Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Discover the magical world of the UK’s wonderful wild plants and fungi and connect with nature near you.
There are many different ways you can go the extra mile for Plantlife – from organising a bake sale, running the London Marathon or planning your own plant-themed event.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Natur Am Byth!
Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.
Ar gopaon uchel Yr Wyddfa ac ar y Glyderau mae fforest sydd fawr ddim mwy na throedfedd o uchder yn tyfu. Coedwig o Feryw Juniperus communis subsp. nana yn swatio yng nghanol y creigiau yn yr holltau a’r agennau. Maen nhw ym mhob man, os edrychwch chi yn y mannau cywir, yn crwydro drwy’r tyweirch tenau ac yn ymledu dros y creigiau.
Os ewch chi ati i sgrialu dros gribau danheddog Crib Goch a Chrib y Ddysgl fe welwch chi nhw, ar Esgair Felen maen nhw’n ymdreiglo i lawr y clogwyni ac ar rannau uchaf Llwybr Watkin fe fyddwch chi’n cerdded drwy ganol y ‘goedwig fach’ yma. Lliwedd, un o gopaon lloeren Yr Wyddfa, sydd â’r nifer mwyaf o’r coedwigoedd hyn ac yma mae’n amhosibl peidio â sylwi arnyn nhw, er efallai na fyddwch chi’n sylweddoli mai coed ydyn nhw.
Mae eu boncyffion cam a chnotiog yn cadw’n agos at y ddaear, yn nannedd yr oerfel a’r gwynt yn y llecynnau agored lle maen nhw’n tyfu. Mae’r coed bach yma’n greiriau rhewlifol o gyfnod rhwng oesoedd yr iâ, fel llawer o’n rhywogaethau Arctig–Alpaidd.
Maen nhw’n gwneud eu gorau glas i oroesi yn y lleoliadau lleiaf hygyrch ar ein mynyddoedd ni lle maen nhw’n dod o hyd i loches rhag y geifr a’r defaid a’r hanes maith o glirio ein coetiroedd mynyddig.
Mae’r planhigion Meryw yma, ochr yn ochr â’r Helyg Bach, Salix repens, yn gyrion uchaf darniog math arbennig o goetir sydd wedi diflannu bron o fynyddoedd Eryri.
Coetir o Helyg crebachlyd, Meryw a choed a llwyni ‘Krummholz’ eraill sy’n tyfu ar lefel isel. Mae ‘Krummholz’ yn air Almaeneg sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio coed cnotiog, corachlyd sy’n gwthio’n uchel i’r mynyddoedd er mwyn goroesi mewn cyflwr clymog ac ystumiedig.
Ar un adeg byddai’r coetir prysglog, byr yma wedi lledu o tua 450m o uchder, y goedlin naturiol, i gopaon Eryri bron. Mewn mannau eraill ym Mhrydain mae i’w weld yn Ucheldir yr Alban ac mae darnau yn Ardal y Llynnoedd. Mae’n dal ei dir yma yng Nghymru ar yr ymylon a’r silffoedd lle nad yw pobl a phorwyr erioed wedi mentro.
Nid yw coed Eryri wedi’u cofnodi’n ddigonol, gyda chofnodion cyfyngedig am y coed ar y mynyddoedd uchel, felly mae cymaint mwy i’w ddeall o hyd am y coedwigoedd hynod uchel yma.
Yn ddiweddar, tra oeddwn i allan yn dringo, fe wnes i ddarganfod rhywogaeth o goeden nad oeddwn i’n disgwyl ei gweld ar silff, sef Ceirios yr Adar Prunus padus. Mae darganfod y goeden geirios yma’n cysylltu ein coetiroedd mynydd ni’n fwy uniongyrchol fyth â rhai’r Alban lle mae Ceirios yr Aderyn yn nodwedd gyffredin.
Darllenwch fwy am y gwaith y mae Natur am Byth! yn ei wneud drwy brosiect Tlysau Mynydd Eryri, ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor, er mwyn deall y coedwigoedd bach ond hynod ddiddorol yma yn well.
Juniper growing on the steep cliffs of Eryri
Mae manteision eang i’w cael o adfer y brithwaith yma o goetir Alpaidd. Mae’r cynefin yma’n ecolegol hanfodol, oherwydd mae coed a llwyni mynyddig yn arbennig o bwysig i infertebrata ac mae llawer o’r rhywogaethau coediog hyn yn gartref i amrywiaeth eang o ffyngau ectomicorhisal endemig. Yn ogystal, gall cynefin coetir mynyddig a phrysgwydd Helyg ddarparu gwarchodaeth rhag tywydd eithafol i gymunedau o berlysiau tal a phlanhigion Alpaidd prin a fyddai fel arall mewn hinsawdd agored iawn ac yn ei chael yn anodd goroesi mewn amgylcheddau Alpaidd.
Mae’r amrywiaeth cynyddol sy’n cael ei alluogi gan y cymunedau ucheldirol coediog hyn yn cael effeithiau cadarnhaol ar famaliaid bach ac adar fel Mwyalchen y Mynydd. Mae olyniaeth yn y cynefinoedd coediog yma’n adeiladu deunydd organig yn y pridd drwy eu sbwriel dail. Mae’r coetiroedd hyn yn lleihau erydiad drwy adeiladu’r priddoedd yma a hefyd atal dŵr ffo sy’n lleihau effeithiau llifogydd.
Felly, os ydych chi’n bwriadu mynd am drip i gopa’r Wyddfa yn y dyfodol agos, cadwch lygad am y goedwig rydych chi’n cerdded drwyddi a rhowch ennyd i aros a meddwl sut byddai’r mynyddoedd yma wedi edrych cyn i’w coetiroedd ddiflannu bron a meddwl hefyd am y rhywogaethau eraill a gollwyd gyda hwy a sut gallent edrych eto.
Want to support our work? However you choose to support, you will be helping to champion wild plants and fungi, helping us to protect nature, tackle the impacts of climate change and support people and communities.
The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.
The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.
Yn 2022 wynebodd Lizzie Wilberforce yr her o geisio dysgu adnabod rhai o rywogaethau mwyaf cyffredin Prydain o fwsoglau a llysiau’r afu, ger ei chartref yng ngorllewin llaith a mwsoglyd Cymru.
Wedi fy ysbrydoli gan Couch to 10 Mosses Lief Bersweden ar Twitter, fe wnes i benderfynu rhoi cynnig arni a dysgu adnabod rhai mwsoglau a llysiau’r afu fy hun, yn annibynnol, ar fy nheithiau cerdded.
Rydw i wedi bod â diddordeb erioed mewn adnabod planhigion, hyd yn oed yn blentyn. Fel oedolyn, rydw i nawr yn gallu adnabod y rhan fwyaf o’r rhywogaethau cyffredin yn fy ardal, ond mae llawer iawn i’w ddysgu o hyd. Roedd bryoffytau, sy’n cael eu hadnabod fel mwsoglau a llysiau’r afu, yn fwy fyth o ddirgelwch i mi.
