Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
This autumn, help us find the Britain’s most colourful and important fungi – waxcaps.
Plantlife’s Big Give Christmas Challenge 28 Nov- 5 Dec, make a positive impact in protecting remarkable lichens.
Go the extra mile and run wild for Plantlife
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Nid yw glaswelltiroedd, fel dolydd a pharciau, yn gartref i flodau gwyllt yn unig, maent hefyd yn gynefin pwysig ar gyfer math lliwgar o ffyngau sy’n ffafrio tir fferm yn hytrach na fforestydd – capiau cwyr.
Bob hydref mae un o arddangosfeydd naturiol mwyaf lliwgar y DU i’w gweld: mae capiau cwyr lliwiau gemau’n ymddangos drwy’r glaswellt ar draws ein cefn gwlad a’n dinasoedd ni, a hyd yn oed rhai o’n gerddi. Beth am i ni ddod o hyd iddyn nhw!
Mae capiau cwyr yn fathau o fadarch sy’n adnabyddus am eu capiau sgleiniog yr olwg. Ochr yn ochr â mathau eraill o ffyngau gydag enwau rhyfeddol a diddorol, fel tagellau pinc, tafodau daear, ffyngau clwb a chwrel – maen nhw’n ffurfio teulu o’r enw “ffyngau’r glaswelltir capiau cwyr”.
Mae ffyngau’r glaswelltir capiau cwyr i’w gweld mewn enfys o liwiau gwahanol gan gynnwys fioledau, melyn, gwyrdd a phinc llachar.
Maen nhw hefyd yn dod mewn siapiau rhyfedd a rhyfeddol, a all eich helpu chi i adnabod y rhywogaeth rydych chi’n edrych arni.
Chris Jones yw Warden Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, un o’n safleoedd Twyni Deinamig ni, ac mae wedi gweithio fel cadwraethwr ymarferol ers dros 25 mlynedd.
Cynffig yw un o systemau twyni tywod mwyaf Cymru ac mae’n darparu cynefin unigryw ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau prin ac arbenigol, gan gynnwys mwy nag 20 rhywogaeth o ffyngau Capiau Cwyr.
‘Mae ffyngau capiau cwyr i’w gweld yn gyffredin mewn glaswelltiroedd a dolydd, ac maen nhw’n adnabyddus am eu pwysigrwydd ecolegol. Maen nhw i’w gweld yn aml mewn ardaloedd lle mae llystyfiant byr, wedi’i bori, ond gallant hefyd fod mewn cynefinoedd lle mae tarfu’n digwydd, fel lawntiau ac ar hyd ymylon ffyrdd.
Mae capiau cwyr i’w gweld yn bennaf ddiwedd yr haf a’r hydref, fel arfer o fis Medi i fis Tachwedd, yn dibynnu ar y tywydd lleol – ond gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r dolydd lle mae capiau cwyr i’w gweld yn cael eu hadnabod fel ‘glaswelltiroedd capiau cwyr’. Mae angen amodau penodol ar y glaswelltiroedd hyn er mwyn i gapiau cwyr ffynnu ac maent yn mynd yn brin.
Ar laswelltiroedd capiau cwyr, mae ffyngau capiau cwyr yn ffurfio partneriaethau gyda phlanhigion, lle maent yn cyfnewid maethynnau â gwreiddiau’r planhigion cynnal, gan fod o fudd i’r ffyngau a’r planhigion. Dim ond mewn cynefinoedd sydd â lefel uchel o fioamrywiaeth mae hyn yn digwydd, ac mae yn ceisio adnabod y rhain.
Mae ffyngau capiau cwyr yn hynod ddiddorol, nid yn unig oherwydd eu lliwiau llachar, ond hefyd oherwydd eu harwyddocâd fel dangosyddion glaswelltiroedd iach. Mae eu cadwraeth yn bwysig ar gyfer cynnal bioamrywiaeth a chadw’r ffyngau unigryw a hardd yma er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Mae llawer o rywogaethau o gapiau cwyr yn cael eu hystyried yn brin neu dan fygythiad, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd a newidiadau mewn arferion rheoli tir fel plannu coed ac amaethu dwys. Os dewch chi o hyd i rai, cofnodwch nhw ar yr ap Waxcap Watch.
