Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Discover the magical world of the UK’s wonderful wild plants and fungi and connect with nature near you.
There are many different ways you can go the extra mile for Plantlife – from organising a bake sale, running the London Marathon or planning your own plant-themed event.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Creating a meadow, but not sure what machinery is best – we have the answers for you, no matter the size of your meadow.
Dim ots beth yw maint eich dôl – boed yn lawnt fechan, yn gae cymunedol neu’n erwau o dir fferm – bydd angen i chi feddwl am offer. Mae gan bob math o beiriannau eu manteision a’u hanfanteision, ond mae pa gyfuniadau rydych chi’n eu defnyddio’n dibynnu i raddau helaeth ar yr offer sydd gennych chi eisoes a maint eich dôl.
Heddiw, mae nifer cynyddol o lawntiau a gofod gwyrdd llai’n cael eu troi’n ddolydd, heb gymorth peiriannau mawr a da byw.
Mae torri glaswellt ac wedyn symud y toriadau’n efelychu’r cylchoedd torri gwair a phori a ddefnyddir ar safleoedd mwy. Mae llawer o lefydd – gan gynnwys lawntiau, tiroedd ysgolion, ymylon ffyrdd, mynwentydd a chaeau llai na hectar – yn cael eu rheoli yn y ffordd yma. Dilynwch yr olwyn hon isod am flwyddyn ym mywyd rheolwr dôl fechan:
Ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Torri a symud glaswellt ar ddiwedd yr haf i efelychu toriad gwair.
Sut i’w ddefnyddio
Y ffordd orau yw dechrau gyda’r llafnau torri wedi’u gosod mor uchel â phosibl a thorri sawl gwaith, gan ostwng yr uchder torri bob tro.
Cyngor doeth
Mae’n well os nad yw’r bocs glaswellt wedi’i atodi ar gyfer y toriad neu ddau cyntaf a’i gribinio gyda llaw ar ôl pob toriad.
Creu tir noeth (cyn hau hadau).
Cribinio’r holl laswellt a’r gwellt marw o’r safle ar ôl digroeni.
Yn addas ar gyfer safleoedd llai fel gerddi, ymylon a gofod gwyrdd. Ar gael drwy’r rhan fwyaf o siopau llogi offer a pheiriannau.
Toriad blynyddol i ddolydd bach mewn gerddi neu ofod gwyrdd ar gyfer creu tir noeth.
Strimio’r ardal mor fyr â phosibl a chribinio popeth sydd wedi’i dorri.
Mae posib ei ddefnyddio i greu tir noeth os ydych chi’n defnyddio peiriant strimio gyda chortyn.
Creu tir noeth a rheoli dolydd bach.
Mae posib defnyddio cribin metel i symud y toriadau ar ôl torri’r glaswellt. Mae cribin pridd yn dda ar gyfer cael gwared ar fwsogl sydd wedi cronni yn y bôn.
Cofiwch symud yr holl ddeunydd wedi’i gribinio cyn iddo bydru a chyn i’r maethynnau roi cyfoeth i’r pridd.
Torri dolydd mawr sy’n rhy fach ar gyfer peiriannau fferm neu sydd â mynediad cyfyngedig.
Mae’r rhain hefyd yn ddefnyddiol pan mae llethrau’n atal defnydd o unrhyw beiriannau eistedd ar y top.
Ar gael drwy’r rhan fwyaf o siopau llogi offer a pheiriannau.
Mae’r peiriannau hyn wedi cael eu cynllunio i ffitio ar gefn tractor ac ar gyfer rheoli dolydd ar raddfa cae ar gyfer safleoedd mwy nag un hectar. Fel ffermwr neu berchennog tir, mae’n debygol y bydd yr offer yma ar gael yn hwylus gennych chi, ond bydd y cyfarwyddyd yma’n helpu gyda’r ffyrdd gorau o’i ddefnyddio i greu dolydd. Os nad oes gennych yr offer yma, efallai y bydd ffermwyr neu reolwyr tir cyfagos yn gallu eich helpu gyda benthyca offer.
Dylid defnyddio pob un o’r mathau hyn o offer mewn amodau sydd ddim yn rhy wlyb nac yn rhy sych, er mwyn osgoi difrod a chywasgu’r pridd.