Roeddwn i bob amser wedi gwerthfawrogi estheteg eu clogynnau gwyrdd meddal sy’n gorchuddio coetir llaith, a gwytnwch llwyr y rhywogaethau bychain, twmpathog sy’n byw yn amodau garw ein waliau cerrig sy’n cynhesu yn yr heulwen.
Roedd eu henwi, fodd bynnag, bob amser yn teimlo fel celfyddyd a oedd y tu hwnt i fy nghyrraedd i
Y cam cyntaf yw gweld dim ond 1 neu 2 o rywogaethau diddorol ond toreithiog pan rydych chi allan am dro, ac wedyn dod â darn bach iawn ohonyn nhw adref i’w ‘allweddu’ – gan ddefnyddio canllaw adnabod i adnabod y rhywogaeth.
Dyma rai cynghorion sydd wedi fy helpu i, ar gyfer pan fyddwch chi wedi gweld eich rhywogaeth gyntaf o fwsogl.
Peidiwch â bod ofn! Mae gan fwsoglau a llysiau’r afu ychydig o enw am fod yn anodd, ond mae’n llawer o hwyl pan fyddwch chi’n mynd ati. Mae edrych ychydig yn agosach drwy lens llaw hefyd yn datgelu lefelau cwbl newydd o gymhlethdod a harddwch yn y planhigion gogoneddus yma.
Mae’r 2 gyhoeddiad yma wedi bod yn hynod ddefnyddiol fel canllawiau adnabod: ‘Mosses and Liverworts of Britain and Ireland’ gan Gymdeithas Fryolegol Prydain ydi’r llyfr rydw i wedi bod yn ei ddefnydio ar gyfer allweddu samplau, ac wrth gwrs mae lens llaw yn hanfodol.
Rydw i hefyd wedi canfod bod y llyfryn ‘A Field Guide to Bryophytes’ gan yr Ymddiriedolaeth Adfer Rhywogaethau wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer adnabod yn gyflym rai o’r rhywogaethau mwyaf cyffredin yr oeddwn yn debygol o ddod ar eu traws yn seiliedig ar gynefin.
Mae gwneud camgymeriadai a mynd yn styc wedi bod yn rhan anochel o fod yn ddechreuwr. Rydw i wedi darganfod bod ap ffôn symudol Google Lens – er ei fod yn wael am adnabod rhywogaethau, weithiau’n gallu gwneud digon i fy nhywys i gyfeiriad newydd os ydw i wedi mynd yn anghywir yn gynnar yn yr allweddu.
Bydd arweinlyfr yn mynd â chi at y rhywogaeth iawn, ond ni fydd bob amser yn dweud wrthych chi pa un neu ddwy nodwedd yw’r hawsaf i’w gweld yn y maes – bydd arbenigwr yn eich helpu chi i ddysgu’r llwybr byr hwnnw’n llawer cyflymach.
Mae fy nghofnodwr sirol i, Sam Bosanquet, wedi bod yn hynod amyneddgar a chymwynasgar. Gallai eich cofnodwr sirol lleol fod â mynediad at fapiau dosbarthu fel Fflora Sirol Sir Gaerfyrddin gan Sam, sy’n dda ar gyfer gwirio – chwiliwch am eich cofnodwr sirol yma.
Rydw i hefyd wedi ymuno â Chymdeithas Fryolegol Prydain yn ddiweddar, sy’n rhoi mynediad i mi at grwpiau a digwyddiadau cofnodi cefnogol.
Rydw i hefyd wedi gorfod derbyn bod fy nysgu i’n dymhorol – ond un o’r pethau gwych am fwsoglau a llysiau’r afu yw eu bod nhw wedi rhoi pethau newydd i mi eu gwneud tua diwedd y flwyddyn.
Weithiau mae’n teimlo fel un cam ymlaen a dau gam yn ôl, gydag enwau hir a nodweddion cymhleth rydw i’n cael anhawster eu cadw yn fy ymennydd. Fodd bynnag, mae ei chofleidio fel proses araf wedi golygu ei bod wedi bod yn hwyl bob amser.
Rydw i’n graddol wella o ran adnabod rhai o’r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn y maes, a bob hyn a hyn, rydw i’n llenwi bwlch ar y mapiau dosbarthu hyd yn oed – sy’n helpu i warchod y rhywogaethau yma ar gyfer y dyfodol.
Mae gwir angen mwy o eiriolwyr a chofnodwyr ar gyfer bryoffytau. Felly, os ydych chi wedi meddwl am roi cynnig arni erioed, ond wedi meddwl eu bod nhw braidd yn heriol – peidiwch! Gosodwch darged o 10 i chi’ch hun a rhowch gynnig arni. Pwy a ŵyr i ble fydd yn mynd â chi nesaf?
Mae Thuidium tamariscinum yn enw braidd yn anodd ei gofio, ond mae ei strwythur cymhleth rhyfeddol tebyg i redyn yn nodedig iawn. Mae’n doreithiog yn y coetiroedd a’r cloddiau sy’n lleol i mi, ac mae’n un o’r mwsoglau cyntaf i mi ddysgu ei adnabod yn y maes.
Plagiochila asplenioides, llysiau’r afu deiliog mawr a oedd yn un o’r rhai cyntaf i ddal fy sylw i ar ymylon ffyrdd lleol.
Darganfyddwch enwau mwsoglau coedwig law dymherus a allai fod mewn coetiroedd yn eich ardal chi!
Yn cael ei hadnabod fel crëwr dolydd byd natur, y Gribell Felen yw’r planhigyn unigol pwysicaf sydd arnoch ei angen wrth greu dôl blodau gwyllt.
Grasslands like meadows and parks are not just home to wildflowers, they are also an important habitat for waxcap fungi.
Meg Griffiths
Wedi meddwl erioed pam fod angen i ni fynd allan i gyfrif planhigion prin?
Meg Griffiths o dîm Plantlife Cymru sy’n adlewyrchu ar haf o ganfod cennau a chasglu data ar gyfer Prosiect Natur am Byth!
Mae Natur am Byth! yn bartneriaeth traws-dacsa, sy’n golygu bod llawer o wahanol sefydliadau’n cydweithio i achub amrywiaeth o rywogaethau – o bryfed a phlanhigion i adar. Mae hyn yn bwysig oherwydd pan fydd unrhyw rywogaeth yn cael ei cholli o ecosystem, mae’n gallu gwneud yr ecosystem gyfan yn wannach ac yn llai abl i ymdopi â newid, dim ots pa fath o rywogaeth ydyw.
Un elfen y mae rhaglen Natur am Byth yn canolbwyntio arni yw rhyfeddodau bach Gororau Cymru. Mae gan yr ardal yma amrywiaeth gyfoethog o fwsoglau a llysiau’r afu, cennau, ffyngau a phryfed. Mae gan y rhywogaethau hyn i gyd un peth yn gyffredin: yn gyffredinol maen nhw’n eithaf bach. Dydi llawer o bobl ddim yn edrych yn ddigon manwl i’w gweld nhw – a dyna beth rydyn ni eisiau ei newid.
