Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Experience the wonders of nature and its rich biodiversity through our events and activities
Help us expand our nature reserve in Dorset. Donate to help us create more space for nature.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Hywel Morgan
Learn from Hywel Morgan, Plantlife’s Agricultural Advisor, about how and why he made the switch to nature friendly farming on his 230-acre beef and sheep farm at the western end of the stunning Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons National Park).
‘Roeddwn i’n arfer gwneud llawer o drin, ailhadu a gwrteithio. Mae hyn yn effeithio ar rywogaethau o blanhigion gwyllt a chyflwr y pridd, ac yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr. Fe wnes i sylweddoli hefyd mai dim ond gwneud iawn yn y tymor byr oedden nhw ac nad oedden nhw wir yn talu am gost y straen a’r mewnbwn. Yn aml iawn fel ffermwr rydych chi’n teimlo bod angen i chi fod yn cynhyrchu waeth beth yw’r gost, ond yn ariannol, mae cost mewnbynnau rydych chi’n eu prynu i mewn wedi cynyddu i lefel sydd ymhell o fod yn fforddiadwy.
Fe wnes i newid y system bum mlynedd yn ôl, ar ôl sgwrs gyda Gwas Sifil a ddywedodd y byddai ffermwyr, yn y dyfodol, yn cael eu talu am ffermio sy’n fwy ystyriol i natur. Roedd y trawsnewid yn heriol, yn ariannol ac yn feddyliol: roedd y pwysau gan eraill i ddal ati i ffermio’n gonfensiynol yn enfawr.
Ar ôl y rhyfel roedd y meddylfryd yn ymwneud â chynhyrchu, a byddai ffermwyr tenant wedi colli eu ffermydd oni bai eu bod yn bodloni’r galw. Mae’r athrawiaeth yma wedi dylanwadu ar genedlaethau o ffermwyr ers hynny. Mae’n golygu ein bod ni wedi colli’r cysylltiad rhwng sut a pham rydyn ni’n cynhyrchu’r bwyd, ac rydyn ni weithiau’n anghofio am fanteision bywyd gwyllt o fewn system y fferm.
Mae gwneud y newid wedi golygu gostyngiad mawr mewn costau ac rydw i’n gallu gweld – a mwynhau – manteision gweithio gyda byd natur.
Rydw i’n ceisio cadw popeth yn syml. Rydw i wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cemegau a gwrteithiau. Mae hyn yn helpu i leihau ffrwythlondeb y pridd ac wedyn yn annog tyfiant blodau gwyllt a phlanhigion eraill y glaswelltir sydd angen lefelau isel o faethynnau. Rydw i wedi gweld llawer mwy o Bys-y-ceirw, y Gribell Felen, Milddail a Llyriad ers gwneud y newid. Mae gen i hefyd lawer iawn o wahanol rywogaethau o gapiau cwyr yn fy nghaeau nawr ac mae rhai o bwysigrwydd rhanbarthol hyd yn oed.
Bellach mae fy ngwrychoedd i’n cael tyfu’n dalach ac yn fwy trwchus, a dim ond bob tair blynedd maen nhw’n cael eu tocio. Rydw i hefyd wedi plannu llawer o goed a gwrychoedd dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi creu pwll mawr.
Mae angen amser adfer ar blanhigion ar ôl pori er mwyn iddyn nhw allu ffynnu. Er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd rydw i bellach yn defnyddio pori torfol, sef symud gwartheg mewn cyfnodau byr o bori dwys iawn, a phori byrnau, sy’n galluogi i dda byw fwydo ar fyrnau gwair cyfan. Rydw i wedi stopio prynu porthiant i mewn ar wahân i rywfaint o wair, ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu da byw o ansawdd uchel sy’n bwydo ar borfa.
Roeddwn i angen gwell cydbwysedd rhwng gwahanol fathau o bori, oherwydd mae defaid a buchod yn pori mewn gwahanol ffyrdd, felly llai o ddefaid a chynnydd yn nifer y gwartheg. Heb y rheolaeth gywir, bydd defaid yn bwyta popeth bron, mae gwartheg yn pori mewn ffordd lai dinistriol ac yn gyffredinol maen nhw’n well ar gyfer bioamrywiaeth. Rydw i bob amser yn gweithio i ddarganfod pa gydbwysedd sy’n addas ar gyfer fy nhir i.
