Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Experience the wonders of nature and its rich biodiversity through our events and activities
Help us expand our nature reserve in Dorset. Donate to help us create more space for nature.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Nid dim ond coed sy’n dal ac yn storio carbon – fe all ein dolydd a’n glaswelltiroedd ni chwarae rhan bwysig hefyd.
Os ydych chi’n cymryd rhan ym Mai Di Dor eleni, bydd eich gardd ar ei ffordd i ddod yn hafan hardd a bioamrywiol i natur. Ond mae bonws i’w gael o helpu’r blodau gwyllt i dyfu – wrth i chi adael i lawnt ddod yn ddôl, daw eich gardd yn storfa garbon i chi’ch hun, gan helpu i leihau eich ôl troed carbon.
Pan fydd pobl yn sôn am ddal a storio carbon, mae’r rhan fwyaf yn meddwl am goed. Fel cymdeithas rydyn ni’n fwy ymwybodol nag erioed o’r blaen o rôl coetiroedd wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd a chreu gofod ar gyfer byd natur. Mae llawer llai o drafod ar y rôl hynod a’r un mor hanfodol y gall ein glaswelltiroedd a’n dolydd ni ei chwarae wrth gynyddu bioamrywiaeth a dal a storio carbon o’r atmosffer.
Pan fyddwn ni’n creu glaswelltiroedd a dolydd iach drwy dorri’r glaswellt neu gael da byw i bori, rydyn ni’n syml yn efelychu gweithgarwch y gyrroedd o lysysyddion gwyllt mawr a arferai symud ar draws ein bryniau a’n dyffrynnoedd. Mae’r cynefinoedd yma – os yw’r pori’n ysgafn, yn anaml ac ar ddwysedd isel – yn ail-greu tirweddau cynhanesyddol ac yn darparu cartref i’n planhigion gwyllt ni, trychfilod, adar a ffyngau. Mae glaswelltiroedd naturiol a lled-naturiol (sy’n golygu’r rhai sy’n cael eu ffermio ond mewn ffordd draddodiadol, llai dwys) yn gwella ansawdd ein dŵr, yn atal llifogydd ac yn helpu i gynyddu gwydnwch ffermio i sychder yr haf.
Mae gan y glaswelltir yma – a’r pridd iach oddi tano – botensial anhygoel ac anhysbys hefyd i gloi carbon atmosfferig. Mae carbon pridd yn storfa arbennig o werthfawr; mae’n llawer mwy sefydlog a pharhaol na’r carbon mewn coed, sy’n agored i niwed o danau coedwig, plâu a chlefydau.
Wrth i blanhigion fyw a thyfu, mae carbon o’r atmosffer yn cael ei dynnu i lawr i wreiddiau’r planhigion, lle mae’r myrdd o greaduriaid yn y pridd yn ei ddefnyddio, gan ei gloi i ffwrdd o dan y ddaear. Wrth i amrywiaeth y planhigion ar yr wyneb gynyddu, felly hefyd yr amrywiaeth o ficro-organebau, ffyngau ac infertebrata oddi tanodd. Po fwyaf amrywiol yw bywyd y pridd, y cyfoethocaf yw’r ecosystem gyfan – a’r mwyaf o garbon y gall y pridd ei storio.
Mae rôl bron yn gyfriniol y ffyngau mycorhisol yn gyfarwydd bellach. Maen nhw’n cysylltu gwreiddiau â’r maethynnau yn y pridd, gan fasnachu siwgrau y mae planhigion a choed yn eu creu o olau’r haul gyda mwynau wedi’u cloi i ffwrdd y mae ffyngau’n eu tynnu o’r pridd. Rydyn ni’n gwybod bellach y gall planhigion a choed gyfathrebu drwy’r rhwydweithiau ffyngaidd yma, gan eu hysbysu am blâu a chlefydau a throsglwyddo maethynnau i eraill sydd mewn angen.