Ond cyn i ni allu dechrau gwarchod rhywogaethau prin, mae angen i ni wybod beth yw ein sefyllfa bresennol ni. Mae ‘monitro sylfaen’ yn rhoi darlun i ni o sut gyflwr sydd i’n rhywogaethau targed, a’r safleoedd lle maen nhw’n bodoli – fe allwn ni wedyn ddefnyddio’r data yma i gynllunio sut byddwn ni’n rheoli’r ardaloedd hynny ar gyfer byd natur. Fe allwn ni hefyd dracio sut mae’r rhywogaethau hyn yn adfer yn y dyfodol.
Felly, fe wnes i fynd allan i safleoedd hardd iawn yng Nghanolbarth Cymru i ganfod rhai o rywogaethau targed y prosiect o gennau. Dyma beth wnes i ei ganfod:
Fe all canfod cennau fod fel chwilio am nodwydd mewn tas wair – ond bod y nodwydd mor fach â blaen pin, a choetir ydi’r das wair.
Fe fues i mewn glaw trwm, ar goll yn chwilio am goed, fe fu’n rhaid i mi hel gwartheg oedd yn ceisio bwyta fy llyfr nodiadau i ffwrdd, ac fe wnes i dreulio llawer rhy hir yn syllu drwy fy lens llaw yn edrych ar bob twll a chornel am rai o’r rhyfeddodau bach yma.
Ar adegau roeddwn i’n teimlo fy mod i’n byw yn y deyrnas fechan honno. Roeddwn i’n dod ar draws pryfed ac yn dychryn am fy mywyd wrth feddwl eu bod nhw’n enfawr, ond fe fyddwn i’n tynnu fy llygad oddi wrth y lens llaw ac yn synnu wedyn at gymhlethdod aruthrol y byd enfawr rydyn ni’n byw ynddo.
Mae wedi bod yn bleser gweithio i gasglu’r data y mae posib eu defnyddio i ddangos bod prosiect Natur am Byth yn cael effaith gadarnhaol ac yn cefnogi’r rhywogaethau yma.
Nid yn unig y mae gan y prosiect y potensial i gefnogi’r cennau prin yma i adfer, ond hefyd mae ganddo’r potensial i newid canfyddiadau – gan chwyddo’r bydoedd cudd rydyn ni’n eu hanwybyddu’n ddyddiol ac arddangos y rhyfeddodau bach prin ac arbennig sy’n byw ynddyn nhw.
Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect Adfer Gwyrdd blaenllaw Cymru. Mae’n uno naw elusen amgylcheddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â byd natur. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol dyfarnwyd mwy na £4.1m o’r Gronfa Dreftadaeth i’r bartneriaeth ym mis Mehefin 2023. Mae CNC wedi cyfrannu £1.7m ac mae partneriaid Natur am Byth wedi sicrhau £1.4m pellach gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a chyfranwyr corfforaethol. Mae’r rhain yn cynnwys rhoddion gan Sefydliad Esmée Fairbairn, a chefnogaeth sylweddol gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Hywel Morgan
Learn from Hywel Morgan, Plantlife’s Agricultural Advisor, about how and why he made the switch to nature friendly farming on his 230-acre beef and sheep farm at the western end of the stunning Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons National Park).
‘Roeddwn i’n arfer gwneud llawer o drin, ailhadu a gwrteithio. Mae hyn yn effeithio ar rywogaethau o blanhigion gwyllt a chyflwr y pridd, ac yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr. Fe wnes i sylweddoli hefyd mai dim ond gwneud iawn yn y tymor byr oedden nhw ac nad oedden nhw wir yn talu am gost y straen a’r mewnbwn. Yn aml iawn fel ffermwr rydych chi’n teimlo bod angen i chi fod yn cynhyrchu waeth beth yw’r gost, ond yn ariannol, mae cost mewnbynnau rydych chi’n eu prynu i mewn wedi cynyddu i lefel sydd ymhell o fod yn fforddiadwy.
Fe wnes i newid y system bum mlynedd yn ôl, ar ôl sgwrs gyda Gwas Sifil a ddywedodd y byddai ffermwyr, yn y dyfodol, yn cael eu talu am ffermio sy’n fwy ystyriol i natur. Roedd y trawsnewid yn heriol, yn ariannol ac yn feddyliol: roedd y pwysau gan eraill i ddal ati i ffermio’n gonfensiynol yn enfawr.
Ar ôl y rhyfel roedd y meddylfryd yn ymwneud â chynhyrchu, a byddai ffermwyr tenant wedi colli eu ffermydd oni bai eu bod yn bodloni’r galw. Mae’r athrawiaeth yma wedi dylanwadu ar genedlaethau o ffermwyr ers hynny. Mae’n golygu ein bod ni wedi colli’r cysylltiad rhwng sut a pham rydyn ni’n cynhyrchu’r bwyd, ac rydyn ni weithiau’n anghofio am fanteision bywyd gwyllt o fewn system y fferm.
Mae gwneud y newid wedi golygu gostyngiad mawr mewn costau ac rydw i’n gallu gweld – a mwynhau – manteision gweithio gyda byd natur.
Rydw i’n ceisio cadw popeth yn syml. Rydw i wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cemegau a gwrteithiau. Mae hyn yn helpu i leihau ffrwythlondeb y pridd ac wedyn yn annog tyfiant blodau gwyllt a phlanhigion eraill y glaswelltir sydd angen lefelau isel o faethynnau. Rydw i wedi gweld llawer mwy o Bys-y-ceirw, y Gribell Felen, Milddail a Llyriad ers gwneud y newid. Mae gen i hefyd lawer iawn o wahanol rywogaethau o gapiau cwyr yn fy nghaeau nawr ac mae rhai o bwysigrwydd rhanbarthol hyd yn oed.
Bellach mae fy ngwrychoedd i’n cael tyfu’n dalach ac yn fwy trwchus, a dim ond bob tair blynedd maen nhw’n cael eu tocio. Rydw i hefyd wedi plannu llawer o goed a gwrychoedd dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi creu pwll mawr.
Mae angen amser adfer ar blanhigion ar ôl pori er mwyn iddyn nhw allu ffynnu. Er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd rydw i bellach yn defnyddio pori torfol, sef symud gwartheg mewn cyfnodau byr o bori dwys iawn, a phori byrnau, sy’n galluogi i dda byw fwydo ar fyrnau gwair cyfan. Rydw i wedi stopio prynu porthiant i mewn ar wahân i rywfaint o wair, ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu da byw o ansawdd uchel sy’n bwydo ar borfa.