Dylai polisi’r llywodraeth wobrwyo ffermydd teuluol llai sy’n ystyriol i fyd natur – mae’n wobr am wneud pethau da sydd o fudd i bob un ohonom ni. Mae angen i fanciau ac archfarchnadoedd gefnogi’r symudiad hwn hefyd gan fod bwyd maethlon ac iach yn rhan o’r ateb ar gyfer yr hinsawdd, yr amgylchedd ac iechyd pobl. Mae angen mwy o gyngor a chefnogaeth o ffermwr i ffermwr hefyd ynghylch amaethyddiaeth adfywiol er mwyn symud i ddyfodol cynaliadwy.
Mae sicrhau diogelwch bwyd yn golygu bwyta yn lleol ac yn dymhorol ac, yn sicr, does dim posib i ni gael system fwyd sefydlog pan mae byd natur yn dirywio. Rydw i’n credu y dylai ffermio sy’n gyfeillgar i natur gael ei alw yn “ffermio” ac y dylai unrhyw beth arall gael ei alw yn ffermio diwydiannol neu gemegol.’
Dod yn warcheidwad glaswelltir a helpu i adfer 10,000 o hectarau o laswelltir llawn rhywogaethau erbyn 2030. Cyfrannwch heddiw.
The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.
Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.
The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.
Robbie Blackhall-Miles
Beth sydd gan gopaon mynyddoedd Eryri a lawntiau ein gerddi ni’n gyffredin?
Mae Robbie Blackhall-Miles, arbenigwr Planhigion Fasgwlaidd Plantlife, yn esbonio sut mae pori’n gweithio i warchod ein cynefinoedd mwyaf cyfoethog ni o ran rhywogaethau.
Ym Mhrydain, amaethyddiaeth ydi’r grym cryfaf yn y cymunedau o blanhigion sydd gennym ni, ac mae da byw ffermydd yn allweddol wrth efelychu effeithiau symudiad cyson y buchesi gwyllt o anifeiliaid pori a oedd unwaith yn crwydro ein cefn gwlad. Mae llawer, os nad pob un, o’n cymunedau o blanhigion yn dibynnu ar ryw fath o bori neu dynnu llystyfiant i sicrhau eu bod yn goroesi.
Gall dealltwriaeth o bori cadwraeth, torri gwair a rheoli prysgwydd helpu ein cynefinoedd mwyaf cyfoethog o ran rhywogaethau i ffynnu.
Mae gorbori yn un o’r problemau allweddol i rywogaethau Arctig Alpaidd, er enghraifft, ond wrth gwrs, nid dyma’r unig broblem o reidrwydd. I rai, fel planhigion sy’n byw mewn glaswelltir calchaidd, gall diffyg pori fod yr un mor broblemus. Neu efallai mai’r broblem ydi nad ydi’r gymuned o blanhigion yn cael ei phori gan y math cywir o anifail? Neu nad yw’n cael ei phori ar yr amser iawn o’r flwyddyn? Neu pan fydd yn cael ei phori, does dim digon o’r anifeiliaid sydd angen i’w phori? Neu efallai gormod? Cymaint o gwestiynau!
Mae’n gwestiwn rydw i’n ei ofyn i mi fy hun yn aml, ac yn un a gododd pan wnaethom ddatblygu prosiect Tlysau Mynydd Eryri Eryri’s Mountain Jewels sy’n rhan o Natur am Byth!. Gyda 10 rhywogaeth wahanol iawn o blanhigion a 2 rywogaeth o infertebrata, rhaid i ni feddwl am sawl ffordd wahanol o sicrhau bod y rhain i gyd yn cael gofal.
Ar gyfer ein rhywogaethau llysieuol tal, fel Lliflys y Mynydd Saussurea alpina a Heboglys Eryri Hieracium snowdoniense, mae bron yn sicr bod angen i ni ystyried pori gyda gwartheg yn yr Hydref ac efallai pwl byr o bori ddechrau mis Mai.
Ar gyfer y glaswelltir calchaidd llawn Teim, gyda’i gyflenwad o effros prin (fel effros Cymreig Euphrasia cambrica), sydd mor bwysig i Chwilen Enfys Eryri Chrysolina cerealis, mae’n debyg ein bod ni angen defaid hyd at ddiwedd mis Ebrill ac wedyn dim byd tan gyfnod yn hwyr ym mis Awst neu fis Medi.