Mae gan ffyngau mycorhisol rôl bwysig arall – maen nhw’n hollbwysig yng ngallu planhigion i drosglwyddo carbon i’r pridd. Mewn ardaloedd o dir fferm, dolydd a gerddi lle mae’r pridd yn cael ei aredig, ei wrteithio neu ei reoli gan nifer bach o rywogaethau glaswellt, mae’r rhwydweithiau mycorhisol yma’n llawer llai effeithiol – gyda llai o rywogaethau a photensial storio carbon is. Pan fyddwn yn gofalu am ein tir fferm a’n gerddi yn ofalus, gan dorri a phori’n anaml ac yn ysgafn, ac osgoi aredig a phlaladdwyr, rydym yn meithrin ein ffyngau mycorhisol, gan helpu’r pridd i ddod yn storfa garbon fwy grymus.
Drwy gymryd rhan ym Mai Di Dor, byddwch nid yn unig yn dechrau creu cartref i flodau gwyllt a phryfed, ond byddwch hefyd yn creu priddoedd iachach sy’n rhoi maeth i blanhigion eich gardd – ac yn lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
Mae gan Loegr yn unig tua 640,000 hectar o erddi preifat. Pe bai dim ond chwarter yr ardal yma’n cael ei thrawsnewid yn ddôl llawn blodau gwyllt – drwy dorri dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn a chasglu’r toriadau – gallai’r priddoedd gardd yma ddal a storio swm ychwanegol o garbon sy’n cyfateb i fwy na 3 miliwn o allyriadau ceir blynyddol arferol o fewn dyfnder rhaw, ac ymhell dros 10 miliwn o geir mewn priddoedd mor ddwfn ag un metr*.
Un rhan yn unig o’r pos yw lawntiau a gerddi wrth gwrs – mae tirwedd glaswelltir amaethyddol y DU yn cynnig potensial aruthrol i ni ddal a storio carbon, a hefyd gwarchod amaethyddiaeth a bioamrywiaeth.
Mae gan ffermwyr a pherchnogion tir rôl sylfaenol i’w chwarae – gan gyfuno cynhyrchiant bwyd â glaswelltiroedd cynaliadwy sy’n cloi carbon mewn priddoedd iach, ecolegol gyfoethog. Mae tua 40% o arwynebedd tir y DU yn laswelltir – ond mae llawer o hwn yn cael ei ffermio’n ddwys, gan gyfyngu ar ei botensial ar gyfer storio carbon.
Yn fyd-eang, mae astudiaethau wedi awgrymu y gallai 2.3 i 7.3 biliwn o dunelli cyfwerth â CO2 y flwyddyn gael eu dal a’u storio drwy adfer amrywiaeth glaswelltiroedd.
Nid yw dal a storio carbon yn golygu mwy o goed yn unig. Mae glaswelltir iach, gyda phori mwy sensitif a’r ffermio llai dwys sy’n ei feithrin, hefyd yn cadw carbon allan o’r atmosffer.
Dim ots pa mor fawr neu fach yw ein gardd ni, mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, a gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth. Mae’n hawdd dechrau arni – rhowch eich peiriant torri glaswellt i gadw yn ystod mis Mai eleni!
Cyfle i ddarganfod y coetiroedd cam, cnotiog ar gopaon uchaf, gwylltaf Cymru, wrth i Robbie Blackhall-Miles ddatgelu cyfrinachau coetiroedd bach ond hudolus Eryri, sef Meryw a Helyg Bach.
Plantlife's Road Verges Advisor Mark Schofield reveals how to keep your thriving No Mow May flowering lawn blossoming into June.
Nid yw glaswelltiroedd, fel dolydd a pharciau, yn gartref i flodau gwyllt yn unig, maent hefyd yn gynefin pwysig ar gyfer math lliwgar o ffyngau sy’n ffafrio tir fferm yn hytrach na fforestydd – capiau cwyr.
Bob hydref mae un o arddangosfeydd naturiol mwyaf lliwgar y DU i’w gweld: mae capiau cwyr lliwiau gemau’n ymddangos drwy’r glaswellt ar draws ein cefn gwlad a’n dinasoedd ni, a hyd yn oed rhai o’n gerddi. Beth am i ni ddod o hyd iddyn nhw!
