Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Fungi are crucial to nearly all life on Earth, but they are not given the recognition they deserve. Will you join our mission to change that?
Fungi are crucial to nearly all life on Earth, but they are not given the recognition and investment they deserve. Will you join our mission to change that?
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Nid dim ond coed sy’n dal ac yn storio carbon – fe all ein dolydd a’n glaswelltiroedd ni chwarae rhan bwysig hefyd.
Os ydych chi’n cymryd rhan ym Mai Di Dor eleni, bydd eich gardd ar ei ffordd i ddod yn hafan hardd a bioamrywiol i natur. Ond mae bonws i’w gael o helpu’r blodau gwyllt i dyfu – wrth i chi adael i lawnt ddod yn ddôl, daw eich gardd yn storfa garbon i chi’ch hun, gan helpu i leihau eich ôl troed carbon.
Pan fydd pobl yn sôn am ddal a storio carbon, mae’r rhan fwyaf yn meddwl am goed. Fel cymdeithas rydyn ni’n fwy ymwybodol nag erioed o’r blaen o rôl coetiroedd wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd a chreu gofod ar gyfer byd natur. Mae llawer llai o drafod ar y rôl hynod a’r un mor hanfodol y gall ein glaswelltiroedd a’n dolydd ni ei chwarae wrth gynyddu bioamrywiaeth a dal a storio carbon o’r atmosffer.
Pan fyddwn ni’n creu glaswelltiroedd a dolydd iach drwy dorri’r glaswellt neu gael da byw i bori, rydyn ni’n syml yn efelychu gweithgarwch y gyrroedd o lysysyddion gwyllt mawr a arferai symud ar draws ein bryniau a’n dyffrynnoedd. Mae’r cynefinoedd yma – os yw’r pori’n ysgafn, yn anaml ac ar ddwysedd isel – yn ail-greu tirweddau cynhanesyddol ac yn darparu cartref i’n planhigion gwyllt ni, trychfilod, adar a ffyngau. Mae glaswelltiroedd naturiol a lled-naturiol (sy’n golygu’r rhai sy’n cael eu ffermio ond mewn ffordd draddodiadol, llai dwys) yn gwella ansawdd ein dŵr, yn atal llifogydd ac yn helpu i gynyddu gwydnwch ffermio i sychder yr haf.
Mae gan y glaswelltir yma – a’r pridd iach oddi tano – botensial anhygoel ac anhysbys hefyd i gloi carbon atmosfferig. Mae carbon pridd yn storfa arbennig o werthfawr; mae’n llawer mwy sefydlog a pharhaol na’r carbon mewn coed, sy’n agored i niwed o danau coedwig, plâu a chlefydau.
Wrth i blanhigion fyw a thyfu, mae carbon o’r atmosffer yn cael ei dynnu i lawr i wreiddiau’r planhigion, lle mae’r myrdd o greaduriaid yn y pridd yn ei ddefnyddio, gan ei gloi i ffwrdd o dan y ddaear. Wrth i amrywiaeth y planhigion ar yr wyneb gynyddu, felly hefyd yr amrywiaeth o ficro-organebau, ffyngau ac infertebrata oddi tanodd. Po fwyaf amrywiol yw bywyd y pridd, y cyfoethocaf yw’r ecosystem gyfan – a’r mwyaf o garbon y gall y pridd ei storio.
Mae rôl bron yn gyfriniol y ffyngau mycorhisol yn gyfarwydd bellach. Maen nhw’n cysylltu gwreiddiau â’r maethynnau yn y pridd, gan fasnachu siwgrau y mae planhigion a choed yn eu creu o olau’r haul gyda mwynau wedi’u cloi i ffwrdd y mae ffyngau’n eu tynnu o’r pridd. Rydyn ni’n gwybod bellach y gall planhigion a choed gyfathrebu drwy’r rhwydweithiau ffyngaidd yma, gan eu hysbysu am blâu a chlefydau a throsglwyddo maethynnau i eraill sydd mewn angen.