Rydw i’n CARU Capiau Cwyr, maen nhw’n ANHYGOEL! Mae’n chwerthinllyd o anodd dewis ffefryn, ond pe bai’n rhaid i mi ddewis byddai’n… bob un ohonyn nhw.’
Yr hydref yma, helpwch Plantlife i ddod o hyd i ffyngau pwysicaf a mwyaf lliwgar Prydain – capiau cwyr.
Yn 2022 wynebodd Lizzie Wilberforce yr her o geisio dysgu adnabod rhai o rywogaethau mwyaf cyffredin Prydain o fwsoglau a llysiau’r afu, ger ei chartref yng ngorllewin llaith a mwsoglyd Cymru.
Grasslands like meadows and parks are not just home to wildflowers, they are also an important habitat for waxcap fungi.
Ever wondered why we need to go out and count rare plants? Meg Griffiths reflects on a summer of lichen hunting for the Natur am Byth! Project.
Daeth Chris Jones, Warden Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, o hyd i’r ffwng prin iawn yn ddiweddar, qyn ystod arolwg arferol.
Chris Jones yw warden GNG Cynffig. Mae hefyd yn gofnodwr ffyngau angerddol. Yn 2022 gwnaeth ddarganfyddiad pwysig… Cap Cwyr Gwinau, Hygrocybe spadicea! “Arlliw hyfryd o frown gyda thagellau melyn a dim ond unwaith mewn 20 mlynedd o chwilio am gapiau cwyr ydw i wedi ei weld e, roedd wir yn ddiwrnod lwcus!”
Dyma Chris i ddisgrifio sut daeth o hyd i’r darganfyddiad:
“Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn lle hudolus i mi. Mae’n 1339 o erwau o ryfeddodau a harddwch twyni tywod, ac ar rai dyddiau mae rhywogaeth newydd yn sypreis rownd y gornel.”
“Mae gen i obsesiwn gyda ffyngau, rydw i wrth fy modd â’r holl ddanteithion mycolegol ond fy ffefrynnau i o bell ffordd yw’r ffyngau glaswelltir lliwgar, y capiau cwyr. Mae tua 23 yn galw Cynffig yn gartref iddyn nhw.”
“Fe ddaethon ni o hyd i’r Cap Cwyr Gwinau ar y diwrnod y penderfynodd y gwirfoddolwyr wneud arolwg o Gap Cwyr y Twyni Hygrocybe conicoides ar y twyni blaen – mae’r cap cwyr yma’n eithaf cyffredin mewn twyni tywod. Mae’n amrywiol iawn ei liw, o goch dwfn i orennau a melyn. Wrth i ni siarad a cherdded, o gornel fy llygad, fe wnes i ei weld e! Lliw digamsyniol y Cap Cwyr Gwinau.”
Mae capiau cwyr yn cael eu henw oddi wrth eu capiau sgleiniog, cwyraidd ac yn aml, lliwgar. Gallant edrych fel smotiau o gwyr coch, oren, gwyrdd neu felyn yn y tyweirch. Yma yng Nghymru, mae gennym ni rai rhywogaethau prydferth fel y Cap Cwyr Pinc neu Falerina Porpolomopsis calyptriformis, a’r Cap Cwyr Coch Hygrocybe coccinea. Mewn gwirionedd, er gwaethaf ein maint bach, mae Cymru yn gartref i fwy na hanner y rhywogaethau o gapiau cwyr a geir ym Mhrydain.
A ninnau’n wlad o laswellt, yma yng Nghymru rydyn ni’n gweld porfeydd parhaol a thir pori garw o’n cwmpas ni ym mhob man. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu rheoli’n ddwys ar gyfer defaid a gwartheg. Fodd bynnag, gall glaswelltir sy’n cael ei ffermio’n llai dwys gynnig cynefin pwysig iawn i ffyngau’r glaswelltir. Mae hyn yn cynnwys capiau cwyr, ond hefyd grwpiau pwysig eraill. Mae’n rhaid mai un o’r enghreifftiau mwyaf trawiadol yw’r Cwrel Fioled Clavaria zollingeri.