Mae capiau cwyr yn fathau o fadarch sy’n adnabyddus am eu capiau sgleiniog yr olwg. Ochr yn ochr â mathau eraill o ffyngau gydag enwau rhyfeddol a diddorol, fel tagellau pinc, tafodau daear, ffyngau clwb a chwrel – maen nhw’n ffurfio teulu o’r enw “ffyngau’r glaswelltir capiau cwyr”.
Mae ffyngau’r glaswelltir capiau cwyr i’w gweld mewn enfys o liwiau gwahanol gan gynnwys fioledau, melyn, gwyrdd a phinc llachar.
Maen nhw hefyd yn dod mewn siapiau rhyfedd a rhyfeddol, a all eich helpu chi i adnabod y rhywogaeth rydych chi’n edrych arni.
Chris Jones yw Warden Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, un o’n safleoedd Twyni Deinamig ni, ac mae wedi gweithio fel cadwraethwr ymarferol ers dros 25 mlynedd.
Cynffig yw un o systemau twyni tywod mwyaf Cymru ac mae’n darparu cynefin unigryw ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau prin ac arbenigol, gan gynnwys mwy nag 20 rhywogaeth o ffyngau Capiau Cwyr.
‘Mae ffyngau capiau cwyr i’w gweld yn gyffredin mewn glaswelltiroedd a dolydd, ac maen nhw’n adnabyddus am eu pwysigrwydd ecolegol. Maen nhw i’w gweld yn aml mewn ardaloedd lle mae llystyfiant byr, wedi’i bori, ond gallant hefyd fod mewn cynefinoedd lle mae tarfu’n digwydd, fel lawntiau ac ar hyd ymylon ffyrdd.
Mae capiau cwyr i’w gweld yn bennaf ddiwedd yr haf a’r hydref, fel arfer o fis Medi i fis Tachwedd, yn dibynnu ar y tywydd lleol – ond gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r dolydd lle mae capiau cwyr i’w gweld yn cael eu hadnabod fel ‘glaswelltiroedd capiau cwyr’. Mae angen amodau penodol ar y glaswelltiroedd hyn er mwyn i gapiau cwyr ffynnu ac maent yn mynd yn brin.
Ar laswelltiroedd capiau cwyr, mae ffyngau capiau cwyr yn ffurfio partneriaethau gyda phlanhigion, lle maent yn cyfnewid maethynnau â gwreiddiau’r planhigion cynnal, gan fod o fudd i’r ffyngau a’r planhigion. Dim ond mewn cynefinoedd sydd â lefel uchel o fioamrywiaeth mae hyn yn digwydd, ac mae yn ceisio adnabod y rhain.
Mae ffyngau capiau cwyr yn hynod ddiddorol, nid yn unig oherwydd eu lliwiau llachar, ond hefyd oherwydd eu harwyddocâd fel dangosyddion glaswelltiroedd iach. Mae eu cadwraeth yn bwysig ar gyfer cynnal bioamrywiaeth a chadw’r ffyngau unigryw a hardd yma er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Mae llawer o rywogaethau o gapiau cwyr yn cael eu hystyried yn brin neu dan fygythiad, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd a newidiadau mewn arferion rheoli tir fel plannu coed ac amaethu dwys. Os dewch chi o hyd i rai, cofnodwch nhw ar yr ap Waxcap Watch.
Rydw i’n CARU Capiau Cwyr, maen nhw’n ANHYGOEL! Mae’n chwerthinllyd o anodd dewis ffefryn, ond pe bai’n rhaid i mi ddewis byddai’n… bob un ohonyn nhw.’
Yr hydref yma, helpwch Plantlife i ddod o hyd i ffyngau pwysicaf a mwyaf lliwgar Prydain – capiau cwyr.
The beautiful mountain plant, Rosy Saxifrage, has returned to the wild in Wales after becoming extinct in 1962.
The Wild Leek has been a symbol of Wales for so long that its stories date back to St David himself.
Meg Griffiths
Yr haf yma mae Plantlife Cymru wedi gweithio’n agos gyda Carolyn Thomas AS, ein Hyrwyddwr Rhywogaethau dros Degeirianau Llydanwyrdd, i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd glaswelltiroedd ymhell ac agos ledled Cymru.