Mae gan ffyngau mycorhisol rôl bwysig arall – maen nhw’n hollbwysig yng ngallu planhigion i drosglwyddo carbon i’r pridd. Mewn ardaloedd o dir fferm, dolydd a gerddi lle mae’r pridd yn cael ei aredig, ei wrteithio neu ei reoli gan nifer bach o rywogaethau glaswellt, mae’r rhwydweithiau mycorhisol yma’n llawer llai effeithiol – gyda llai o rywogaethau a photensial storio carbon is. Pan fyddwn yn gofalu am ein tir fferm a’n gerddi yn ofalus, gan dorri a phori’n anaml ac yn ysgafn, ac osgoi aredig a phlaladdwyr, rydym yn meithrin ein ffyngau mycorhisol, gan helpu’r pridd i ddod yn storfa garbon fwy grymus.
Drwy gymryd rhan ym Mai Di Dor, byddwch nid yn unig yn dechrau creu cartref i flodau gwyllt a phryfed, ond byddwch hefyd yn creu priddoedd iachach sy’n rhoi maeth i blanhigion eich gardd – ac yn lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
Mae gan Loegr yn unig tua 640,000 hectar o erddi preifat. Pe bai dim ond chwarter yr ardal yma’n cael ei thrawsnewid yn ddôl llawn blodau gwyllt – drwy dorri dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn a chasglu’r toriadau – gallai’r priddoedd gardd yma ddal a storio swm ychwanegol o garbon sy’n cyfateb i fwy na 3 miliwn o allyriadau ceir blynyddol arferol o fewn dyfnder rhaw, ac ymhell dros 10 miliwn o geir mewn priddoedd mor ddwfn ag un metr*.
Un rhan yn unig o’r pos yw lawntiau a gerddi wrth gwrs – mae tirwedd glaswelltir amaethyddol y DU yn cynnig potensial aruthrol i ni ddal a storio carbon, a hefyd gwarchod amaethyddiaeth a bioamrywiaeth.
Mae gan ffermwyr a pherchnogion tir rôl sylfaenol i’w chwarae – gan gyfuno cynhyrchiant bwyd â glaswelltiroedd cynaliadwy sy’n cloi carbon mewn priddoedd iach, ecolegol gyfoethog. Mae tua 40% o arwynebedd tir y DU yn laswelltir – ond mae llawer o hwn yn cael ei ffermio’n ddwys, gan gyfyngu ar ei botensial ar gyfer storio carbon.
Yn fyd-eang, mae astudiaethau wedi awgrymu y gallai 2.3 i 7.3 biliwn o dunelli cyfwerth â CO2 y flwyddyn gael eu dal a’u storio drwy adfer amrywiaeth glaswelltiroedd.
Nid yw dal a storio carbon yn golygu mwy o goed yn unig. Mae glaswelltir iach, gyda phori mwy sensitif a’r ffermio llai dwys sy’n ei feithrin, hefyd yn cadw carbon allan o’r atmosffer.
Dim ots pa mor fawr neu fach yw ein gardd ni, mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, a gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth. Mae’n hawdd dechrau arni – rhowch eich peiriant torri glaswellt i gadw yn ystod mis Mai eleni!
Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.
Plantlife's Road Verges Advisor Mark Schofield reveals how to keep your thriving No Mow May flowering lawn blossoming into June.
Mark Schofield
Llongyfarchiadau – rydym wedi cyrraedd diwedd Mai Di-dor! Ar ran eich blodau gwyllt a’ch peillwyr, diolch am dorri’r confensiwn ac am ail-ddychmygu eich lawntiau a’ch mannau gwyrdd lleol.