Roeddwn i angen gwell cydbwysedd rhwng gwahanol fathau o bori, oherwydd mae defaid a buchod yn pori mewn gwahanol ffyrdd, felly llai o ddefaid a chynnydd yn nifer y gwartheg. Heb y rheolaeth gywir, bydd defaid yn bwyta popeth bron, mae gwartheg yn pori mewn ffordd lai dinistriol ac yn gyffredinol maen nhw’n well ar gyfer bioamrywiaeth. Rydw i bob amser yn gweithio i ddarganfod pa gydbwysedd sy’n addas ar gyfer fy nhir i.
Dylai polisi’r llywodraeth wobrwyo ffermydd teuluol llai sy’n ystyriol i fyd natur – mae’n wobr am wneud pethau da sydd o fudd i bob un ohonom ni. Mae angen i fanciau ac archfarchnadoedd gefnogi’r symudiad hwn hefyd gan fod bwyd maethlon ac iach yn rhan o’r ateb ar gyfer yr hinsawdd, yr amgylchedd ac iechyd pobl. Mae angen mwy o gyngor a chefnogaeth o ffermwr i ffermwr hefyd ynghylch amaethyddiaeth adfywiol er mwyn symud i ddyfodol cynaliadwy.
Mae sicrhau diogelwch bwyd yn golygu bwyta yn lleol ac yn dymhorol ac, yn sicr, does dim posib i ni gael system fwyd sefydlog pan mae byd natur yn dirywio. Rydw i’n credu y dylai ffermio sy’n gyfeillgar i natur gael ei alw yn “ffermio” ac y dylai unrhyw beth arall gael ei alw yn ffermio diwydiannol neu gemegol.’
Dod yn warcheidwad glaswelltir a helpu i adfer 10,000 o hectarau o laswelltir llawn rhywogaethau erbyn 2030. Cyfrannwch heddiw.
Yr haf yma mae Plantlife Cymru wedi gweithio’n agos gyda Carolyn Thomas AS, ein Hyrwyddwr Rhywogaethau dros Degeirianau Llydanwyrdd, i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd glaswelltiroedd ymhell ac agos ledled Cymru.
Mae Hyrwyddwyr Rhywogaethau yn Aelodau o Senedd Cymru sydd wedi’u dewis i gynrychioli’r rhywogaethau dan fygythiad a geir yn eu hetholaeth a’u hyrwyddo yn y Senedd a ledled Cymru. Mae Carolyn yn angerddol iawn dros gefnogi ein bywyd gwyllt ni, o reoli gofod gwyrdd sy’n gyfeillgar i fyd natur i wella’r warchodaeth i’n bioamrywiaeth werthfawr.
Eleni, roedd Carolyn yn gallu ymuno â ni ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer cyfrif mawr y Tegeirianau Llydanwyrdd yn ein gwarchodfa natur yng Ngogledd Cymru, Caeau-Tan-y-Bwlch, ym mis Mehefin. Roedd cymryd rhan yn y cyfrif yn golygu ei bod yn gallu cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith o fonitro a deall rhywogaeth brin a hardd.
Fe wnaethom ni gyfrif y nifer uchaf o Degeirianau Llydanwyrdd i’w cofnodi erioed yn y warchodfa ers dros 40 mlynedd – darganfuwyd tua 9,456 o bigau blodau’r planhigyn prin yma yn y ddôl wair ucheldirol amrywiol ger Caernarfon. Soniodd Carolyn am y diwrnod pwysig yma yn ei datganiad yn y Senedd ar 28 Mehefin:
“Ddydd Sadwrn diwethaf, fel hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y Tegeirianau Llydanwyrdd, fe wnes i gymryd rhan mewn cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd mewn dôl blodau gwyllt sy’n eiddo i Plantlife Cymru ac yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd y ddôl yn gyforiog o rywogaethau amrywiol, sydd wedi creu cynefin i lawer o anifeiliaid a phryfed, fel glöynnod byw, buchod coch cwta, mursennod, criciaid, pryfed cop a brogaod bach. Roedd y lle yn fwrlwm byw ac yn hardd iawn.”
Roedd ymweliad arall â dôl hardd ychydig y tu allan i’r Wyddgrug yng ngogledd Cymru ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd yn gyfle perffaith i ni drafod rhai o’r bygythiadau mae ein glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn eu hwynebu. Roedd ein Hyrwyddwr Rhywogaethau yn gallu gweld yn uniongyrchol sut roedd diffyg rheolaeth yn caniatáu i brysgwydd ymledu i’r cynefin glaswelltir gwerthfawr, a hefyd clywed am sut roedd ymdrechion gwirfoddolwyr yn gwarchod y glaswelltir oedd ar ôl.
Bu staff a gwirfoddolwyr o Plantlife Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn sôn hefyd am sut gall darnau hynod werthfawr o laswelltir llawn rhywogaethau lithro’n rhy hawdd drwy’r rhwydi gwarchod a wynebu difrod oherwydd esgeulustod, a hefyd oherwydd datblygiad, defnydd amaethyddol a phlannu coed yn amhriodol.
Roedd digon o amser hefyd i werthfawrogi’r llawenydd o fod mewn lle mor brydferth! Roedden ni’n gallu edmygu’r Tegeirianau Llydanwyrdd Mwyaf a Lleiaf, yn ogystal â’r Tegeirianau Brych, carpedi o Gribau San Ffraid a Briwydd Felen, a chawsom hyd yn oed weld Neidr Ddefaid. Roedd rhywfaint o Glafrllys y Maes cynnar yn dod i flodau, ac roedd dolydd heulog cysgodol yn fwrlwm o löynnod byw a gwyfynod.
Yn ei datganiad i’r cyfarfod llawn cyn yr ymweliad y gallwch ei wylio yma, pwysleisiodd Carolyn i’r Senedd pa mor hanfodol yw gofod gwyrdd ffyniannus ac eiriolodd dros warchod ac adfer ein glaswelltiroedd llawn rhywogaethau.
Diolch yn fawr, Carolyn, am ein cefnogi ni yn ein cenhadaeth i gefnogi glaswelltiroedd a’r cyfoeth o rywogaethau sy’n dibynnu arnyn nhw!
Gwyrdroi’r Coch
Rydyn ni’n gwybod bod rhai rhywogaethau o anifeiliaid mewn perygl yn y byd, ond oeddech chi’n gwybod bod rhai o’n planhigion ni hefyd dan fygythiad o ddifodiant?
Y newyddion da ydi bod eu hachub yn bosibl. Dyma dair rhywogaeth o blanhigion sydd mewn perygl yng Nghymru a’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i ddod â nhw’n ôl o ddibyn difodiant.
Dyma ein hunig rywogaeth frodorol o Greigafal yng Nghymru, ac yn y 1970au dim ond cyn lleied â 6 phlanhigyn oedd ar ôl yn y gwyllt, gan ei roi mewn perygl allweddol yn rhyngwladol!
Dim ond yn IPA y Gogarth ger Llandudno y mae i’w gael, lle mae ein swyddog planhigion fasgwlaidd, Robbie, yn gweithio ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, PONT, a’r ffermwr tenant, Dan Jones, i bori’r tir mewn a ffordd sydd o fudd i’r rhywogaeth.