Mae Hyrwyddwyr Rhywogaethau yn Aelodau o Senedd Cymru sydd wedi’u dewis i gynrychioli’r rhywogaethau dan fygythiad a geir yn eu hetholaeth a’u hyrwyddo yn y Senedd a ledled Cymru. Mae Carolyn yn angerddol iawn dros gefnogi ein bywyd gwyllt ni, o reoli gofod gwyrdd sy’n gyfeillgar i fyd natur i wella’r warchodaeth i’n bioamrywiaeth werthfawr.
Eleni, roedd Carolyn yn gallu ymuno â ni ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer cyfrif mawr y Tegeirianau Llydanwyrdd yn ein gwarchodfa natur yng Ngogledd Cymru, Caeau-Tan-y-Bwlch, ym mis Mehefin. Roedd cymryd rhan yn y cyfrif yn golygu ei bod yn gallu cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith o fonitro a deall rhywogaeth brin a hardd.
Fe wnaethom ni gyfrif y nifer uchaf o Degeirianau Llydanwyrdd i’w cofnodi erioed yn y warchodfa ers dros 40 mlynedd – darganfuwyd tua 9,456 o bigau blodau’r planhigyn prin yma yn y ddôl wair ucheldirol amrywiol ger Caernarfon. Soniodd Carolyn am y diwrnod pwysig yma yn ei datganiad yn y Senedd ar 28 Mehefin:
“Ddydd Sadwrn diwethaf, fel hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y Tegeirianau Llydanwyrdd, fe wnes i gymryd rhan mewn cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd mewn dôl blodau gwyllt sy’n eiddo i Plantlife Cymru ac yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd y ddôl yn gyforiog o rywogaethau amrywiol, sydd wedi creu cynefin i lawer o anifeiliaid a phryfed, fel glöynnod byw, buchod coch cwta, mursennod, criciaid, pryfed cop a brogaod bach. Roedd y lle yn fwrlwm byw ac yn hardd iawn.”
Roedd ymweliad arall â dôl hardd ychydig y tu allan i’r Wyddgrug yng ngogledd Cymru ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd yn gyfle perffaith i ni drafod rhai o’r bygythiadau mae ein glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn eu hwynebu. Roedd ein Hyrwyddwr Rhywogaethau yn gallu gweld yn uniongyrchol sut roedd diffyg rheolaeth yn caniatáu i brysgwydd ymledu i’r cynefin glaswelltir gwerthfawr, a hefyd clywed am sut roedd ymdrechion gwirfoddolwyr yn gwarchod y glaswelltir oedd ar ôl.
Bu staff a gwirfoddolwyr o Plantlife Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn sôn hefyd am sut gall darnau hynod werthfawr o laswelltir llawn rhywogaethau lithro’n rhy hawdd drwy’r rhwydi gwarchod a wynebu difrod oherwydd esgeulustod, a hefyd oherwydd datblygiad, defnydd amaethyddol a phlannu coed yn amhriodol.
Roedd digon o amser hefyd i werthfawrogi’r llawenydd o fod mewn lle mor brydferth! Roedden ni’n gallu edmygu’r Tegeirianau Llydanwyrdd Mwyaf a Lleiaf, yn ogystal â’r Tegeirianau Brych, carpedi o Gribau San Ffraid a Briwydd Felen, a chawsom hyd yn oed weld Neidr Ddefaid. Roedd rhywfaint o Glafrllys y Maes cynnar yn dod i flodau, ac roedd dolydd heulog cysgodol yn fwrlwm o löynnod byw a gwyfynod.
Yn ei datganiad i’r cyfarfod llawn cyn yr ymweliad y gallwch ei wylio yma, pwysleisiodd Carolyn i’r Senedd pa mor hanfodol yw gofod gwyrdd ffyniannus ac eiriolodd dros warchod ac adfer ein glaswelltiroedd llawn rhywogaethau.
Diolch yn fawr, Carolyn, am ein cefnogi ni yn ein cenhadaeth i gefnogi glaswelltiroedd a’r cyfoeth o rywogaethau sy’n dibynnu arnyn nhw!