Ond does dim rhaid i’r cyffro stopio yno… beth am adael man yn eich gardd i natur barhau i flodeuo ym mis Mehefin? O wahanol hydoedd glaswellt, sut i gadw llygad am fywyd gwyllt a sut i dorri gwair (os ydych chi eisiau) – dilynwch ein cyngor arbenigol i adeiladu ar lwyddiant #Mai Di-dor.
Drwy beidio â thorri gwair ym mis Mai rydych wedi ailgynnau eich blodau gwyllt ac wedi rhoi achubiaeth y mae mawr ei hangen i’ch peillwyr. Gobeithio y gallwch chi eisoes weld y gwahaniaeth rydych chi wedi’i wneud a’ch bod yn falch gyda’r canlyniadau (rydym ninnau yn sicr felly!).
Nawr bod y tymor twf yn symud i fis Mehefin, does dim rhaid i bethau fynd yn flêr neu ordyfu a gallwch barhau i gadw man ar gyfer eich bywyd gwyllt lleol. Os ydych chi’n meddwl tybed beth i’w wneud neu’n poeni nad yw’ch peiriant torri gwair yn gallu ymdopi – mae gennym ni rai syniadau am sut y gallwch chi adeiladu ar eich llwyddiant tra’n cadw pethau dan reolaeth! Ond yn bwysig, mae eich lawnt neu fan agored yn gynfas i chi a chi sy’n dal y brwsh paent.
Mae gennych chi gyfle nawr i ddylunio eich tirwedd blodau gwyllt. Mae bywyd gwyllt glaswelltir yn dod mewn gwahanol flasau a gallech chi ymgorffori’r gwahanol elfennau hyn yn eich cynllun.
Efallai y bydd angen i chi gadw eich llwybrau a’ch ardaloedd hamdden wedi’u torri’n fyr ond efallai y gallech chi fframio’r ardaloedd swyddogaethol yma gyda lawnt sy’n blodeuo a’i thorri unwaith bob 4 i 8 wythnos. Mae hyn yn caniatáu i flodau gwyllt cyffredin, sy’n tyfu’n isel, aildyfu ac ailflodeuo drwy gydol yr haf tra byddwch chi’n cadw uchder byrrach, taclusach. Dychmygwch garped o feillion coch a gwyn, meillion euraidd, pyllau o’r feddyges las ac ewyn gwyn y milddail. Fe welwch chi, hyd yn oed yn ystod y sychder mwyaf ffyrnig, y bydd y blodau gwyllt yn aros yn wyrdd ac yn dal ati i flodeuo a’r glaswelltau’n troi’n frown ac yn mynd i gysgu.
Os ydych chi’n teimlo’n fwy beiddgar, efallai y byddwch chi eisiau treialu gadael rhywfaint o’ch gofod agored heb ei dorri am gyfnod hirach. Drwy dorri gwair ddwywaith y flwyddyn y tu allan i fis Ebrill i fis Gorffennaf, fe allech chi geisio ail-greu effaith dôl wair draddodiadol. Mae hyn yn caniatáu i flodau sy’n tyfu’n dalach fel y gludlys coch, y bengaled borffor a’r clafrllys rhuddgoch addurno’ch gofod gyda throellennau mwy deinamig o liwiau wedi’u hanimeiddio gan awel yr haf. Fe allwch chi ddarlunio’r darn yma o laswelltir fel border bythol, llysieuol, nad oes angen ei chwynnu, ei fwydo na’i ddyfrio byth. Mae’n rhoi mwy o werth i fywyd gwyllt oherwydd pan gaiff ei adael heb i neb darfu arno am gyfnod hirach, fe all y blodau gwyllt a’r glaswelltir gynnal cylch bywyd yr infertebrata hynny sy’n dibynnu arnyn nhw.