Mae hyn, ynghyd ag ymdrechion i blannu planhigion ifanc allan, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rydyn ni wedi mynd o 6 i ymhell dros 70 o blanhigion. Rydyn ni nawr yn gweithio gyda myfyrwyr ymchwil, Dan a gardd fotaneg Treborth i ddeall yr effeithiau y mae newidiadau i arferion pori yn eu cael ar y rhywogaeth yma, er mwyn i ni allu deall y ffordd orau o reoli ar ei chyfer yn y dyfodol.
Yr hyn rydyn ni’n ei ganfod yw bod llwyddo i gynnal y rhywogaeth hon yn arwain at sgîl-effeithiau cadarnhaol ar rywogaethau eraill ar y Gogarth, sy’n dangos sut gall gwaith adfer rhywogaethau wedi’i dargedu sicrhau budd rhaeadru cadarnhaol y tu hwnt i’r rhywogaeth honno, allan i’r ecosystem ehangach.
Mae’r planhigyn bach, heulog yma o Gymru, sy’n aelod o deulu dant y llew, mewn perygl allweddol yn rhyngwladol. Mae’n gwneud ei gartref ar lethrau mynyddig mwyaf anhygyrch Eryri, lle mae’n ddiogel rhag unrhyw darfu.
Fodd bynnag, oherwydd y newid yn yr hinsawdd, mae hyd yn oed y noddfeydd hyn yn dod yn anodd byw ynddynt – yn llythrennol ac yn ffigurol mae ar ymyl y dibyn.
Mae ei hoffter o lefydd anhygyrch yn ei gwneud yn broblemus (a dweud y lleiaf) i fonitro’r planhigyn. Fodd bynnag, fe weithiodd cadwraeth a chwaraeon eithafol law yn llaw pan aeth Robbie, Alex Turner a Mike Raine allan ar raffau i chwilio am y trysor mynyddig yma. Mae eu hymdrechion wedi datgelu bod poblogaeth y planhigyn wedi cynyddu o 2 unigolyn, i 4!
Er bod hynny’n brin o hyd, mae’n cynrychioli dyblu poblogaeth fyd-eang y rhywogaeth yma, ac mae’n rhoi gobaith i ni y gall y boblogaeth yma adfer gyda chymorth.
Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn cyllid ar gyfer Natur am Byth!, prosiect adfer rhywogaethau blaenllaw Cymru yr ydyn ni’n rhan ohono, ynghyd â naw elusen amgylcheddol arall. Bydd Robbie yn arwain ar Dlysau Mynydd Eryri er mwyn darparu achubiaeth amhrisiadwy i rywogaethau fel Heboglys yr Wyddfa.
Unwaith y bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i reoli pori gan ddefaid a geifr ar y mynydd, a’r gobaith yw y bydd hyn yn creu mwy o gynefinoedd heb unrhyw darfu i’r rhywogaeth yma sefydlu.
Mae’r em fynyddig yma’n rhan o gyfres o rywogaethau a fu unwaith yn gyffredin ledled y DU ac Ewrop, y planhigion Arctig-Alpaidd.
Yn dilyn yr Oes Iâ ddiwethaf byddai wedi cael ei darganfod dros rannau helaeth o Brydain, ond mae rhywogaethau o’r de sy’n sefydlu wrth i’r tymheredd godi wedi ei gweld yn cilio i’n copaon uchaf ni, lle mae’r tymheredd blynyddol yn ddigon oer.
Mae’r rhywogaeth yma wedi’i dosbarthu fel un sydd dan fygythiad ar restr goch ar lefel y DU, er ei bod wedi’i hasesu’n fyd-eang fel y Pryder Lleiaf (gellir ei chanfod ar draws tirweddau alpaidd Ewrop). Mae pob rhywogaeth yn rhan wirioneddol bwysig o’n treftadaeth naturiol ni ac mae colli rhywogaeth sy’n frodorol i wlad yn golled sylweddol, nid yn unig yn ddiwylliannol, ond yn ecolegol hefyd.
Mae’r tormaen gwridog yn un rhywogaeth o’r fath yr ydyn ni wedi’i cholli, ac mae bellach wedi diflannu o’r gwyllt yng Nghymru. Ond mae ymdrechion ar droed i’w hailgyflwyno i safle profi yn ddiweddarach eleni. Yn rhyfeddol, mae’r planhigion a ddefnyddir o darddiad Cymreig, wedi’u hachub o doriad a gymerwyd yn y 1960au, sy’n golygu y bydd ein hunaniaeth enetig genedlaethol ni ar gyfer y rhywogaeth hon yn cael ei chadw, gan ein galluogi i ailboblogi ein tirwedd unwaith eto.
Ein rhywogaethau ni yw’r rhannau sylfaenol o fioamrywiaeth – po fwyaf o rywogaethau sydd mewn cynefin, y mwyaf amrywiol yw’r cynefin hwnnw. Yr amrywiaeth hon sy’n caniatáu i ecosystemau weithredu’n iach a bod yn wytnach.
Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n colli rhywogaethau i ddifodiant, mae’n tanseilio gallu ein hecosystem i addasu ac ymateb i newid yn yr hinsawdd a bygythiadau dirfodol eraill. Dyma’r prif reswm pam mai adfer rhywogaethau yw un o’n blaenoriaethau ni yn Plantlife. Gyda phartneriaid, rydyn ni’n bwriadu adennill 100 o rywogaethau o blanhigion, a’u symud allan o gategorïau risg difodiant uchel, i gategorïau risg is.
Rydyn ni’n gefnogwyr balch yr ymgyrch fyd-eang Gwyrdroi’r Coch – mudiad sy’n ymroddedig i dynnu sylw at yr holl waith sy’n cael ei wneud i geisio atal difodiant ac atal rhagor o rywogaethau rhag prinhau.
Tiwniwch mewn yn ystod y mis i ddarganfod mwy am y rhywogaethau rydyn ni a’n partneriaid yn gweithio arnynt i Wyrdroi’r Coch a brwydro’n ôl yn erbyn difodiant.
Robbie Blackhall-Miles
Mae Robbie Blackhall-Miles yn rhannu stori am sut mae enw planhigyn mynydd bychan wedi esblygu dros y blynyddoedd, a’i hanes hynod ddiddorol.
Gall enwau planhigion botanegol ddweud pob math o bethau wrthych chi am blanhigyn. Yn aml, maent yn ddisgrifiadol fel Saxifraga oppositifolia – yn llythrennol, y torrwr creigiau dail cyferbyniol. Weithiau, maent yn sôn am y cynefin y mae’r planhigyn i’w weld ynddo neu ei ddefnydd arbennig fel Salvia pratensis – y gwellhad o’r dolydd.
Yn bersonol, mae’n well gen i’r enwau disgrifiadol; y rhai sy’n fy arwain i ble i ddod o hyd i’r planhigyn neu sut i’w adnabod. Gall enwau llafar ar blanhigion, a rhai mewn ieithoedd eraill, fod yr un mor ddisgrifiadol, a dweud am y pethau roedd pobl yn meddwl y dylid eu defnyddio ar eu cyfer, a pham eu bod yn ddigon arwyddocaol i warantu enw.
