Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Experience the wonders of nature and its rich biodiversity through our events and activities
Help us expand our nature reserve in Dorset. Donate to help us create more space for nature.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Plantlife Volunteer Story
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae dolydd bioamrywiol yn cael eu creu? Mae aelodau a gwirfoddolwyr Plantlife, Andrew a Helen Martin, yn byw ar dyddyn 5 erw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Yma maen nhw’n adrodd ‘Stori’r Ddôl’ sydd ganddyn nhw yn eu geiriau eu hunain, a sut mae eu cae bellach yn hafan i degeirianau a phlanhigion prin.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyhoedd wedi cael eu rhybuddio gan y cyfryngau i bryderu am ddirywiad mewn pryfed, yn enwedig gwenyn. Fel cyn wyddonydd ymchwil cacwn, doedd hyn ddim yn newyddion i mi oherwydd bod yr amrywiaeth o rywogaethau o gacwn wedi crebachu’n sylweddol yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Does dim llawer o amheuaeth mai newidiadau mawr mewn amaethyddiaeth yn y DU (ac felly’r rhan fwyaf o’n tirwedd ni) sy’n gyfrifol.
Yn syml iawn, does dim cymaint o flodau yng nghefn gwlad nawr ag yr oedd (am dros 1,000 o flynyddoedd) Felly, i ni, roedd bob amser yn uchelgais cael ychydig bach o gefn gwlad ein hunain y gallem ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth, ac ar ôl i mi ymddeol yn gynnar, a Helen yn colli ei swydd, fe wnaethon ni symud ar ein hunion i gefn gwlad Cymru yn 2012.
Roedd ein caeau ni wedi bod yn cael eu pori gan ddefaid am gyhyd ag y gallai unrhyw un yn lleol gofio, ac fe wnaethon ni benderfynu rheoli un o’n rhai ni fel dôl wair. Mae ymchwil wedi dangos bod amrywiaeth y planhigion mewn dôl newydd yn cynyddu’n gyflymach os byddwch yn cyflwyno’r Gribell Felen, sy’n rhannol barasitig ar laswelltau ac yn atal eu tyfiant. Felly, yn 2013, fe wnaethon ni gasglu hadau’r Gribell Felen o gae cymydog tua milltir i ffwrdd a’u hau yn y cae. Fe ddechreuon ni wahardd y defaid bob blwyddyn o ddiwedd mis Mawrth ac erbyn mis Ebrill 2014 roedd y Gribell Felen yn tyfu’n dda.
Yng nghanol mis Mehefin 2014 cawsom y ffermwr cyfagos i dorri a belio’r cae, ond penderfynwyd y byddai’n well yn y dyfodol dewis pryd i dorri ac felly cawsom dractor o 1963 a rhywfaint o offer belio gwair ar raddfa fechan.
Ar gyfer amrywiaeth o flodau, y prif beth yw sicrhau bod yr holl laswellt sy’n cael ei dorri’n cael ei symud o’r cae i leihau ffrwythlondeb y pridd; a’r ffordd hawsaf i wneud hyn yw drwy dorri a belio’r gwair. Mae’r cyfan rydyn ni’n ei gynhyrchu’n cael ei werthu i’r ffermwr y mae ei ddefaid yn dychwelyd ar ôl torri’r gwair pan fydd y glaswellt yn aildyfu.
Pa rywogaethau ymddangosodd?
Bob blwyddyn, mae goruchafiaeth gwahanol rywogaethau’n cynyddu ac yn lleihau fel y dywedodd y cofnodwr planhigion sirol fyddai’n digwydd. Ymddangosodd Effros ar ôl ychydig o flynyddoedd, fel y gwnaeth Carwy Droellennog (y Blodyn Sirol), a’r Melynydd.
Mae’n debyg bod rhai planhigion (fel y Blodyn Menyn) yno’n barod, ond byth yn blodeuo oherwydd bod y defaid yn eu bwyta. Ymddangosodd y Galdrist Lydanddail yn 2016, ac yn 2017, un Tegeirian-y-Gors Deheuol. Dilynodd y Tegeirian Brych a Thegeirian Brych y Rhos (gyda hybridau rhyngddynt), a bob blwyddyn mae niferoedd y tegeirianau wedi cynyddu, roedd hyd at 50 ychydig flynyddoedd yn ôl ac ymhell dros 100 erbyn hyn.
Mae’r cae yn edrych yn wahanol wrth i wahanol blanhigion flodeuo ar ôl ei gilydd, ond mae hyd yn oed yn edrych yn wahanol ar yr un diwrnod yn y bore ac yn y prynhawn oherwydd bod blodau’r Melynydd yn cau tua amser cinio, felly mae’r cae yn llawer melynach yn y bore.
Yn y bore
Yn y prynhawn
Mae Plantlife wedi gwneud gwaith gwerthfawr tuag at gyrraedd y nod hwnnw (yn enwedig gyda’r ymgyrch “Gweirgloddiau Gwych” yn ddiweddar). Mae Grwpiau Dolydd Sirol yn gwneud eu rhan hefyd i helpu perchnogion tir bach i gael canlyniadau fel y cae yma, ac yn y grŵp rydw i’n ei gadeirio (Sir Gaerfyrddin), rydyn ni hefyd yn ceisio codi proffil glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn gyffredinol gyda’r “Big Meadow Search” (www.bigmeadowsearch.co.uk) ledled y DU gyfan.
Does dim llawer o bobl ar ôl sy’n cofio pan oedd dôl wair ar bob fferm, ond gobeithio y gallwn ni lwyddo i ddod â rhai yn ôl.