Efallai y bydd y rhai mwyaf anturus yn eich plith chi eisiau mynd â hyn i’r cam nesaf o amgylch ffin eich plot. Ni fydd glaswelltir sy’n cael ei adael heb ei dorri’n cynnal cymaint o flodau gwyllt ond bydd yn darparu noddfa hanfodol i fywyd gwyllt yn ystod hafau poeth a gaeafau oer. Bydd twmpathau o laswellt a pherlysiau tal yn datblygu, ac mae’r strwythur yma’n ffordd wych o ddarparu hafan arall i fywyd gwyllt sy’n ategu’r ardaloedd mwy cyfoethog o flodau. Dim ond ychydig droedfeddi o led sydd angen i’r lleiniau lloches yma fod ym môn eich gwrych chi, a dim ond ychydig o waith rheoli sydd ei angen arnyn nhw os byddwch chi’n torri’r egin coediog neu pan fydd y mieri’n mynd yn ormod. Byddwch yn darparu amddiffyniad hanfodol i lyffantod a llygod pengrwn a bydd pennau’r hadau’n gweithredu fel bwyd adar naturiol ar gyfer pincod sy’n ymweld.
Leaving borders to grow supports a wealth of wildflower and wildlife
By the end of No Mow May, your garden lawn may also look like this!
Creating a patchwork of lawn lengths in your garden can support a range of wildflowers
Some of the tools Mark uses in June to manage his lawn
Os ydi eich tyfiant glaswelltog wedi mynd yn ormod i chi, peidiwch â chynhyrfu. Dydi pob peiriant torri gwair ddim yn gallu ymdopi â llystyfiant tal ond fe all y rhan fwyaf ohonyn nhw os byddwch chi’n torri mewn dau gam.
I ddechrau, gosodwch y llafnau mor uchel â phosibl ac wedyn torri stribedi dim ond hanner mor llydan â’r peiriant torri gwair. Bydd hyn yn lleihau’r baich ar injan y peiriant torri gwair ac yn gwneud y gwaith yn haws. Wedyn fe allwch chi dorri eto, yn normal, gyda’r llafnau wedi’u gosod yn is i orffen y gwaith.
Fel arall, os oes gennych chi un, gall peiriant strimio fod yn ffordd well o fynd i’r afael â gwyndwn talach.
Cofiwch, mae’n bwysig iawn casglu neu gribinio’r gwair rydych chi wedi’i dorri ar ôl torri. Bydd hyn yn atal y gwair sydd wedi’i dorri rhag cronni, sy’n gallu rhwystro aildyfiant blodau gwyllt. Heb unrhyw wair wedi’i dorri i bydru’n ôl i’r pridd, bydd hefyd yn helpu i leihau ffrwythlondeb y pridd. Mae mwy o ffrwythlondeb yn rhoi mantais i’ch glaswellt dros eich blodau. Mae hyn yn cynhyrchu lawnt werdd ir, ond bydd yn llawer llai lliwgar ac yn llawer llai gwerthfawr i fywyd gwyllt.
Os yw casglu neu gribinio’r gwair wedi’i dorri yn ymddangos fel mwy o waith, cofiwch eich bod mewn gwirionedd yn arbed ymdrech drwy reoli rhai parthau yn llai aml. Mae hyn yn golygu nad oes raid i chi dorri pob man ar unwaith bob tro. Mewn gwirionedd, drwy gael gwared ar y gwair wedi’i dorri bob tro y byddwch chi’n torri, bydd y ffrwythlondeb yn lleihau bob blwyddyn, gan olygu y bydd yr aildyfiant yn llai a llai bob blwyddyn. Mae hynny’n golygu na fydd angen i chi dorri mor aml yn y dyfodol, felly fe allwch chi arbed yr ymdrech i chi’ch hun, lleihau eich ôl troed carbon a mwynhau’r bywyd gwyllt! Hefyd mae lawntiau gwylltach yn dal ac yn cloi mwy o garbon yn y pridd, felly byddwch chi’n gwneud eich rhan dros yr hinsawdd hefyd.