Defnyddiol ar gyfer tynnu gwellt allan, yn enwedig mewn dolydd heb eu pori. Yn ddelfrydol cyn creu tir noeth ar gyfer hau blodau gwyllt mewn cae gyda glaswellt eisoes – neu os oes planhigion problemus yn bodoli, defnyddiwch hwn.
Mae’n tynnu’r gwellt o laswellt marw a mwsogl fedr gronni mewn dolydd, i ddatgelu’r tir noeth. Cofiwch gadw’r dannedd yn glir fel eu bod yn gweithredu ar eu gorau.
Sylwch ei bod yn aml yn fwy effeithiol gorgyffwrdd hanner ffordd â phob stribed blaenorol, fel bod yr og yn rhoi sylw i bob ardal ddwywaith. Hefyd ystyriwch basio eto i’r cyfeiriad arall.
Mae’n gweithio’n dda mewn safleoedd sydd wedi bod â phlanhigion problemus yn flaenorol – oherwydd dim ond crafu’r wyneb y mae ac mae’n llai tebygol o ddeffro hadau o’r gorffennol. Dylid gwneud hyn pan nad yw’r pridd yn rhy sych nac yn rhy wlyb, a phan mae’r tywydd yn fwyn.
Creu llawer o dir noeth, yn gyflym.
Rhaid cymryd gofal i beidio â phweru’r og yn rhy ddwfn – anelwch am osodiad o ddim mwy na 1” o ddyfnder, nid gweithredu amaethyddol safonol.
Dim ond mewn dolydd sydd eisoes â glaswellt byr iawn ddylid eu defnyddio, heb blanhigion problemus yn bresennol yn ddiweddar neu gronfa hadau. Dylid gwneud hyn pan nad yw’r pridd yn rhy sych nac yn rhy wlyb, a phan mae’r tywydd yn fwyn.
Y defnydd gorau o’r peiriannau hyn yw i greu tir noeth.
Maen nhw’n gweithio orau ar dir ychydig yn feddal gyda glaswellt byr iawn.
Maen nhw’n llai effeithiol nag og bŵer neu ddanheddog, felly bydd angen defnyddio og gadwyn sawl gwaith ar ddôl. Dylid gwneud hyn pan nad yw’r pridd yn rhy sych nac yn rhy wlyb, a phan mae’r tywydd yn fwyn.
Torri dolydd, fel rhan o’r broses o gynaeafu gwair.
Mae’n cael ei ddefnyddio i chwalu’r glaswellt o amgylch y ddôl.
Mae’r glaswellt yn cael ei chwalu o amgylch y ddôl, i helpu i sychu wrth gynaeafu gwair.
Mae posib defnyddio hwn ar gyfer chwalu gwair gwyrdd os yw i gael ei ddefnyddio fel ffynhonnell o hadau ar gyfer creu dôl.
Belio’r gwair fel rhan o reoli dôl wair yn draddodiadol.
Mae’n casglu glaswellt tal wedi sychu / gwair sydd wedi’i dorri a’i droi yn flaenorol, ac yn ei siapio’n gylchoedd mawr cywasgedig neu sgwariau bach.
Gyda’r peiriannau belio crwn rhaid cael tractor i symud y byrnau, ond gyda byrnau bach sgwâr, mae posib eu symud yn rhwydd gyda llaw.
Mae’r peiriant yma’n cael ei ddefnyddio i dorri a chasglu ar yr un pryd.
Torri a symud y tyfiant glaswellt blynyddol mewn dôl os nad yw’n bosibl cynaeafu gwair.
Mae’n cael ei ddefnyddio fwyfwy i reoli ymylon ffyrdd a dolydd llai, lle nad yw’n ymarferol gwneud gwair neu bori da byw.
Mae peiriannau torri gwellt yn cael eu defnyddio ar gyfer chwalu byrnau gwair gwyrdd allan.
Mae peiriant chwalu tail yn cael ei ddefnyddio i chwalu gwair gwyrdd.
I ddefnyddio chwalwr tail, gyrrwch yn araf ar draws y cae.
Dylid chwalu gwair gwyrdd mor gyflym â phosib, i osgoi gorgynhesu.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.