Dod yn warcheidwad glaswelltir a helpu i adfer 10,000 o hectarau o laswelltir llawn rhywogaethau erbyn 2030. Cyfrannwch heddiw.
Mae ein gwarchodfeydd ni yng Nghymru yn gartref i amrywiaeth enfawr o flodau gwyllt, ond mae’r ddwy yn enwog yn genedlaethol am eu poblogaethau o degeirianau llydanwyrdd.
Mae Meg Griffiths yn rhannu sut a pham rydym yn cyfrif y ddwy rywogaeth o degeirianau llydanwyrdd ym Mhrydain yn ein gwarchodfeydd natur ni yng Nghymru, a sut bydd yn gwarchod y planhigion prin hyn ar gyfer y dyfodol.
Mae’r amser hwnnw o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto! Mae’n ganol haf ac rydyn ni eisoes wedi gweld olyniaeth drawiadol o blanhigion gwyllt yn blodeuo yn ystod y misoedd diwethaf. Nawr ein bod ni wedi ffarwelio â blodau’r gwynt a’r ddraenen wen yn dechrau pylu, rydyn ni’n croesawu toreth y tegeirianau.
Mae tegeirianau llydanwyrdd yn blanhigion cain, hardd, gydag un pigyn blodeuog yn cynnwys llawer o flodau gwyrdd golau, hufennog. Mae pob blodyn yn debyg i wyfyn bach (neu löyn byw) yn hedfan, gyda’i adenydd yn ymestyn allan. Maen nhw’n bersawrus ac i’w gweld yn tyfu mewn ystod amrywiol o gynefinoedd, o rostiroedd a chorsydd i goetiroedd, ond yn fwyaf cyffredin maent i’w gweld mewn glaswelltiroedd a dolydd heb eu haflonyddu.
Mae dwy rywogaeth, y Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf Platanthera chlorantha a’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf Platanthera bifolia. Mae angen llygad arbenigwr i ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt, sy’n ddim mwy na’r ongl rhwng organau cario paill (pollinia) y planhigyn.
Mae’r ddwy rywogaeth yn cael eu peillio gan wyfynod. Yn ystod y nos, yr arwydd cyntaf y bydd gwyfyn yn sylwi arno yw persawr y tegeirian – unwaith y bydd yn nes bydd y blodau gwelw yn sefyll allan yn erbyn y tywyllwch.
Yn anffodus, mae’r ddwy rywogaeth yma’n prinhau’n ddramatig yn genedlaethol. Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf sy’n gwneud orau o’r ddwy rywogaeth, ond mae’n parhau i gael ei ddosbarthu fel Dan Fygythiad Agos yn y DU. Mae’r Tegeirian Llydanwyrdd Lleiaf wedi’i asesu’n Fregus ar Restr Goch Planhigion Fasgwlaidd y DU ac mae wedi diflannu o dros hanner ei amrediad blaenorol yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae’r dirywiad ar draws y ddwy rywogaeth oherwydd newidiadau mewn rheolaeth ar laswelltir amaethyddol – mae angen rheolaeth gyson ar y rhywogaethau hyn dros gyfnod hir i ffynnu. Gallai newid niweidiol mewn defnydd tir gynnwys gormod (neu rhy ychydig) o bori, draenio caeau, a hyd yn oed ychwanegu gwrtaith cemegol. Mae’r tegeirianau’n dibynnu ar ffwng pridd i oroesi, a gall cemegau amaethyddol ladd y rhwydwaith cynnal bywyd anweledig yma.
Diolch byth, gan fod eu cynefinoedd yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod yn ein gwarchodfeydd ni, mae’r rhywogaethau yma’n parhau i ffynnu. I fod yn sicr o hyn, bob blwyddyn rydyn ni’n cymryd rhan yn y cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd i fonitro sut mae ein poblogaethau ni o’r planhigion hardd yma’n gwneud.
Niferoedd y tegeirianau llydanwyrdd eleni ar gyfer gwarchodfa Plantlife yng Ngogledd Cymru, Caeau-Tan-y-Bwlch, sy’n cael ei rheoli’n fedrus gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Niferoedd y tegeirianau llydanwyrdd eleni ar gyfer gwarchodfa Plantlife ger Llanbedr Pont Steffan, Cae-Blaen-Dyffryn.
