Skip to main content

Yr Bwlch Glaswelltiroedd

O borfeydd mynyddig i ddolydd gorlifdir, mae glaswelltiroedd yn gorchuddio mwy na 40% o dir y DU.

Maent yn ased naturiol enfawr; yn hanfodol i fyd natur a phobl ffynnu, ar gyfer cynhyrchu bwyd, ac i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Interrupted Brome with a poppy backdrop

Ac eto, mae gwir werth glaswelltiroedd wedi cael ei anwybyddu gan lywodraethau olynol yn y DU.

Mae’r rhan fwyaf o’n glaswelltiroedd hynafol llawn bywyd gwyllt ni wedi’u dinistrio ac maent bellach ymhlith cynefinoedd prinnaf y DU – gyda’r colledion yn parhau heddiw. Mae caeau sy’n cael gormod o wrtaith a chaeau monoddiwylliant yn rheoli ein tirwedd ni bellach, gan ddarparu fawr ddim buddion i fyd natur, pobl neu ein hinsawdd.

Mae’n amser gweithredu o ddifrif i gael y gorau o’n glaswelltiroedd.

Machair grassland

Mae glaswelltiroedd yn haeddu’r un lefel o ffocws a buddsoddiad ag a roddir i goetiroedd a mawndiroedd ym mholisïau’r llywodraeth.

Byddai hyn yn helpu i gyrraedd targedau hinsawdd a natur cenedlaethol a rhyngwladol, drwy sbarduno’r gwaith o adfer, rheoli yn briodol, a chreu glaswelltiroedd llawn bywyd gwyllt, wedi’u cysylltu ar draws y dirwedd.

three people in a grass field of yellow and purple flowers

Gall glaswelltiroedd ddarparu llawer o wasanaethau a manteision ecosystem anhygoel – fel cefnogi bywyd gwyllt, storio carbon, darparu aer a dŵr glân, a chynhyrchu bwyd maethlon – ond gallent fod yn gwneud cymaint mwy.

Er mwyn datgloi manteision glaswelltiroedd, mae angen dull newydd o weithredu. Rydyn ni’n galw ar lywodraethau’r DU i gael y gorau o’n glaswelltiroedd.

Gwyliwch y gofod yma am ddiweddariadau.

a field of grass field with a variety of flowers in pink, purple, yellow and white

How can I help?

Become a grassland guardian and help restore 10,000 hectares of species-rich grassland by 2030. Donate today.

Our Work in Grasslands

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru
Cattle on grassland

Ffyngau a ffermio: Siwrnai cap cwyr ar fferm yng Nghymru

Mae’n dymor y capiau cwyr yn Ystwyth Uchaf ac mae Sheena Duller o Plantlife yn esbonio pam y gall ffyngau a ffermio weithio’n dda gyda’i gilydd.

Y Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn
An orange waxcap mushroom growing in short grass

Y Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn

Mae Glaswelltiroedd Gwydn yn brosiect partneriaeth 3 blynedd i greu newid cadarnhaol ar laswelltiroedd pwysig fel dolydd a phorfa rhos ledled Cymru.

Local Councils and No Mow May
Close up of wildflowers taken on verge with a road in the distance

Local Councils and No Mow May

To restore our native wildflowers, councils need to make long-term commitments to transforming their management of road verges. Have a look at the amazing work done by local authorities.