Mae ambell un yma yng Nghymru rydw i’n hoff iawn ohono. Cronnell (Globeflower) dim ond am y ffordd mae’n swnio, Merywen (Juniper) – oherwydd ei fod mor wahanol i unrhyw un o’r enwau Saesneg cyffredin a Derig (Mountain Avens).
Yn ein tŷ ni mae ‘Our Derig’ wedi dod yn enw hoffus ar gyfer planhigyn rydyn ni’n ymweld ag ef bob blwyddyn. Mae’r etymoleg – astudiaeth o darddiad geiriau – yn gysylltiedig â rhywbeth mwy na hyn serch hynny ac, yn yr achos yma, y dail yn hytrach na’r blodau sy’n arwyddocaol.
Mae’n syndod i mi bod pobl Cymru, yn ogystal â Carl Linnaeus a roddodd ei enw binomaidd iddo yn ei ‘Systema Naturae’ a gyhoeddwyd yn 1735, wedi sylwi ar debygrwydd ei ddail i dderw bychan. Yr enw ddewisodd Linnaeus ei roi i Mountain Avens oedd Dryas octopetala.
Yn ei lyfr ‘Flora Lapponica’ (1737) ysgrifennodd Linnaeus “I have called this plant Dryas after the dryads, the nymphs that live in oaks, since the leaf has a certain likeness to the oak leaf…. We found it, a gorgeous white flower with eight petals that quivered in the cool breeze”. Hanner duwiau oedd y Dryads, ac roedd eu bywydau ynghlwm wrth fywyd y dderwen yr oeddent yn byw ynddi. Ym mytholeg Groeg nid oedd posib torri coeden heb wneud heddwch â’r dryad oedd yn byw ynddi i ddechrau.
Mae’r enw Cymraeg ar y planhigyn yn ystyried yr un tebygrwydd i’r dderwen gyda’r enw’n dod o ‘dâr’ ac ‘ig’; Mae ‘Dâr’ yn golygu derw (ystyr Derwen yw Oaktree) ac mae ‘ig’ yn lleihad o’r Gymraeg ‘bachigol’ sy’n golygu llai.
Cyhoeddwyd yr enw Cymraeg Derig am y tro cyntaf yn Flora Britannica gan J.E. Smith rhwng 1800 a 1804, ac fe’i cyhoeddwyd eto gan Hugh Davies yn ei Welsh Botanology (1813). Mae’r cyhoeddiad cynnar hwn o’r enw yma’n arwain at y syniad ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol cyn hynny a bod y bobl leol yn adnabod y planhigyn o Gymru.
Yn 1798 aeth y botanegydd y Parchedig John Evans ar daith o amgylch Gogledd Cymru ond ni lwyddodd i ddringo’r Wyddfa erioed. Er gwaethaf hyn ysgrifennodd Evans am lwybrau tywyswyr yr Wyddfa i fyny’r mynydd a’r planhigion oedd i’w gweld yno. Mae’n ddiddorol ei fod yn rhestru’r Derig ymhlith y planhigion hyn er nad oes tystiolaeth iddo gael ei ddarganfod ar y mynydd hwnnw erioed.
Roedd yn 1857 cyn i’r casglwr planhigion William Williams ddarganfod Derig ym mynyddoedd Eryri, yn uchel uwchben Cwm Idwal. Yn ddiweddarach, cyhuddwyd Williams o blannu’r rhywogaeth ar y safle hwn, oherwydd roedd amheuaeth ei fod yn plannu rhywogaethau prin er mwyn sefydlu ei enwogrwydd ymhellach fel tywysydd botanegol. Roedd yn 1946 cyn i ail safle i’r Derig gael ei ddarganfod gan Evan Roberts yn y Carneddau.
Dim ond mewn dau safle yng Nghymru y mae Derig i’w ganfod o hyd ond mae ychydig o safleoedd eraill, gan gynnwys ar Yr Wyddfa, lle mae’r gymuned o blanhigion y mae’n rhannu ei ddau gartref hysbys â nhw yn bodoli.
Felly, beth sydd mewn enw? Yn yr achos yma, mae’n gipolwg rhyfeddol ar wybodaeth leol am blanhigion, yn enwedig ‘derwen fechan iawn’ nad oedd ei darganfyddwyr cyntaf yn fotanegwyr o fri ar y pryd. Yn yr achos hwn mae’n ymddangos yn debygol bod y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr ag ef yn ei adnabod yn dda, yn sicr yn ddigon da i’w adnabod a rhoi ei enw ei hun iddo.
Diolch i Lizzie Wilberforce, Dewi Jones ac Elinor Gwynn am helpu gyda’r ymchwil ar gyfer y blog yma.
Llun diolch i – Derig yn Welsh Botanology, Hugh Davies, 1813, tudalen 182 pt. 1-2 – Welsh botanology … – Biodiversity Heritage Library (biodiversitylibrary.org)
Plantlife Volunteer Story
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae dolydd bioamrywiol yn cael eu creu? Mae aelodau a gwirfoddolwyr Plantlife, Andrew a Helen Martin, yn byw ar dyddyn 5 erw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Yma maen nhw’n adrodd ‘Stori’r Ddôl’ sydd ganddyn nhw yn eu geiriau eu hunain, a sut mae eu cae bellach yn hafan i degeirianau a phlanhigion prin.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyhoedd wedi cael eu rhybuddio gan y cyfryngau i bryderu am ddirywiad mewn pryfed, yn enwedig gwenyn. Fel cyn wyddonydd ymchwil cacwn, doedd hyn ddim yn newyddion i mi oherwydd bod yr amrywiaeth o rywogaethau o gacwn wedi crebachu’n sylweddol yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Does dim llawer o amheuaeth mai newidiadau mawr mewn amaethyddiaeth yn y DU (ac felly’r rhan fwyaf o’n tirwedd ni) sy’n gyfrifol.
Yn syml iawn, does dim cymaint o flodau yng nghefn gwlad nawr ag yr oedd (am dros 1,000 o flynyddoedd) Felly, i ni, roedd bob amser yn uchelgais cael ychydig bach o gefn gwlad ein hunain y gallem ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth, ac ar ôl i mi ymddeol yn gynnar, a Helen yn colli ei swydd, fe wnaethon ni symud ar ein hunion i gefn gwlad Cymru yn 2012.
