sy’n magu.

Roedd dolydd porfa llawn blodau yn nodwedd gyffredin ar un adeg o dir pori, ond heddiw ychydig iawn sydd ar ôl. Defnyddiwyd y glaswelltiroedd bywiog a hardd hyn yn draddodiadol i gadw buchesi bach o wartheg neu geffylau. Mae llawer o borfa ledled y DU wedi cael ei ‘gwella’ yn amaethyddol drwy ddraenio, aredig, gwrteithio ac ailhadu. Mae hyn yn golygu bod llawer o’r safleoedd hyn wedi colli’r rhan fwyaf o’u hintegriti ecolegol. Mae blodau gwyllt yn cael trafferth yn aml oherwydd bod y lefelau maethynnau yn uwch, a bydd y rhwydweithiau ffyngaidd tanddaearol a’r cronfeydd hadau yn absennol i raddau helaeth oherwydd aredig a thriniaeth gemegol. Gellir rheoli dolydd porfa llawn blodau gyda da byw neu dorri.

Ewch i archwilio’r borfa niwtral yng Ngwarchodfa Natur Cae Blaen-dyffryn yn Sir Gaerfyrddin neu’r glaswelltir coesyn yn Greena Moor yng Nghernyw.

Chalk Downland and Limestone Grassland


Gellir dod o hyd i rai o’r cynefinoedd blodau gwyllt mwyaf trawiadol ar bridd alcalïaidd, wedi’i ddraenio’n dda, sy’n datblygu ar ben creigiau sialc a chalchfaen. Gall y glaswelltir yma fod yn  gartref i gasgliad rhyfeddol o gymaint â 50 o rywogaethau mewn un metr sgwâr.

Planhigion i’w gweld – Teim Gwyllt, Briwydd Felen, Bwrned, Cor-rosyn Cyffredin, Penrhudd, Clychau’r Eos a Chlafrllys Bach.

Ond a dweud y gwir, y blodau prin ac anarferol sy’n gwneud y dolydd hyn mor gyffrous, gan gynnwys Tegeirian, Crwynllys, Amlaethai, Ytbys a Blodyn y Pasg.

Ewch i archwilio porfa galchfaen yng Ngwarchodfa Natur Winskill Stones yng ngogledd Swydd Efrog neu laswelltir sialc ar Fferm Ranscombe yng Nghaint.

Sweet Vernal Grass in the sunshine

Acid grassland


Un o’n glaswelltiroedd mwyaf cyffredin ni, ond sydd ddim yn cael ei werthfawrogi efallai, yw glaswelltir asid. Mae i’w gael ar briddoedd asid y bryniau a’r mynyddoedd, yn ogystal â gorchuddio creigiau iseldir asidig fel tywodfaen a siâl.

Planhigion i’w gweld – Tresgl y Moch, Briwydd Wen, Clust y Llygoden, Amlaethai’r Waun a Suran yr Ŷd. Glaswelltau fel Maeswellt, Peiswellt, Brigwellt y Gwanwyn, Glaswellt y Rhos, Perwellt y Gwanwyn, Cawnen Ddu a Brigwellt Main. O bryd i’w gilydd gellir gweld digonedd o flodau gwyllt eraill fel Tegeirian Brych y Rhos, Cribau San Ffraid a Pheradyl yr Hydref, yn ogystal â chlytiau o Glychau’r Eos.

Rheoli Dolydd Gwair

Gall yr amseriad amrywio, ond mae angen torri dolydd pan fydd y glaswellt yn dal ac yn aeddfed. I helpu pryfed lleol, mae’n dda gadael llain heb ei dorri o amgylch ymyl eich dôl fel adnodd porthiant a lloches i adar ac infertebrata. Ar gyfer ardaloedd glaswelltog llai, gellir torri’r ddôl wair gyda pheiriant torri gwair ac ar gyfer dolydd cymunedol mwy neu badogau merlod, gellir defnyddio tractor gyda pheiriant torri gwair drwm neu ddisg.

Pan mae hynny’n bosibl, gall dod ag anifeiliaid i mewn i bori’r glaswellt newydd ychydig wythnosau ar ôl ei dorri fod o help mawr i flodau gwyllt. Fel rheol mae angen cael gwared ar y da byw erbyn diwedd mis Chwefror er mwyn gadael i flodau fel y Blodyn Llefrith a Briallen Fair flodeuo, ac eginblanhigion y Gribell Felen i ddechrau arni. Wedyn dylid gadael llonydd i’r ddôl drwy gydol y gwanwyn a’r haf neu hyd nes bydd y rhan fwyaf o’r planhigion wedi blodeuo a hadu.

Blwyddyn o Reoli Dolydd

Arweiniad