Mae monitro sut maen nhw’n gwneud yn rhan bwysig o ddeall ein gwarchodfeydd ni, a gwneud dewisiadau rheoli da. Mae ein dwy warchodfa natur ni yng Nghymru yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac mae’r ddwy yn rhestru’r Tegeirianau Llydanwyrdd fel nodwedd hysbysu – felly mae dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod y poblogaethau’n parhau mewn cyflwr da.
Rydyn ni eisiau gallu dangos bod y ffordd rydyn ni’n rheoli tir o fudd iddyn nhw, a gall cyfrif nifer y tegeirianau bob blwyddyn, a chasglu gwybodaeth ategol am y cynefinoedd, ein helpu ni i addasu ein rheolaeth ar y safleoedd pan fydd angen. Mae hyn yn ein galluogi ni i roi’r cyfle gorau posibl i’r tegeirianau wrth symud ymlaen.
Robbie Blackhall-Miles
Beth sydd gan gopaon mynyddoedd Eryri a lawntiau ein gerddi ni’n gyffredin?
Mae Robbie Blackhall-Miles, arbenigwr Planhigion Fasgwlaidd Plantlife, yn esbonio sut mae pori’n gweithio i warchod ein cynefinoedd mwyaf cyfoethog ni o ran rhywogaethau.
Ym Mhrydain, amaethyddiaeth ydi’r grym cryfaf yn y cymunedau o blanhigion sydd gennym ni, ac mae da byw ffermydd yn allweddol wrth efelychu effeithiau symudiad cyson y buchesi gwyllt o anifeiliaid pori a oedd unwaith yn crwydro ein cefn gwlad. Mae llawer, os nad pob un, o’n cymunedau o blanhigion yn dibynnu ar ryw fath o bori neu dynnu llystyfiant i sicrhau eu bod yn goroesi.
Gall dealltwriaeth o bori cadwraeth, torri gwair a rheoli prysgwydd helpu ein cynefinoedd mwyaf cyfoethog o ran rhywogaethau i ffynnu.
Mae gorbori yn un o’r problemau allweddol i rywogaethau Arctig Alpaidd, er enghraifft, ond wrth gwrs, nid dyma’r unig broblem o reidrwydd. I rai, fel planhigion sy’n byw mewn glaswelltir calchaidd, gall diffyg pori fod yr un mor broblemus. Neu efallai mai’r broblem ydi nad ydi’r gymuned o blanhigion yn cael ei phori gan y math cywir o anifail? Neu nad yw’n cael ei phori ar yr amser iawn o’r flwyddyn? Neu pan fydd yn cael ei phori, does dim digon o’r anifeiliaid sydd angen i’w phori? Neu efallai gormod? Cymaint o gwestiynau!
Mae’n gwestiwn rydw i’n ei ofyn i mi fy hun yn aml, ac yn un a gododd pan wnaethom ddatblygu prosiect Tlysau Mynydd Eryri Eryri’s Mountain Jewels sy’n rhan o Natur am Byth!. Gyda 10 rhywogaeth wahanol iawn o blanhigion a 2 rywogaeth o infertebrata, rhaid i ni feddwl am sawl ffordd wahanol o sicrhau bod y rhain i gyd yn cael gofal.
Ar gyfer ein rhywogaethau llysieuol tal, fel Lliflys y Mynydd Saussurea alpina a Heboglys Eryri Hieracium snowdoniense, mae bron yn sicr bod angen i ni ystyried pori gyda gwartheg yn yr Hydref ac efallai pwl byr o bori ddechrau mis Mai.
Ar gyfer y glaswelltir calchaidd llawn Teim, gyda’i gyflenwad o effros prin (fel effros Cymreig Euphrasia cambrica), sydd mor bwysig i Chwilen Enfys Eryri Chrysolina cerealis, mae’n debyg ein bod ni angen defaid hyd at ddiwedd mis Ebrill ac wedyn dim byd tan gyfnod yn hwyr ym mis Awst neu fis Medi.