Fe allwch chi ddefnyddio’r gwair wedi’i dorri fel tomwellt ar gyfer eich gwelyau llysiau i atal chwyn, cadw lleithder yn y pridd ac i ychwanegu ffrwythlondeb lle rydych chi ei eisiau. Mae compostio hefyd yn ffordd wych o ailgylchu eich gwair wedi’i dorri gydag elfennau organig eraill i bridd y gallwch ei ddefnyddio y tymor nesaf.
Felly, eich lawnt neu eich man agored chi yw eich canfas, a chi sy’n dal y brwsh paent. Fe allwch chi aildanio blodau gwyllt o’r rhai sydd eisoes yn bresennol a’r hadau sydd wedi aros yn naturiol yn y pridd, yn cysgu. Efallai y byddwch chi hefyd yn ystyried cyflwyno rhai hadau blodau gwyllt bythol brodorol, neu blanhigion blodau gwyllt bythol brodorol, yr hydref yma. Bydd gennym fwy o gyngor ar hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Sut bynnag y byddwch chi’n dewis mwynhau eich ardal newydd o fywyd gwyllt, dymunwn bob llwyddiant i chi. Nawr eich bod chi wedi ychwanegu ychydig mwy o liw at y byd, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael eich gwobrwyo gyda hisian ceiliogod rhedyn, hyfrydwch cân yr adar a gofod sy’n dawnsio gyda glöynnod byw yn gwibio ac yn fwrlwm o suo pryfed peillio.
By letting us know if you or your community space is taking part, you’ll be added to our map showcasing the collective power that this campaign has.Now sit back and watch the wildflowers grow…
The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.
We can’t wait to see your blooming wonderful communities this No Mow May!
Meg Griffiths
Mae Calan Mai, dathliad Cymreig yr haf ar Fai 1af, yn adfywio pwysigrwydd byw yn dymhorol ac yn ein hatgoffa ni bod ein bywydau ni bob amser wedi bod yn gysylltiedig â chylch blynyddol helaethrwydd planhigion
Yn Plantlife, mae bwrlwm o weithgarwch ar y gweill wrth i 1af Mai agosáu. Mai Di Dor yw ein hymgyrch fwyaf ni – sy’n galw ar bob rhan o gymdeithas i ymuno mewn mudiad cenedlaethol i greu gofod gwyrdd llewyrchus.
Rydyn ni’n canolbwyntio’r ymgyrch ar fis Mai oherwydd mai ym mis Mai mae’r tymor blodeuo yn dechrau. Mae gadael ardaloedd o laswellt heb eu torri ym mis Mai yn gadael i’r blodau luosogi, gan gynnal bywyd gwyllt yn well dros yr haf. Efallai mai ni sy’n sbarduno Mai Di Dor heddiw, ond mae gan berthnasedd tymhorol Mai 1af wreiddiau llawer dyfnach nag y gall unrhyw ymgyrch fodern ei hawlio.
Roedd Calan Mai neu Galan Haf (sy’n golygu Diwrnod Cyntaf mis Mai neu Ddiwrnod Cyntaf yr Haf) yn ddiwrnod arbennig o ddathlu i’r Cymry. Mewn rhai ardaloedd mae’n parhau i fod yn bwysig. Mae gan yr ŵyl hon darddiad hynafol, gan rannu gwreiddiau diwylliannol â Chalan Mai, Beltane a’r Noson Walpurgis Ewropeaidd. Dim ots beth yw eu gwahaniaethau, mae’r gwyliau hyn yn unedig o ran y dathliad a rennir o’r heulwen sy’n dychwelyd. Mae dyfodiad yr haul yn annog tyfiant planhigion, ac felly’n cynnig addewid o ddigonedd o fwyd.