Roedd ein caeau ni wedi bod yn cael eu pori gan ddefaid am gyhyd ag y gallai unrhyw un yn lleol gofio, ac fe wnaethon ni benderfynu rheoli un o’n rhai ni fel dôl wair. Mae ymchwil wedi dangos bod amrywiaeth y planhigion mewn dôl newydd yn cynyddu’n gyflymach os byddwch yn cyflwyno’r Gribell Felen, sy’n rhannol barasitig ar laswelltau ac yn atal eu tyfiant. Felly, yn 2013, fe wnaethon ni gasglu hadau’r Gribell Felen o gae cymydog tua milltir i ffwrdd a’u hau yn y cae. Fe ddechreuon ni wahardd y defaid bob blwyddyn o ddiwedd mis Mawrth ac erbyn mis Ebrill 2014 roedd y Gribell Felen yn tyfu’n dda.
Yng nghanol mis Mehefin 2014 cawsom y ffermwr cyfagos i dorri a belio’r cae, ond penderfynwyd y byddai’n well yn y dyfodol dewis pryd i dorri ac felly cawsom dractor o 1963 a rhywfaint o offer belio gwair ar raddfa fechan.
Ar gyfer amrywiaeth o flodau, y prif beth yw sicrhau bod yr holl laswellt sy’n cael ei dorri’n cael ei symud o’r cae i leihau ffrwythlondeb y pridd; a’r ffordd hawsaf i wneud hyn yw drwy dorri a belio’r gwair. Mae’r cyfan rydyn ni’n ei gynhyrchu’n cael ei werthu i’r ffermwr y mae ei ddefaid yn dychwelyd ar ôl torri’r gwair pan fydd y glaswellt yn aildyfu.
Pa rywogaethau ymddangosodd?
Bob blwyddyn, mae goruchafiaeth gwahanol rywogaethau’n cynyddu ac yn lleihau fel y dywedodd y cofnodwr planhigion sirol fyddai’n digwydd. Ymddangosodd Effros ar ôl ychydig o flynyddoedd, fel y gwnaeth Carwy Droellennog (y Blodyn Sirol), a’r Melynydd.
Mae’n debyg bod rhai planhigion (fel y Blodyn Menyn) yno’n barod, ond byth yn blodeuo oherwydd bod y defaid yn eu bwyta. Ymddangosodd y Galdrist Lydanddail yn 2016, ac yn 2017, un Tegeirian-y-Gors Deheuol. Dilynodd y Tegeirian Brych a Thegeirian Brych y Rhos (gyda hybridau rhyngddynt), a bob blwyddyn mae niferoedd y tegeirianau wedi cynyddu, roedd hyd at 50 ychydig flynyddoedd yn ôl ac ymhell dros 100 erbyn hyn.
Mae’r cae yn edrych yn wahanol wrth i wahanol blanhigion flodeuo ar ôl ei gilydd, ond mae hyd yn oed yn edrych yn wahanol ar yr un diwrnod yn y bore ac yn y prynhawn oherwydd bod blodau’r Melynydd yn cau tua amser cinio, felly mae’r cae yn llawer melynach yn y bore.
Yn y bore
Yn y prynhawn
Mae Plantlife wedi gwneud gwaith gwerthfawr tuag at gyrraedd y nod hwnnw (yn enwedig gyda’r ymgyrch “Gweirgloddiau Gwych” yn ddiweddar). Mae Grwpiau Dolydd Sirol yn gwneud eu rhan hefyd i helpu perchnogion tir bach i gael canlyniadau fel y cae yma, ac yn y grŵp rydw i’n ei gadeirio (Sir Gaerfyrddin), rydyn ni hefyd yn ceisio codi proffil glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn gyffredinol gyda’r “Big Meadow Search” (www.bigmeadowsearch.co.uk) ledled y DU gyfan.
Does dim llawer o bobl ar ôl sy’n cofio pan oedd dôl wair ar bob fferm, ond gobeithio y gallwn ni lwyddo i ddod â rhai yn ôl.
Become a grassland guardian and help restore 10,000 hectares of species-rich grassland by 2030. Donate today.
Mae ein gwarchodfeydd ni yng Nghymru yn gartref i amrywiaeth enfawr o flodau gwyllt, ond mae’r ddwy yn enwog yn genedlaethol am eu poblogaethau o degeirianau llydanwyrdd.
Mae Meg Griffiths yn rhannu sut a pham rydym yn cyfrif y ddwy rywogaeth o degeirianau llydanwyrdd ym Mhrydain yn ein gwarchodfeydd natur ni yng Nghymru, a sut bydd yn gwarchod y planhigion prin hyn ar gyfer y dyfodol.
Mae’r amser hwnnw o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto! Mae’n ganol haf ac rydyn ni eisoes wedi gweld olyniaeth drawiadol o blanhigion gwyllt yn blodeuo yn ystod y misoedd diwethaf. Nawr ein bod ni wedi ffarwelio â blodau’r gwynt a’r ddraenen wen yn dechrau pylu, rydyn ni’n croesawu toreth y tegeirianau.
Mae tegeirianau llydanwyrdd yn blanhigion cain, hardd, gydag un pigyn blodeuog yn cynnwys llawer o flodau gwyrdd golau, hufennog. Mae pob blodyn yn debyg i wyfyn bach (neu löyn byw) yn hedfan, gyda’i adenydd yn ymestyn allan. Maen nhw’n bersawrus ac i’w gweld yn tyfu mewn ystod amrywiol o gynefinoedd, o rostiroedd a chorsydd i goetiroedd, ond yn fwyaf cyffredin maent i’w gweld mewn glaswelltiroedd a dolydd heb eu haflonyddu.
Mae dwy rywogaeth, y Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf Platanthera chlorantha a’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf Platanthera bifolia. Mae angen llygad arbenigwr i ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt, sy’n ddim mwy na’r ongl rhwng organau cario paill (pollinia) y planhigyn.
Mae’r ddwy rywogaeth yn cael eu peillio gan wyfynod. Yn ystod y nos, yr arwydd cyntaf y bydd gwyfyn yn sylwi arno yw persawr y tegeirian – unwaith y bydd yn nes bydd y blodau gwelw yn sefyll allan yn erbyn y tywyllwch.
Yn anffodus, mae’r ddwy rywogaeth yma’n prinhau’n ddramatig yn genedlaethol. Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf sy’n gwneud orau o’r ddwy rywogaeth, ond mae’n parhau i gael ei ddosbarthu fel Dan Fygythiad Agos yn y DU. Mae’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf wedi’i asesu’n Fregus ar Restr Goch Planhigion Fasgwlaidd y DU ac mae wedi diflannu o dros hanner ei amrediad blaenorol yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae’r dirywiad ar draws y ddwy rywogaeth oherwydd newidiadau mewn rheolaeth ar laswelltir amaethyddol – mae angen rheolaeth gyson ar y rhywogaethau hyn dros gyfnod hir i ffynnu. Gallai newid niweidiol mewn defnydd tir gynnwys gormod (neu rhy ychydig) o bori, draenio caeau, a hyd yn oed ychwanegu gwrtaith cemegol. Mae’r tegeirianau’n dibynnu ar ffwng pridd i oroesi, a gall cemegau amaethyddol ladd y rhwydwaith cynnal bywyd anweledig yma.