Ac ar gyfer Derig Dryas octopetala, mae’n debyg nad ydyn ni eisiau unrhyw borwyr yn agos ato tan y gaeaf. Os yw coed neu fieri yn dechrau rheoli cynefin, mae angen gyr o eifr ond os ydyn ni eisiau cael rhywfaint o brysgwydd mynyddig o Feryw a Helyg gyda pherlysiau tal o amgylch yr ymylon, ni ddylai’r geifr fynd yn agos.
Drwy gael cyfuniad o’r holl anifeiliaid pori yma yn cael eu rheoli a’u symud i’r llefydd iawn ar yr amser iawn o’r flwyddyn, gallwn yn sicr roi cynnig ar gael yr amodau’n iawn ar gyfer popeth.
Ond yr hyn sy’n ddiddorol am y cwestiwn yma ydi ei fod yn berthnasol hefyd i’n lawntiau ni. Mae #MaiDiDor yn ein hannog ni i adael ein lawntiau heb eu torri am fis cyfan. Gallwn ei ymestyn i ‘Blodau Diderfyn Mehefin’ ond erbyn hynny bydd Llygad y Dydd, Dant y Llew a blodau eraill tyweirch byr dechrau mis Mai wedi mynd ac wedi cael eu tagu gan lu o rywogaethau eraill.
Sut gallwn ni sicrhau ein bod yn plesio’r holl rywogaethau fel ein bod yn gallu plesio ein holl bryfed peillio? Wel, fe allwn ni roi cynnig da iawn arni drwy efelychu rhai o’r anifeiliaid pori hynny gyda’n peiriannau strimio a thorri lawnt.
I greu’r tapestri cywir o uchder lawnt yn yr ardd, gallwn ddefnyddio ein peiriant torri gwair i greu llwybrau drwy ein lawntiau dolydd, gan newid llif y llwybrau (ac osgoi rhai o’r planhigion arbennig efallai sydd wedi sefydlu yn y lawnt heb ei thorri) ar sail reolaidd. Nod y torri ar hap yma ydi efelychu anifeiliaid pori sy’n symud drwy’r dirwedd.
Gallwn hyd yn oed efelychu’r gwahanol fathau o anifeiliaid pori drwy ddewis uchder gwahanol i dorri’r llwybrau. Os ydych chi eisiau Llygad y Dydd eto, byddwch fel dafad a thorri’n fyr; os ydych chi eisiau i’r Bengaled a Llygad-llo Mawr ailflodeuo yn nes ymlaen yn ystod y tymor, gallwch fod yn fuwch a thorri rhai ohonyn nhw cyn iddyn nhw orffen blodeuo; os cewch chi fieri neu ddanadl poethion, ewch ati i’w torri nhw i lawr at y ddaear fel gafr.
Drwy adael rhai darnau’n dal, rhai darnau o uchder canolig a rhai darnau’n fyr byddwch yn creu brithwaith diddorol o wahanol gynefinoedd lawnt sy’n addas ar gyfer cymaint o wahanol rywogaethau â phosib. Ar ddiwedd y flwyddyn, cyn i’r glaswellt ddechrau troi’n frown a gollwng ei hadau, un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud ar gyfer eich dôl lawnt yw ei phori i lawr yn gyfan gwbl (yn union fel y byddai buches enfawr o ych gwyllt yn ei wneud wrth fudo) ac ailddechrau’r broses ar gyfer hwyl #MaiDiDor y flwyddyn nesaf.
Wrth reoli glaswelltir a phrysgwydd mynyddig ar gyfer planhigion Arctig Alpaidd prin neu lawnt #MaiDiDor, mae rheolaeth cadwraeth yn adnodd pwysig i sicrhau ein bod yn ceisio plesio’r holl rywogaethau bob amser cymaint ag y gallwn ni. Nid yw’n wyddoniaeth berffaith, fanwl gywir, ac mae’n newid o flwyddyn i flwyddyn, ac o rywogaeth i rywogaeth, ond mae’r egwyddorion yno ac, ar gyfer glaswelltiroedd, pori (neu dorri) y gwair sy’n allweddol.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.