Become a grassland guardian and help restore 10,000 hectares of species-rich grassland by 2030. Donate today.
The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.
Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.
The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.
Lizzie Wilberforce
Mae’r gwanwyn yn amser cyffrous i fod yn ein gwarchodfeydd natur ni. Mis Mai ac Mehefin ydi’r mis pan fydd y dolydd yn ffrwydro yn llawn bywyd, gyda thyfiant toreithiog a blodau tymhorol.
Cae Blaen-dyffryn yw ein gwarchodfa natur ni yn ne Cymru a gellir ei chanfod yn agos at dref Llanbedr Pont Steffan, yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei phoblogaeth o’r Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf a Lleiaf (Platanthera chlorantha & P. bifolia) sy’n blodeuo pan mae’r haf yn ei anterth.
Fodd bynnag, mae ymweliad yn y gwanwyn bob amser yn werth chweil. Mae tyfiant ffres, ir y glaswelltir yn cael ei fwydo gan haul cynnes a glaw toreithiog. Mae’r gog yn galw o fryniau pell. Yn y warchodfa, mae Corhedydd y Waun yn syrthio o’r awyr uwch eich pen gyda’i gân yn rhaeadru, ac mae Clochdar y Cerrig yn galw’n glir o’r prysgwydd.
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r rhywogaethau o blanhigion sy’n blodeuo gynharaf yn torri trwodd yng Nghae Blaen-dyffryn ym mis Mai. Os edrychwch chi’n ofalus, gallwch hefyd ddod o hyd i arwyddion hardd eraill, fel dail pluog y Carwy Droellennog Carum verticillatum (‘Blodyn Sirol’ Sir Gaerfyrddin) yn procio drwodd.
Ym mis Mai, mae’r rhai mwyaf niferus yn cynnwys y Melog y Cŵn pinc (yn y llun) Pedicularis sylvatica, y Glesyn y Cŵn porffor Ajuga reptans, a’r Tresgl y Moch melyn Potentilla erecta, felly mae’r warchodfa eisoes yn enfys o liw.
Mae llwyni gwasgaredig o Fanadl (yn y llun) Cytisus scoparius ac Eithin Ulex europaeus yn eu côt felen lawn o flodau tymhorol hefyd. Cyn gynted ag y bydd yr haul yn eu taro, maen nhw’n fwrlwm o bryfed peillio mewn dim o dro.
Gellir dod o hyd i ddail brith tegeirianau Dactylorhiza (yn y llun) hefyd yn sbecian rhwng y clytiau toreithiog o’r Bengaled Centaurea nigra a’r Melynydd Hypochaeris radicata.
Mae ein gwarchodfa natur ni yng Ngogledd Cymru, ar lethr bryn uwchben Clynnog-Fawr ar Benrhyn Llŷn, yr un mor adnabyddus am ei phoblogaeth o Degeirianau Llydanwyrdd Mwyaf sydd yn eu miloedd ar y safle.
Mae’r dolydd o dan fwlch y mynydd yn wynebu tua’r gogledd ddwyrain, gan eu gwneud yn llecyn boreol i ymweld ag ef os ydych chi’n dymuno eu mwynhau yn yr heulwen yr adeg yma o’r flwyddyn. Maen nhw yr un mor brydferth yng nglaw Gogledd Cymru, fodd bynnag.
Mae’r cloddiau (waliau o bridd a cherrig) rhwng y caeau yn werth eu gweld fel y dolydd, gyda’u pennau o Griafol, Eirian Sbaen, Drain Gwynion a Drain Duon. Os edrychwch chi o dan y coed, mae’r Fioled Gyffredin Viola riviniana yn cuddio ymhlith gwreiddiau’r coed a’r meini mawr.
Mae’r tegeirianau eisoes i’w gweld ar y ddôl ac mae’r Gribell Felen Rhinanthus minor yn dechrau blodeuo.
Mae ambell Lygad Ebrill (yn y llun) Ficaria verna yn dal eu tir ond mae blodau melyn a chlociau gwyn y Dant y Llew Taraxacum spp yn cyferbynnu’n hyfryd â glas Clychau’r Gog Hyacinthus non-scripta, sy’n cyferbynnu wedyn â dail pluog y Cnau Daear Conopodium majus.
Mae’r Hesgen Gynnar Carex caryophyllea yn gyforiog ar y safle ond os edrychwch chi’n ofalus iawn rhyngddi a’r rhywogaethau amlycach, fe welwch chi ddail a blodau gwyrdd serennog bach y Fantell Fair Ganolig (yn y llun) Alchemilla xanthochlora a’r Fantell Fair Lefn Alchemilla glabra. Os byddwch chi’n ymweld yn y bore ar ddiwrnod gwlithog o wanwyn, byddwch yn siŵr o weld y planhigion yma’n driw iawn i’w henw arall, sef ‘Cwpan y Gwlith’.
Mae rhywbeth hyfryd iawn am yr ymdeimlad o addewid a geir o laswelltiroedd llawn blodau yr adeg yma o’r flwyddyn. A theimlad na allwch chi aros i ddod yn ôl i weld beth ddewch chi ddod o hyd iddo y tro nesaf.
Mae Caeau Tan y Bwlch yn cael eu rheoli ar ran Plantlife gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
I gael mwy o fanylion am ymweld â’n gwarchodfeydd natur ni yng Nghymru yn y gwanwyn a thrwy gydol y flwyddyn, ewch i’n tudalen gwarchodfeydd ni yma Gwarchodfeydd Natur Cymru – Plantlife
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.