Diolch byth, gan fod eu cynefinoedd yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod yn ein gwarchodfeydd ni, mae’r rhywogaethau yma’n parhau i ffynnu. I fod yn sicr o hyn, bob blwyddyn rydyn ni’n cymryd rhan yn y cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd i fonitro sut mae ein poblogaethau ni o’r planhigion hardd yma’n gwneud.
Niferoedd y tegeirianau llydanwyrdd eleni ar gyfer gwarchodfa Plantlife yng Ngogledd Cymru, Caeau-Tan-y-Bwlch, sy’n cael ei rheoli’n fedrus gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Niferoedd y tegeirianau llydanwyrdd eleni ar gyfer gwarchodfa Plantlife ger Llanbedr Pont Steffan, Cae-Blaen-Dyffryn.
Mae monitro sut maen nhw’n gwneud yn rhan bwysig o ddeall ein gwarchodfeydd ni, a gwneud dewisiadau rheoli da. Mae ein dwy warchodfa natur ni yng Nghymru yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac mae’r ddwy yn rhestru’r Tegeirianau Llydanwyrdd fel nodwedd hysbysu – felly mae dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod y poblogaethau’n parhau mewn cyflwr da.
Rydyn ni eisiau gallu dangos bod y ffordd rydyn ni’n rheoli tir o fudd iddyn nhw, a gall cyfrif nifer y tegeirianau bob blwyddyn, a chasglu gwybodaeth ategol am y cynefinoedd, ein helpu ni i addasu ein rheolaeth ar y safleoedd pan fydd angen. Mae hyn yn ein galluogi ni i roi’r cyfle gorau posibl i’r tegeirianau wrth symud ymlaen.
Lizzie Wilberforce
Mae’r gwanwyn yn amser cyffrous i fod yn ein gwarchodfeydd natur ni. Mis Mai ac Mehefin ydi’r mis pan fydd y dolydd yn ffrwydro yn llawn bywyd, gyda thyfiant toreithiog a blodau tymhorol.
Cae Blaen-dyffryn yw ein gwarchodfa natur ni yn ne Cymru a gellir ei chanfod yn agos at dref Llanbedr Pont Steffan, yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei phoblogaeth o’r Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf a Lleiaf (Platanthera chlorantha & P. bifolia) sy’n blodeuo pan mae’r haf yn ei anterth.
Fodd bynnag, mae ymweliad yn y gwanwyn bob amser yn werth chweil. Mae tyfiant ffres, ir y glaswelltir yn cael ei fwydo gan haul cynnes a glaw toreithiog. Mae’r gog yn galw o fryniau pell. Yn y warchodfa, mae Corhedydd y Waun yn syrthio o’r awyr uwch eich pen gyda’i gân yn rhaeadru, ac mae Clochdar y Cerrig yn galw’n glir o’r prysgwydd.
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r rhywogaethau o blanhigion sy’n blodeuo gynharaf yn torri trwodd yng Nghae Blaen-dyffryn ym mis Mai. Os edrychwch chi’n ofalus, gallwch hefyd ddod o hyd i arwyddion hardd eraill, fel dail pluog y Carwy Droellennog Carum verticillatum (‘Blodyn Sirol’ Sir Gaerfyrddin) yn procio drwodd.
Ym mis Mai, mae’r rhai mwyaf niferus yn cynnwys y Melog y Cŵn pinc (yn y llun) Pedicularis sylvatica, y Glesyn y Cŵn porffor Ajuga reptans, a’r Tresgl y Moch melyn Potentilla erecta, felly mae’r warchodfa eisoes yn enfys o liw.
Mae llwyni gwasgaredig o Fanadl (yn y llun) Cytisus scoparius ac Eithin Ulex europaeus yn eu côt felen lawn o flodau tymhorol hefyd. Cyn gynted ag y bydd yr haul yn eu taro, maen nhw’n fwrlwm o bryfed peillio mewn dim o dro.
Gellir dod o hyd i ddail brith tegeirianau Dactylorhiza (yn y llun) hefyd yn sbecian rhwng y clytiau toreithiog o’r Bengaled Centaurea nigra a’r Melynydd Hypochaeris radicata.
Mae ein gwarchodfa natur ni yng Ngogledd Cymru, ar lethr bryn uwchben Clynnog-Fawr ar Benrhyn Llŷn, yr un mor adnabyddus am ei phoblogaeth o Degeirianau Llydanwyrdd Mwyaf sydd yn eu miloedd ar y safle.
Mae’r dolydd o dan fwlch y mynydd yn wynebu tua’r gogledd ddwyrain, gan eu gwneud yn llecyn boreol i ymweld ag ef os ydych chi’n dymuno eu mwynhau yn yr heulwen yr adeg yma o’r flwyddyn. Maen nhw yr un mor brydferth yng nglaw Gogledd Cymru, fodd bynnag.
Mae’r cloddiau (waliau o bridd a cherrig) rhwng y caeau yn werth eu gweld fel y dolydd, gyda’u pennau o Griafol, Eirian Sbaen, Drain Gwynion a Drain Duon. Os edrychwch chi o dan y coed, mae’r Fioled Gyffredin Viola riviniana yn cuddio ymhlith gwreiddiau’r coed a’r meini mawr.
Mae’r tegeirianau eisoes i’w gweld ar y ddôl ac mae’r Gribell Felen Rhinanthus minor yn dechrau blodeuo.
Mae ambell Lygad Ebrill (yn y llun) Ficaria verna yn dal eu tir ond mae blodau melyn a chlociau gwyn y Dant y Llew Taraxacum spp yn cyferbynnu’n hyfryd â glas Clychau’r Gog Hyacinthus non-scripta, sy’n cyferbynnu wedyn â dail pluog y Cnau Daear Conopodium majus.
Mae’r Hesgen Gynnar Carex caryophyllea yn gyforiog ar y safle ond os edrychwch chi’n ofalus iawn rhyngddi a’r rhywogaethau amlycach, fe welwch chi ddail a blodau gwyrdd serennog bach y Fantell Fair Ganolig (yn y llun) Alchemilla xanthochlora a’r Fantell Fair Lefn Alchemilla glabra. Os byddwch chi’n ymweld yn y bore ar ddiwrnod gwlithog o wanwyn, byddwch yn siŵr o weld y planhigion yma’n driw iawn i’w henw arall, sef ‘Cwpan y Gwlith’.
Mae rhywbeth hyfryd iawn am yr ymdeimlad o addewid a geir o laswelltiroedd llawn blodau yr adeg yma o’r flwyddyn. A theimlad na allwch chi aros i ddod yn ôl i weld beth ddewch chi ddod o hyd iddo y tro nesaf.
Mae Caeau Tan y Bwlch yn cael eu rheoli ar ran Plantlife gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
I gael mwy o fanylion am ymweld â’n gwarchodfeydd natur ni yng Nghymru yn y gwanwyn a thrwy gydol y flwyddyn, ewch i’n tudalen gwarchodfeydd ni yma Gwarchodfeydd Natur Cymru – Plantlife
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.