Yn ystod Calan Mai, byddai pobl yn draddodiadol yn dawnsio, canu a gwledda i ddathlu’r haf ar ôl gaeaf oer a diffrwyth. Byddai lawnt y pentref (‘Twmpath chwarae’) yn cael ei hagor yn swyddogol, a byddai pobl yn ymgynnull yno i ddawnsio, perfformio a chwarae gemau. Mae ‘Twmpath’ yn cyfeirio at dwmpath a fyddai’n cael ei baratoi ar y lawnt. Byddai’n cael ei addurno â changhennau o goed derw, a byddai ffidlwr neu delynor yn eistedd arno, yn chwarae cerddoriaeth yn haul yr hwyr.
Roedd gan ein hynafiaid ni gysylltiad agos iawn â chyfnodau byd natur. Cymaint felly fel bod dyddiadau pwysig ar y calendr tymhorol yn cael eu hystyried yn gysegredig a hyd yn oed yn hudol. Mae llawer o ddathliadau a thraddodiadau Calan Mai yn seiliedig ar ysbrydolrwydd a llên gwerin botanegol.
Ar Ysbrydnos (noswyl Calan Mai, un o’r ‘nosweithiau ysbryd’ Cymreig, pan ddywedir bod y llen rhwng y byd yma a’r byd nesaf yn deneuach) byddai pobl leol yn casglu canghennau a blodau i addurno eu cartrefi, gan ddathlu a chroesawu tyfiant a ffrwythlondeb. Byddai tanau’n cael eu llosgi i gadw ysbrydion drwg draw, a byddai dynion ifanc yn gosod tusw o rosmari wedi’i glymu â rhuban gwyn ar silffoedd ffenestri’r rhai roeddent yn eu hedmygu.
Mae’r ŵyl hefyd yn nodi pwynt arbennig ar y calendr amaethyddol. Dyma’r amser pryd byddai ffermwyr Cymru yn troi eu buchesi allan ar y borfa. Mae arferion o’r math yma’n ein hatgoffa ni bod yr wybodaeth, tan yn gymharol ddiweddar, am sut mae planhigion, anifeiliaid a thirweddau yn newid gyda’r tymhorau, wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn normau diwylliannol.
Y dyddiau hyn, gyda gwres canolog, trydan a bwyd ar gael yn hwylus drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi colli cysylltiad â’r blaned wrth iddi droi. Rydyn ni’n sylwi ar ac yn profi troad y tymhorau, ond i lawer, dydi gaeafau caled yn ddim mwy nag anghyfleustra (er bod hyn ymhell o fod yn wir i bawb). Mae’n anodd i ni ddychmygu arwyddocâd aruthrol dechrau’r haf ar un adeg, a hyd heddiw, i bobl sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar y tir i oroesi.
Mae cofio Calan Mai ac ymwneud â digwyddiadau fel Mai Di Dor yn caniatáu i ni ailgysylltu â’r tymhorau. Maen nhw’n ein hatgoffa ni i diwnio mewn i arferion y Ddaear a dod yn gyfarwydd eto â thwf ac encil byd natur. Mae hefyd yn meithrin ein lles corfforol a meddyliol ni ein hunain. Er ein bod ni’n anghofio hyn weithiau efallai, rydyn ni’n greaduriaid sydd wedi esblygu mewn byd sy’n newid gyda’r tymhorau. Pan rydyn ni’n gwerthfawrogi pa mor ddibynnol ydyn ni ar ein planed a phopeth mae’n ei ddarparu i ni, fe ddaw’n amlwg bod dechrau’r haf yn rhywbeth gwerth canu a dawnsio amdano.
Mae glaswelltiroedd amaethyddol yn rheoli tirwedd wledig Cymru. Mae dod o hyd i ffyrdd o adfer cynefinoedd llawn rhywogaethau i ffermydd yn flaenoriaeth i Plantlife Cymru.
Chris Jones, the Warden of Kenfig National Nature Reserve, recently found the very rare fungus, during a routine survey.
Mae Dave Lamacraft, Arbenigwr Cennau a Bryoffytau Plantlife, yn mynd allan i ddarganfod cyfoeth o gennau rhyfeddol sy’n galw coedwigoedd glaw Cymru yn gartref.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.