Cwrel Fioled. Trevor Dines – Plantlife.
Nid dim ond ein glaswelltiroedd fferm ni sy’n dda i ffyngau, chwaith. Fe all cynefinoedd eraill fel hen lawntiau, mynwentydd a glaswelltir mewn parciau a gerddi fod yn hynod o bwysig. Ac wrth gwrs, glaswelltiroedd twyni tywod hefyd, yn union fel Cynffig. Y cyfan sydd angen ei wneud yw eu rheoli’n sensitif.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o ffyngau’r glaswelltir yn prinhau ac o dan fygythiad. Dydyn nhw ddim wedi’u cofnodi’n ddigonol, felly gall eu cynefin gael ei ddinistrio oherwydd diffyg gwybodaeth. Mae capiau cwyr hefyd yn sensitif iawn i newidiadau yn eu hamgylchedd. Dydi rhai ddim yn gallu goddef yr aredig, yr ailhadu a’r gwrteithio rheolaidd ar ffermydd dwys. O ganlyniad, mae rhai rhywogaethau, fel y Cap Cwyr Gwinau Hygrocybe spadicea yn brin iawn erbyn hyn.
Rydyn ni’n dal i ddysgu am y ffyngau hardd yma. Does gennym ni ddim digon o arbenigwyr ffyngau (mycolegwyr) yng Nghymru. Mae gennym ni hefyd lawer o gwestiynau heb eu hateb am eu dosbarthiad, eu hecoleg a’u hanghenion cadwraeth.
Fodd bynnag, mae gennym ni hefyd rai llefydd anhygoel ar gyfer bywyd gwyllt, llefydd rydyn ni eisoes yn gwybod eu bod yn bwysig i ffyngau’r glaswelltir. Mae GNG Cynffig yn un o’r rhain. Mae Cynffig yn Ardal Planhigion Bwysig (IPA) ac mae Plantlife wedi bod yn ymwneud â’i rheolaeth ers blynyddoedd lawer. Yn fwyaf diweddar mae hyn wedi bod drwy ein prosiect Cysylltiadau Gwyrdd ni ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cap Cwyr y Parot Gliophorus psittacinus – Lucia Chmurova-Plantlife
Mae glaswelltiroedd capiau cwyr yn rhan bwysig o waith Plantlife Cymru. Rydyn ni’n ceisio deall mwy am eu dosbarthiad a’u rheolaeth. Hoffem hefyd eu gweld yn cael eu hamddiffyn yn well rhag difrod damweiniol a bwriadol.
Hoffech chi gymryd rhan mewn cofnodi capiau cwyr? Fe allwch chi lawrlwytho ap arolygu safle sy’n ein helpu ni i ddod o hyd i lefydd newydd, pwysig ar gyfer ffyngau’r glaswelltir. Does dim angen i chi allu adnabod rhywogaethau – dim ond eu lliwiau!
Lawrlwythwch ap Survey123 am ddim ar eich ffôn clyfar neu dabled:
Google Play (Android)
Apple Store (iOS)
Defnyddiwch y ddolen yma ar eich dyfais glyfar: https://arcg.is/PLT5X
Dewiswch ‘Open in the Survey123 field app’ ac wedyn ‘Continue without signing in’. Bydd neges yn ymddangos yn gofyn am fynediad i gamera a storfa eich ffôn – cliciwch Yes / Allow
Rydych chi’n barod i fynd!
Os oes gennych chi ymholiadau am gapiau cwyr yng Nghymru, gallwch gysylltu â ni ar cymru@plantlife.org.uk
Oeddech chi’n gwybod bod 90% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio?
Mae Cymru yn gartref i fwy na hanner y nifer o rywogaethau o gapiau cwyr a geir ym Mhrydain.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn Ardal Planhigion Bwysig (IPA) – mae Plantlife wedi bod yn bartner wrth reoli Cynffig.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.