Ac ar gyfer Derig Dryas octopetala, mae’n debyg nad ydyn ni eisiau unrhyw borwyr yn agos ato tan y gaeaf. Os yw coed neu fieri yn dechrau rheoli cynefin, mae angen gyr o eifr ond os ydyn ni eisiau cael rhywfaint o brysgwydd mynyddig o Feryw a Helyg gyda pherlysiau tal o amgylch yr ymylon, ni ddylai’r geifr fynd yn agos.
Drwy gael cyfuniad o’r holl anifeiliaid pori yma yn cael eu rheoli a’u symud i’r llefydd iawn ar yr amser iawn o’r flwyddyn, gallwn yn sicr roi cynnig ar gael yr amodau’n iawn ar gyfer popeth.
Ond yr hyn sy’n ddiddorol am y cwestiwn yma ydi ei fod yn berthnasol hefyd i’n lawntiau ni. Mae #MaiDiDor yn ein hannog ni i adael ein lawntiau heb eu torri am fis cyfan. Gallwn ei ymestyn i ‘Blodau Diderfyn Mehefin’ ond erbyn hynny bydd Llygad y Dydd, Dant y Llew a blodau eraill tyweirch byr dechrau mis Mai wedi mynd ac wedi cael eu tagu gan lu o rywogaethau eraill.
Sut gallwn ni sicrhau ein bod yn plesio’r holl rywogaethau fel ein bod yn gallu plesio ein holl bryfed peillio? Wel, fe allwn ni roi cynnig da iawn arni drwy efelychu rhai o’r anifeiliaid pori hynny gyda’n peiriannau strimio a thorri lawnt.
I greu’r tapestri cywir o uchder lawnt yn yr ardd, gallwn ddefnyddio ein peiriant torri gwair i greu llwybrau drwy ein lawntiau dolydd, gan newid llif y llwybrau (ac osgoi rhai o’r planhigion arbennig efallai sydd wedi sefydlu yn y lawnt heb ei thorri) ar sail reolaidd. Nod y torri ar hap yma ydi efelychu anifeiliaid pori sy’n symud drwy’r dirwedd.
Gallwn hyd yn oed efelychu’r gwahanol fathau o anifeiliaid pori drwy ddewis uchder gwahanol i dorri’r llwybrau. Os ydych chi eisiau Llygad y Dydd eto, byddwch fel dafad a thorri’n fyr; os ydych chi eisiau i’r Bengaled a Llygad-llo Mawr ailflodeuo yn nes ymlaen yn ystod y tymor, gallwch fod yn fuwch a thorri rhai ohonyn nhw cyn iddyn nhw orffen blodeuo; os cewch chi fieri neu ddanadl poethion, ewch ati i’w torri nhw i lawr at y ddaear fel gafr.
Drwy adael rhai darnau’n dal, rhai darnau o uchder canolig a rhai darnau’n fyr byddwch yn creu brithwaith diddorol o wahanol gynefinoedd lawnt sy’n addas ar gyfer cymaint o wahanol rywogaethau â phosib. Ar ddiwedd y flwyddyn, cyn i’r glaswellt ddechrau troi’n frown a gollwng ei hadau, un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud ar gyfer eich dôl lawnt yw ei phori i lawr yn gyfan gwbl (yn union fel y byddai buches enfawr o ych gwyllt yn ei wneud wrth fudo) ac ailddechrau’r broses ar gyfer hwyl #MaiDiDor y flwyddyn nesaf.
Wrth reoli glaswelltir a phrysgwydd mynyddig ar gyfer planhigion Arctig Alpaidd prin neu lawnt #MaiDiDor, mae rheolaeth cadwraeth yn adnodd pwysig i sicrhau ein bod yn ceisio plesio’r holl rywogaethau bob amser cymaint ag y gallwn ni. Nid yw’n wyddoniaeth berffaith, fanwl gywir, ac mae’n newid o flwyddyn i flwyddyn, ac o rywogaeth i rywogaeth, ond mae’r egwyddorion yno ac, ar gyfer glaswelltiroedd, pori (neu dorri) y gwair sy’n allweddol.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.